Showing 567 results

Archival description
series
Advanced search options
Print preview View:

Cofnodion gweinyddol,

Ystadegau blynyddol yr Eglwys, 1898-1940; benthyciadau llyfrau, 1902-1906; llythyrau aelodaeth, 1909-1945; gwrthddalennau tystysgrifau priodas, 1911-1969; a chofnodion cyfarfodydd y swyddogion, 1914-1958.

Gohebiaeth,

Llyfr o lythyron a ysgrifennwyd yn bennaf gan ysgrifennydd Moriah yn ymwneud â materion eglwysig, gan gynnwys gohebiaeth yn trafod cynnal a chadw'r adeilad a sefyllfa ariannol yr Eglwys.

Papurau eraill

Papurau amrywiol, 1886-2003, yn ymwneud â gyrfa a diddordebau Norah Isaac. Ceir enghreifftiau o gerddi a ysgrifennwyd ganddi ac amdani; papurau a grynhowyd ganddi; a phapurau yn ymwneud â'i chyfnod fel darlithydd yn Y Barri; ynghyd â thaflen ei hangladd.

Llythyrau a dderbyniodd tra'n Gymrawd Ymchwil yn Rhufain,

Llythyrau a chardiau Nadolig, 1951-1952, a anfonwyd at D. Tecwyn Lloyd tra'n gwenud gwaith ymchwil ar archifau'r unfed ganrif ar bymtheg yn Llyfrgell y Fatican yn Rhufain. Yn eu plith mae llythyrau oddi wrth ei deulu, cyfeillion, a chydweithwyr yng Ngholeg Harlech, ac ysgolheigion fel Griffith John Williams, 1952.

Williams, G. J. (Griffith John).

Rhaglenni theatr,

Rhaglenni theatr yn gysylltiedig â gwaith Meic Povey fel dramodydd, actor neu aelod o'r tîm cynhyrchu, 1966-2008.

Papurau amrywiol,

Papurau amrywiol yn ymwneud â gwaith Gwenlyn Parry, 1968-[1991], yn cynnwys rhageiriau, 1968-1979; nodiadau a phapurau rhydd, [1970]-[1991]; erthyglau, 1978-[1982]; syniadau ar gyfer gweithiau newydd, [1985]-[1991]; sgript cyfweliad gyda Gwenlyn Parry, [1987x1991]; sgript hunan-gofiannol, [1989x1991]; adroddiad ar ffilmiau tramor, [1990x1991]; a phapurau'n ymwneud â'r Capel, [1970]-[1991].

Adroddiadau blynddol,

Adroddiadau blynyddol y Capel yn cynnwys gwybodaeth am fantolen ariannol, cyfraniadau ariannol, pregethwyr y Suliau, enwau'r swyddogion ac enwau'r rhai oedd wedi cael eu bedyddio, priodi neu farw. Ceir rhai adroddiadau blynyddol hefyd ymysg y cyfrifon ariannol.

Results 141 to 160 of 567