Showing 556 results

Archival description
series Welsh
Advanced search options
Print preview View:

Sgriptiau llwyfan

Sgriptiau dramâu a lwyfanwyd gan fyfyrwyr a chwmnïau drama dan adain Norah Isaac, gan gynnwys 'Priodas waed', [1965], 'Corlannu pobl', 1983, a 'Y Penadur', 1990. Y mae'r mwyafrif ohonynt yn waith gwreiddiol ganddi a'r gweddill yn sgriptiau gan eraill. Ceir hefyd gopi o Gwaith Thomas Edwards (Twm o'r Nant) (Lerpwl, [1874]).

Aelodaeth,

Papurau yn ymwneud â holiadur swyddogol y Gymdeithas a lenwyd gan aelodau i fynegi eu diddordebau, eu cefndir, a'u barn am weithgareddau'r Gymdeithas.

Llythyrau,

Ceir llythyrau personol oddi wrth gyfeillion yn ymateb i lyfrau D. Tecwyn Lloyd megis Safle'r Gerbydres ac ysgrifau eraill (Llandysul, 1970), Lady Gwladys a phobl eraill (Abertawe, 1972) a Hyd eithaf y ddaear: a storïau eraill (Llandysul, 1972) a gyhoeddwyd gan ddefnyddio'i ffugenw E. H. Francis Thomas; ymateb oddi wrth olygyddion cylchgronau eraill gan gynnwys Barn, Y Genhinen a Trivium a llythyrau'n ymwneud â chyfraniadau ar gyfer y cylchgrawn Taliesin y bu'n ei olygu.

Deunydd printiedig,

Torion o'r wasg a chylchgronau, 1968-2007, gan gynnwys cyfweliadau â Meic Povey ac adolygiadau o'i waith.

Cofnodion gweinyddol,

Ystadegau blynyddol yr Eglwys, 1898-1940; benthyciadau llyfrau, 1902-1906; llythyrau aelodaeth, 1909-1945; gwrthddalennau tystysgrifau priodas, 1911-1969; a chofnodion cyfarfodydd y swyddogion, 1914-1958.

Gohebiaeth,

Llyfr o lythyron a ysgrifennwyd yn bennaf gan ysgrifennydd Moriah yn ymwneud â materion eglwysig, gan gynnwys gohebiaeth yn trafod cynnal a chadw'r adeilad a sefyllfa ariannol yr Eglwys.

Papurau eraill

Papurau amrywiol, 1886-2003, yn ymwneud â gyrfa a diddordebau Norah Isaac. Ceir enghreifftiau o gerddi a ysgrifennwyd ganddi ac amdani; papurau a grynhowyd ganddi; a phapurau yn ymwneud â'i chyfnod fel darlithydd yn Y Barri; ynghyd â thaflen ei hangladd.

Results 121 to 140 of 556