Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1943-2001 (Creation)
Lefel y disgrifiad
fonds
Maint a chyfrwng
0.108 metrau ciwbig (12 bocs)
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Roedd John Stoddart (1924-2001) yn gerddor a chyfieithydd adnabyddus. Fe'i magwyd yn Llansanffraid Glan Conwy, ac wedi treulio cyfnod gyda'r Catrawd Tanciau yn ystod y Rhyfel aeth i ddilyn cwrs dysgu yn y Coleg Normal, Bangor, cyn treulio rhai blynyddoedd yn dysgu mewn ysgolion yng ngogledd Cymru. Cafodd gryn lwyddiant wrth gystadlu ar y canu mewn eisteddfodau pan oedd yn ifanc, a bu galw amdano fel unawdydd ledled Cymru. Enillodd ysgoloriaeth ym 1955 i astudio yn yr Ysgol Opera Genedlaethol yn Llundain a daeth i amlygrwydd fel unawdydd tenor gydag amryw o gwmnïau opera, yn eu plith cwmnïau Glyndebourne, Sadlers Wells, D'Oyly Carte a Covent Garden.
Bu'r teulu'n byw yn Llundain am flynyddoedd, ond yn dilyn ei ymddeoliad symudodd John Stoddart a'i wraig Myfi yn ôl i Abergele. Bu'n hyfforddi cantorion ifanc ac roedd yn wyneb cyfarwydd fel beirniad mewn eisteddfodau a gwyliau eraill. Roedd yn ymgynghorydd lleisiol, yn gyfieithydd toreithiog o ganeuon, ac yn olygydd cyfieithiadau eraill, y cyfan ar gyfer cystadleuthau cerddorol yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu'n aelod o Lys yr Eisteddfod Genedlaethol a chafodd ei urddo i'r wisg wen yn Eisteddfod Casnewydd ym 1988.
Mae'n debyg mai drwy ddysgu amryw ieithoedd fel canwr proffesiynol y magodd John Stoddart ddiddordeb mewn cyfieithu. Roedd yn rhugl mewn nifer o ieithoedd a datblygodd hoffter arbennig am yr Wyddeleg a'r Aeleg. Cyhoeddwyd sawl cyfrol o'i gyfieithiadau o farddoniaeth a rhyddiaith Aeleg ac roedd yn cyfrannu i gylchgronau yn yr iaith honno yn ogystal â chyfnodolion Cymreig. Mae'r canlynol ymhlith ei weithiau cyhoeddedig: Cerddi Gaeleg cyfoes: detholiad o farddoniaeth Aeleg a gyfansoddwyd yn ystod y cyfnod 1937-1982, Cyfres Barddoniaeth Pwyllgor Cyfieithiadau yr Academi Gymreig cyf. VI (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru ar ran yr Academi Gymreig, 1986) ac Y meudwy a storïau Gaeleg eraill (Caernarfon: Gwasg Gwynedd, 2000).
Hanes archifol
Ffynhonnell
Rhodd gan Mr Ifor Stoddart, Yerres, Ffrainc, mab John Stoddart, trwy law Mr Dafydd Timothy, Y Rhyl, Medi 2001.; A2001/60
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Mae'r fonds yn cynnwys cyfieithiadau a gweithiau llenyddol John Stoddart yn bennaf, [1943]-2001, yn eu plith drafftiau o'i weithiau cyhoeddedig; gohebiaeth yn ymwneud â chyfieithiadau cerddorol ar gyfer Eisteddfodau Cenedlaethol yn ogystal â'i amryw ddiddordebau; papurau ymchwil amrywiol yn cynnwys yn bennaf nodiadau yn ymwneud â'i waith am y bardd Osian a'i ddiddordeb mewn ieithoedd megis yr Aeleg a'r Wyddeleg.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Action: Rhoddwyd awdurdod i'r Llyfrgell ddinistrio papurau dyblyg a di-angen gan Mr Ifor Stoddart yn ei lythyr dyddiedig 5 Medi 2001..
Croniadau
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
System o drefniant
Trefnwyd rhannau o'r archif gan John Stoddart ac fe drefnwyd y gweddill a'i rhannu'n bedair cyfres ar ôl cyrraedd LlGC, fel a ganlyn: cyfieithiadau cerddorol, cyfieithiadau a gweithiau llenyddol, gohebiaeth a phapurau ymchwil.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Mae hawlfraint a fu'n perthyn i John Stoddart yn eiddo i'w fab Ifor Stoddart, Medi 2001.
Iaith y deunydd
- Cymraeg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg oni nodir yn wahanol
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Mae copi caled o'r rhestr ar gael yn LlGC.
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
GEAC system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Mehefin 2002
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd y rhestr gan Siân Bowyer.
Nodyn yr archifydd
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: Awen y Gael: blodeugerdd o Farddoniaeth Aeleg o'r bymthegfed ganrif hyd at drothwy'r Rhyfel Byd Cyntaf (Llandybïe: Cyhoeddiadau Barddas, 1987); 'Portread', Y Glannau, 109 (Ionawr 1993); 'Tua'r lle bu dechrau'r daith', Barn, rhif 200 (Medi 1979); 'Boy who sang with an angel's voice', Daily Post, 16 Medi 1995; 'Language flair aids retired tenor', Western Mail, 10 Awst 2000.