Dangos 567 canlyniad

Disgrifiad archifol
cyfres
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Datganiadau i'r wasg

Mae'r gyfres yn cynnwys datganiadau i'r wasg gan wahanol sefydliadau a chwmnïau, 1986-1992.

David Peate

Papurau yn ymwneud â David Peate yn bennaf, 1848-1901 a 1949, gan gynnwys rhediad helaeth o'i ddyddiaduron, 1848-1895, ynghyd â chyfrifon, llyfr nodiadau, llythyrau ato, a chyfrol yn ymwneud â Chapel Llanbrynmair. -- Mae'r dyddiaduron cynharaf yn cofnodi pregethwyr a'u testunau ar y Sul, a nifer o enedigaethau, priodasau a marwolaethau lleol. Ceir mwy o fanylion am waith David Peate a lle bu'n gweithio ar ôl 1856. Yn ogystal, ceir cyfeiriadau at ei deulu, newyddion lleol, a chyfrifon.

Peate, David, 1831-1896.

Deunydd amrywiol

Mae'r gyfres yn cynnwys papurau'n ymwneud â Chapel Bethel, Aberhonddu, 1854-[c.1945], a Chapel Horeb, Pum-hewl, Llanelli, [1910]-[1939], ynghyd â phapurau amrywiol yn ymwneud ag Undeb y Bedyddwyr, Undeb Bedyddwyr Ieuanc Cymru, Seren y Plant a Seren yr Ysgol Sul, 1922-1954.

Deunydd ar gyfer ymrysonau

Mae'r gyfres yn cynnwys tasgau a osodwyd gan Mathonwy Hughes ar gyfer Ymryson y Beirdd, ynghyd â chynigion mewn ymrysonau eraill, gan gynnwys timau roedd ef yn aelod ohonynt[?1960]-[?1989].

Deunydd printiedig,

Deunydd printiedig, 1929-2007, yn cynnwys erthyglau a storïau byrion gan Marion Eames, 1929-1998; torion amrywiol o'r wasg, 1954-2007; adolygiadau o'i gwaith a chyfweliadau, 1969-2001; ynghyd â pamffledi a llyfrynnnau yn ymwneud ag ymweliad Marion Eames i'r Unol Daleithiau yn 1984. = Printed materials, 1929-2007, comprising articles and short stories by Marion Eames, 1929-1998; various press cuttings, 1954-2007; reviews of her work and interviews, 1969-2001; together with pamphlets and booklets relating to her visit to the United States in 1984.

Deunydd printiedig,

Deunydd printiedig yn ymwneud â gwaith Gwenlyn Parry, 1962-1991, yn cynnwys llyfr lloffion, 1962-1966; rhaglenni theatr a phosteri, 1966-1991; cylchgronau, 1973-1988; a thorion o'r wasg, [1978-1991].

Deunydd printiedig,

Torion o'r wasg a chylchgronau, 1968-2007, gan gynnwys cyfweliadau â Meic Povey ac adolygiadau o'i waith.

Drafftiau nofelau,

Casgliad o lawysgrifau, [1964]-1981, a dderbyniwyd yn rhodd i'r Llyfrgell yn 1988, yn cynnwys drafftiau o Y Stafell Ddirgel, [1964] x [1969]; Y Rhandir Mwyn, 1970; I Hela Cnau, 1974-1975; ac Y Gaeaf Sydd Unig, 1981. = A collection of manuscripts, [1964]-1981, donated to the Library in 1988, comprising drafts of Y Stafell Ddirgel, [1964] x [1969]; Y Rhandir Mwyn, 1970; I Hela Cnau, 1974-1975; and Y Gaeaf Sydd Unig, 1981.

Drafftiau o gyfrolau

Mae'r gyfres yn cynnwys llawysgrifau, teipysgrifau a chopïau terfynol o rai o gyfrolau cyhoeddedig Mathonwy Hughes, [?1974]-[?1991].

Dramâu

Mae'r gyfres yn cynnwys llyfrau nodiadau cymysg yn cynnwys copïau llawysgrif a theipysgrif o ddramâu yn bennaf, ynghyd â rhai caneuon, storïau a beirniadaethau.

Dramâu llwyfan Gwenlyn Parry,

Sgriptiau a phapurau amrywiol yn ymwneud â dramâu llwyfan Gwenlyn Parry, [1966]-1992, yn cynnwys Saer Doliau, Tŷ ar y Tywod, Sal, Y Ffin, Y Tŵr, a Panto.

Canlyniadau 161 i 180 o 567