Dangos 567 canlyniad

Disgrifiad archifol
cyfres
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Gohebiaeth,

Gohebiaeth gyffredinol yn ymdrin yn bennaf â gweithgaredd a gweinyddiaeth y gymdeithas ac yn arbennig â chyhoeddi'r Casglwr.

Torion o'r wasg,

Llyfrau lloffion, wedi eu creu gan Zonia M. Bowen, yn cynnwys torion o'r wasg, 1967-2007, yn ymwneud â hanes Merched y Wawr o'r flwyddyn ei sefydlwyd yn 1967 hyd at ymddiswyddiad Zonia M. Bowen o'r Mudiad yn 1975. Hefyd, ceir rhai erthyglau yn sôn am ddathliadau penblwydd cangen y Parc yn 2007.

Gohebiaeth,

Gohebiaeth, 1968-2008, yn cynnwys llythyrau yn ymwneud â gwaith Meic Povey yn gyffredinol, 1968-2008; gohebiaeth yn trafod y ddrama Life of Ryan...and Ronnie, 2000-2007; a pheth gohebiaeth bersonol, 1987-2006.

Deunydd printiedig,

Deunydd printiedig yn ymwneud â gwaith Gwenlyn Parry, 1962-1991, yn cynnwys llyfr lloffion, 1962-1966; rhaglenni theatr a phosteri, 1966-1991; cylchgronau, 1973-1988; a thorion o'r wasg, [1978-1991].

Papurau amrywiol,

Papurau amrywiol, 1967-2007, yn cynnwys anerchiadau Zonia M. Bowen, 1967-1974; papurau'n ymwneud ag ymddiswyddiad Zonia M. Bowen o'r Mudiad, 1965-2007; a chrynodebau o hanes sefydlu'r Mudiad, 1975-2004.

Papurau personol a theyrngedau,

Papurau personol a theyrngedau, 1962-1993, yn cynnwys gohebiaeth, 1962-1989; papurau'n ymwneud â'r Academi Gymreig, 1967-[1987]; papurau personol, 1971-1993; cerddi, 1971-[1991]; a sgript drama deyrnged i Gwenlyn Parry, I Gofio Gwenlyn, 1992.

Traethodau,

Traethawd 'Golwg ar hanes ardal Llawrybetws neu Nantffreuer: o Bethel i lawr i Gaefaes' a ysgrifennodd D. Tecwyn Lloyd ar hanes lleol bro ei febyd, 'o gof personol ac amryfal gofnodion', gan ganolbwyntio ar anheddau'r ardal.

Iolo Morganwg

Cyhoeddiadau a phapurau ymchwil G. J. Williams, [1916x1963], ar fywyd a gwaith Iolo Morganwg, gan gynnwys drafftiau o'r gyfrol Iolo Morganwg (Caerdydd, 1956); darlithoedd, [1916x1963]; nodiadau helaeth, [1916x1963]; adysgrifau o lawysgrifau Iolo, [1916x1963]; a llawysgrif yr erthygl 'Cywyddau'r Ychwanegiad at Waith Dafydd ap Gwilym' (Y Beirniad, VIII, 1919).

Iolo Morganwg, 1747-1826

Traethawd MA

Copi llawysgrif o'i draethawd MA, 'The Contribution of Wales to the British Empire' a gyflwynwyd am radd ym 1920. Mae'r teitl ar y wynebddalen yn awgrymu iddo gael ei gyflwyno i gystadleuaeth eisteddfodol ar un adeg.

Canlyniadau 161 i 180 o 567