Identity area
Reference code
Title
Date(s)
- 1873-1971 (Creation)
Level of description
Fonds
Extent and medium
0.161 metrau ciwbig (6 bocs)
Context area
Name of creator
Biographical history
Yr oedd Robert William Parry (1884-1956), bardd a darlithydd o Dal-y-sarn, Dyffryn Nantlle. sir Gaernarfon, yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn symud i Fangor ac astudio dan John Morris-Jones, gan raddio yn 1908. Yn 1910 enillodd ei awdl 'Yr Haf' Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Colwyn. Bu'n athro yn y Barri, Morgannwg, ac wedyn yng Nghaerdydd. Rhwng 1916 a 1918 bu'n gwasanaethu yn y fyddin; ysbrydolwyd ef i lunio llawer soned ynghyd â'i englynion er cof am Hedd Wyn yn ystod y cyfnod hwn. Yn 1922 cafodd ei benodi yn ddarlithydd ym Mangor, sir Gaernarfon, a symudodd i Fethesda, sir Gaernarfon. Cyhoeddwyd ei gyfrol gyntaf o gerddi, 'Yr Haf a Cherddi eraill', yn 1924, gan sicrhau iddo'r bri o fod yn fardd mawr. Cyhoeddwyd ei ail gyfrol o gerddi, 'Cerddi'r Gaeaf' yn 1952. Priododd Myfanwy Williams Parry (1898-1971) yn 1923.
Archival history
Parhaodd gweddw Robert Williams Parry ac wedyn ei brawd, J. Maldwyn Davies, i ychwanegu deunydd yn ymwneud ag RWP ar ôl ei farwolaeth.
Immediate source of acquisition or transfer
Mr J. Maldwyn Davies, brawd Myfanwy Williams Parry; Wrecsam; Pryniad; 1977
Content and structure area
Scope and content
Papurau Robert Williams Parry, 1873-1971, gan gynnwys llawysgrifau, copïau teipysgrif a phrintiedig o gerddi Robert Williams Parry (yn bennaf rhai cyhoeddedig, gyda pheth amrywiadau), [1900]-[1956]; cyfieithiadau o'i gerddi,1941-1942; cerddi gan bobl eraill a anfonwyd at RWP, 1943-1956; erthyglau gan RWP ar feirdd a barddoniaeth,1911-1933; cyfieithiadau RWP o ddramâu Saesneg, [20fed ganrif]; sgriptiau radio gan RWP, 1941-1953, a sgriptiau radio rhaglenni ar RWP, 1956; erthyglau RWP i gylchgronau, 1918-1957; erthyglau ar RWP a'i waith, 1925-1959; llyfrau nodiadau yn cynnwys nodiadau RWP ar lenyddiaeth Gymraeg a'r ieithoedd Celtaidd, [20fed ganrif]; llythyrau at RWP, 1908-1954; llythyrau yn llongyfarch RWP, 1910-1953; copïau o lythyrau RWP at Aneirin Talfan Davies, 1937-1949 llythyrau RWP at Myfanwy Williams Parry, 1935-1953; llythyrau eraill a phapurau Myfanwy Williams Parry, 1953-1971; llythyrau'n cydymdeimlo â Myfanwy Williams Parry, 1956; llythyrau at J. Maldwyn Davies, 1971-1975; cardiau post, cardiau Nadolig a chardiau coffa, [20fed ganrif]; dyddiaduron poced RWP a Myfanwy Williams Parry, 1923-1969; tystysgrifau geni, priodi a marw a chopi o ewyllys RWP, 1884-1956; adroddiadau ysgol, tystysgrifau a cheisiadau am swyddi, 1896-1914; copïau o bapurau arholiad, 1938-1944; torion papur newydd yn ymwneud ag RWP, 1907-1971; taflenni apêl Cofeb R. Williams Parry, 1956-1971; llyfrau printiedig, 1890-1969; a phapurau amrywiol, 1873-1969. = Papers of Robert Williams Parry, 1873-1971, comprising manuscripts, typescripts and printed copies of poems by Robert Williams Parry (mainly published, with some variations), [1900]-[1956]; translations of his poems, 1941-1942; poems by others addressed to RWP, 1943-1956; articles by RWP on poets and poetry, 1911-1933; translations by RWP of English plays, [20th century]; radio scripts by RWP, 1941-1953, and radio scripts of programmes about RWP, 1956; magazine articles by RWP, 1918-1957; articles on RWP and his work, 1925-1959; notebooks containing notes by RWP on Welsh literature and Celtic languages, [20th century]; lecture notes of RWP on Welsh literature and individual poets, [20th century]; letters to RWP, 1908-1954; letters of congratulation to RWP, 1910-1953; copies of letters from RWP to Aneirin Talfan Davies, 1937-1949; letters of RWP to Myfanwy Williams Parry, 1935-1953; other letters to papers of Myfanwy Williams Parry, 1953-1971; letters of condolence to Myfanwy Williams Parry, 1956; letters to J. Maldwyn Davies, 1971-1975; postcards, Chritsmas cards and memorial cards, [20th century]; pocket diaries of RWP and Myfanwy Williams Parry, 1923-1969; birth, marriage and death certificates and copy of RWP's will, 1884-1956; school reports, certificates and job applications, 1896-1914; copies of examination papers, 1938-1944; newspaper cuttings relating to RWP, 1907-1971; pamphlets of the Cofeb R. Williams Parry appeal, 1956-1971; printed books, 1890-1969; and miscellaneous papers, 1873-1969.
Appraisal, destruction and scheduling
Action: Cadwyd yr holl gofnodion a brynwyd gan LlGC.
Accruals
System of arrangement
Trefnwyd yn ôl math a dyddiad.
Conditions of access and use area
Conditions governing access
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Conditions governing reproduction
Amodau hawlfraint arferol.
Language of material
- Welsh
- English
Script of material
Language and script notes
Cymraeg, Saesneg.
Physical characteristics and technical requirements
Finding aids
Mae copi caled o'r catalog ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ceir mynediad i'r catalog ar lein.
Allied materials area
Existence and location of originals
Existence and location of copies
Related units of description
Notes area
Note
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif. Mae rhai papurau teuluol yn rhagddyddio bywyd R. Williams Parry; ychwanegwyd deunydd diweddarach gan Myfanwy Parry Williams a'i brawd J. Maldwyn Davies ar ôl ei farwolaeth.
Note
Ffeil (292a) oedd gynt dan embargo bellach ar gael (Gorffennaf 2014).
Alternative identifier(s)
Virtua system control number
Project identifier
Access points
Place access points
Name access points
- Pwyllgor Cofeb Genedlaethol R. Williams Parry (Subject)
- Parry, Myfanwy Williams, 1898-1971 -- Archives (Subject)
- Parry, Robert Williams -- Archives. (Subject)
- Parry, Myfanwy Williams, 1898-1971 (Subject)
- Davies, Aneirin Talfan. (Subject)
Genre access points
Description control area
Description identifier
Institution identifier
Rules and/or conventions used
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH
Status
Level of detail
Dates of creation revision deletion
Mawrth 2003 a Gorffennaf 2014.
Language(s)
- Welsh
Script(s)
Sources
Archivist's note
Lluniwyd gan Annette Strauch a Martin Locock i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellu canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Papurau R. Williams Parry; Jones, Lewis Bedwyr, Robert Williams Parry (Cyfres Writers of Wales, 1972); Stephens, Meic, Oxford Companion to the Literature of Wales (Rhydychen, 1986); Stevens, Meic (gol.), The Arts in Wales (Cyngor Celfyddydau Cymru, 1979);