Showing 309 results

Archival description
Sub-fonds Welsh
Print preview View:

Rhodd Chwefror 1960

Y rhan o gasgliad Thomas Gwynn Jones (1871-1949), bardd ac ysgolhaig, a dderbyniwyd yn rhodd gan ei weddw yn Chwefror 1960. Ceir disgrifiad bras o'r grwp hwn yn Adroddiad Blynyddol 1959-60, tt. 31-2. Trefn: Gohebiaeth (A 1-1818); Papurau llenyddol amrywiol (A 1819-1857); Darlithiau ac anerchiadau (A 1858-2134); Deunydd printiedig (A 2135-2136).

Rhodd Awst 1960

Papurau Thomas Gwynn Jones (1871-1949), bardd ac ysgolhaig, a dderbyniwyd yn rhodd gan ei weddw yn Awst 1960. Ceir disgrifiad bras o'r grwp hwn yn Adroddiad Blynyddol 1960-61, tt. 31-32. Trefn: Gohebiaeth (B 1-308); Papurau llenyddol amrywiol (B 309-324); Cyfieithiadau (B 325-327); Deunydd mewn Gwyddeleg (B 328-331); Adysgrifau (B 332-339); Darlithiau ac anerchiadau (B 340-481); Sgriptiau radio ac adolygiadau ar lyfrau (B 482-494); Gwahanlithoedd a thoriadau o'r wasg (B 495-509); a Phapurau amrywiol (B 510-524).

Rhodd 2019

Sgriptiau, 1931-2010, rhaglenni radio a theledu'r BBC a ddarlledwyd - neu yr oedd bwriad i'w darlledu - yng Nghymru. Mae'r sgriptiau yn ymwneud ag ystod eang o bynciau yn cynnwys newyddion, drama, adloniant ysgafn, cerddoriaeth, chwaraeon, crefydd, addysg a rhaglenni ar gyfer plant.

Mae rhai o'r sgriptiau yn cynnwys iaith a syniadau a allai beri tramgwydd i ddarllenwyr.

BBC Wales

Rhodd 1999,

Rhoddwyd cofysgrifau capeli ac eitemau eraill yn ymwneud ag Eglwys Bresbyteraidd Cymru gydag Archifau'r Methodistiaid Calfinaidd.

Results 41 to 60 of 309