Identity area
Reference code
Title
Date(s)
- 1837-1943 / (Creation)
Level of description
fonds
Extent and medium
2 focs (0.058 metrau ciwbig)
Context area
Name of creator
Administrative history
Sefydlwyd Cymdeithas Gyfeillgar y Meibion Llanuwchllyn ar 1 Mawrth 1837. Diben y Gymdeithas oedd darparu cymorth ariannol i'w haelodau mewn amser o salwch neu ddamwain. Roedd cyfraniadau misol yr aelodau yn mynd tuag at gynnig cymhorthdal i'r rheini nad oedd yn medru gweithio oherwydd salwch, neu i gynnig arian yn achos marwolaeth aelod neu ei wraig ar gyfer costau'r gladdedigaeth.
Roedd y Gymdeithas yn cwrdd unwaith bob mis. Cynhaliwyd gwledd flynyddol ym mis Mehefin i ethol aelodau'r Pwyllgor Gweinyddol oedd yn gyfrifol am oruchwylio cyfarfodydd, gwirio'r holl daliadau salwch, ac i godi dirwyon. Derbyniwyd dynion rhwng 16 a 45 mlwydd oed yn unig i'r Gymdeithas, ac, yn ôl y rheolau, yr oedd rhaid iddynt fod yn gorfforol iach ac o gymeriad moesol da. Er nad oedd menywod yn cael eu derbyn fel aelodau, roedd y Gymdeithas yn darparu ar gyfer gweddwon aelodau cyn belled eu bod yn cyfrannu swm bach bob blwyddyn. Yr oedd disgwyl i'r aelodau i ddilyn rheolau'r Gymdeithas a chodwyd dirwyon ar y sawl oedd yn torri'r rheolau.
Archival history
Immediate source of acquisition or transfer
Mrs David Williams; Llanuwchllyn; Rhodd; 1948/1949
Content and structure area
Scope and content
Cofysgrifau Cymdeithas Gyfeillgar y Meibion Llanuwchllyn, 1837-1943, yn cynnwys llyfrau cofnodion, 1837-1916; rheolau, 1838-1914; llyfrau cyfrifon, 1838-1943; llyfrau cyfraniadau, 1845-1943; cofnodion ariannol amrywiol, 1846-1937; rhestrau aelodau, 1840-1843; llyfr budd-daliadau salwch, 1848-1891; ac adroddiadau blynyddol, 1888-1926. Ceir hefyd llyfr rheolau Cymdeithas Gyfeillgar Llanfor, 1868, o fewn yr archif. = Llanuwchllyn Male Friendly Society records, 1837-1943, comprising minute books, 1837-1916; rules, 1838-1914; account books, 1838-1943; contribution books, 1845-1943; various financial records, 1846-1937; lists of society members, 1840-1843; a sickness benefit book, 1848-1891; and annual reports, 1888-1926. The archive also contains a rule book of the Llanfor Friendly Society, 1868.
Appraisal, destruction and scheduling
Action: Cadwyd yr holl gofnodion a roddwyd i'r Llyfrgell.
Accruals
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
System of arrangement
Trefnwyd yn LlGC yn wyth cyfres: llyfrau cofnodion; rheolau; llyfrau cyfrifon; llyfrau cyfraniadau; cofnodion ariannol amrywiol; rhestrau aelodau; llyfr budd-daliadau salwch; ac adroddiadau blynyddol.
Conditions of access and use area
Conditions governing access
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â'r amodau a nodir ar y ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data' a gyflwynir iddynt gyda'u tocynnau darllen.
Conditions governing reproduction
Amodau hawlfraint arferol.
Language of material
- Welsh
- English
Script of material
Language and script notes
Cymraeg, Saesneg (am fanylion pellach gweler disgrifiadau'r lefelau is).
Physical characteristics and technical requirements
Finding aids
Allied materials area
Existence and location of originals
Existence and location of copies
Related units of description
Notes area
Note
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.
Alternative identifier(s)
Virtua system control number
Access points
Subject access points
Place access points
Name access points
Genre access points
Description control area
Description identifier
Institution identifier
Rules and/or conventions used
Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH
Status
Level of detail
Dates of creation revision deletion
Awst 2009.
Language(s)
- Welsh
Script(s)
Sources
Archivist's note
Lluniwyd y disgrifiad gan Rhian Lyn James. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r disgrifiad hwn: eitemau o fewn yr archif: