Dangos 567 canlyniad

Disgrifiad archifol
cyfres
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Llyfrau nodiadau,

Llyfrau nodiadau Meic Povey, 1988-2005, yn ymwneud â'i waith fel dramodydd, gan gynnwys syniadau ar brosiectau cyfredol, a nodiadau bras ar faterion megis lleoliadau set, ynghyd â rhai drafftiau cynnar o'i weithiau.

Rheolau,

Rheolau Cymdeithas Gyfeillgar y Meibion Llanuwchllyn, 1838-1914, gan gynnwys llyfrau rheolau printiedig, drafftiau llawysgrif a diwygiadau. Yn ogystal, ceir llyfr rheolau Cymdeithas Gyfeillgar Llanfor, 1868, o fewn y gyfres.

Traethawd MA

Papurau'n ymwneud â llunio traethawd Erfyl Fychan 'The Wayside Entertainer in Wales in the Nineteenth Century' (Lerpwl, 1939), gan gynnwys 'Gwerslyfr y delyn Deir-res' gan Ellis Roberts ('Eos Meirion'), 1858.

Aelodaeth y Capel

Mae'r gyfres yn cynnwys cyfrol sydd yn nodi gwybodaeth am aelodau'r capel, 1878-1883, a chyfrol sydd yn cynnwys manylion trosglwyddo aelodaeth o'r capel i gapel arall, 1924-1931.

Ysgol Gymraeg Aberystwyth

Papurau, [1936]-1970, yn deillio'n bennaf o'r cyfnod pan oedd Norah Isaac yn Brifathrawes Yr Ysgol Gymraeg, Aberystwyth, 1939-1949, gan gynnwys rhai'n ymwneud â'r gwersi a gweithgareddau allgyrsiol.

Ysgol Gymraeg Aberystwyth (Aberystwyth, Wales)

Gohebiaeth a phapurau cyffredinol

Mae'r gyfres yn cynnwys gohebiaeth yn ymwneud â'r Apêl, megis llythyron cyffredinol ynglŷn â sefydlu Pwyllgor Rheoli'r Gronfa Goffa; llythyron Pwyllgor Sir Gaernarfon; gohebiaeth y Pwyllgorau ac Isbwyllgorau; llythyron yn ymwneud â threfnu gweithgareddau amrywiol i ddwyn arian i'r gronfa gan gynnwys gohebiaeth â'r noddwyr; papurau yn ymwneud â lansio'r Apêl; a datganiadau i'r wasg er mwyn hysbysebu'r Apêl.

Canlyniadau 501 i 520 o 567