fonds GB 0210 CYMWEN - Cofnodion Cymdeithas Bob Owen

Identity area

Reference code

GB 0210 CYMWEN

Title

Cofnodion Cymdeithas Bob Owen

Date(s)

  • 1976-2006 (Creation)

Level of description

fonds

Extent and medium

3 bocs bach.

Context area

Name of creator

Administrative history

Mae Cymdeithas Bob Owen yn gymdeithas i lyfrgarwyr a chasglwyr llyfrau yng Nghymru. Fe'i henwyd ar ôl Bob Owen (1885-1962), Croesor, Sir Feirionnydd, hanesydd a chasglwr llyfrau. Sefydlwyd y Gymdeithas yn Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi yn 1976. Prif weithgaredd y Gymdeithas yw cyhoeddi'r cyfnodolyn, Y Casglwr, a gyhoeddwyd gyntaf ym mis Mawrth 1977, gyda John Roberts Williams yn olygydd arno hyd 1995.

Archival history

Crynhowyd y papurau gan swyddogion y Gymdeithas.

Immediate source of acquisition or transfer

Y Parch. Dafydd Wyn Wiliam; Bodedern; Rhodd; 1991

Maredudd ap Huw; Aberystwyth; Rhodd; Awst 2006

Ms M. Angharad Jones; Caernarfon; Rhodd; Chwefror 2008

Dr Rhidian Griffiths; Aberystwyth; Rhodd; Mawrth 2019

Content and structure area

Scope and content

Cofnodion Cymdeithas Bob Owen, yn cynnwys papurau yn ymwneud â sefydlu'r gymdeithas, agendâu a chofnodion cyfarfodydd y pwyllgor gwaith a chyfarfodydd blynyddol, ffurflenni tanysgrifio a rhestri aelodaeth, cofnodion ariannol, torion papur newydd, a gohebiaeth yn ymwneud â'r gymdeithas a'r Casglwr. = Papers relating to the establishment of Cymdeithas Bob Owen (the Bob Owen Society), agendas and minutes of meetings of the working committee and annual meetings, subscription forms and membership lists, financial minutes, newspaper cuttings, and correspondence relating to the society and to Y Casglwr.

Appraisal, destruction and scheduling

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru..

Accruals

Mae ychwanegiadau yn bosibl.

System of arrangement

Trefnwyd fel a ganlyn: Rhodd 1991; a Rhoddion 2006, 2008 a 2019.

Conditions of access and use area

Conditions governing access

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Warchod Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol 2018 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.

Conditions governing reproduction

Amodau hawlfraint arferol.

Language of material

  • Welsh
  • English

Script of material

Language and script notes

Cymraeg, Saesneg.

Physical characteristics and technical requirements

Finding aids

Ceir copi caled o'r rhan cyntaf o'r catalog yn Mân Restri a Chrynodebau 1992, t. 22, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r catalog ar gael ar lein.

Allied materials area

Existence and location of originals

Existence and location of copies

Related units of description

Related descriptions

Notes area

Note

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Alternative identifier(s)

Virtua system control number

vtls003844859

Project identifier

ANW

Access points

Place access points

Name access points

Genre access points

Description control area

Description identifier

Institution identifier

Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales

Rules and/or conventions used

Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; reolau AACR2; ac LCSH

Status

Level of detail

Dates of creation revision deletion

Tachwedd 2003, Ebrill 2015 a Mawrth 2019.

Language(s)

  • Welsh

Script(s)

Sources

Archivist's note

Lluniwyd gan Rhys Jones i brosiect ANW, a'i adolygu gan David Moore. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Mân Restri a Chrynodebau, 1992; gwefan y BBC, 'Cofio pendefig y casglwyr - Dathlu chwarter canrif Cymdeithas Bob Owen' (www.bbc.co.uk/cymru/adloniant/llyfrau/straeon/020530bob.shtml), gwelwyd 26 Tachwedd 2003; papurau o fewn yr archif;

Accession area

Related people and organizations

Related genres

Related places

Physical storage

  • Text: Cofnodion Cymdeithas Bob Owen.