Dangos 839266 canlyniad

Disgrifiad archifol
Rhagolwg argraffu Gweld:

9559 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Ymddiswyddiad Zonia M. Bowen,

Papurau, 1965-2007, a gasglwyd ynghyd gan Zonia M. Bowen yn ymwneud â'r anghydfod ynghylch lle crefydd yng nghyfarfodydd swyddogol Merched y Wawr a arweiniodd at ymddiswyddiad Zonia M. Bowen fel Llywydd Anrhydeddus Cenedlaethol ac aelod o'r Mudiad yn 1975. Mae'r ffeil yn cynnwys crynodeb o'r hanes gan Zonia M. Bowen, 2007; teipysgrif sgwrs gyda Zonia M. Bowen yn trafod yr anghydfod ar gyfer prosiect hanes llafar, 2001; gohebiaeth rhwng Zonia M. Bowen a'r Cyngor Cenedlaethol yn trafod y mater; copi o'r llythyr ymddiswyddo, 1975; a llythyrau a datganiadau i'r wasg yn esbonio ochr Zonia M. Bowen o'r ddadl.

Ymddiriedolaeth J. R. D. Abbey

Gohebiaeth, 1984-1986 a1988; yn trafod sefydlu Ymddiriedolaeth James R. Abbey i ariannu Astudiaethau Celtaidd yn Brifysgol Harvard, yn cynnwys llythyrau oddi wrth James R. Abbey; R. Geraint Gruffydd; John V. Kelleher; J.E. Caerwyn Williams; Charles W. Dunn; Gareth Owen; a Peter M. Ryan. Mae’r ffeil yn cynnwys hefyd copi o gytundeb yr Ymddiriedolaeth, 1984 & 1985.

Ymddeoliad

Cyfrol ‘Rhoddedig i Alun M. E. Davies ar ei ymddeoliad o Lyfrgell y Brifysgol, Mawrth 1997’ ar ôl 36 mlynedd yn gweithio yn Llyfrgell Prifysgol Aberystwyth yn cynnwys casgliad o luniau.

Canlyniadau 1041 i 1060 o 839266