Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 839266 canlyniad

Disgrifiad archifol
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

9559 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

A Private Language?,

Gwaith ymchwil ar gyfer A Private Language?, [1992x1997], gan gynnwys erthyglau gan R. Geraint Gruffydd ar waith Dafydd ap Gwilym; copïau o nifer o gerddi Cymraeg a'u cyfieithiadau Saesneg; nodiadau ar y gynghanedd; a drafft o bennod fer ar William Williams, Pantycelyn, ac Ann Griffiths. = Research for A Private Language?, [1992x1997], including articles by R. Geraint Gruffydd on the work of Dafydd ap Gwilym; copies of numerous Welsh poems and their English translations; notes on the 'cynghanedd'; and a draft of a short chapter on William Williams, Pantycelyn, and Ann Griffiths.

A. Pwyllgor Addysg Undeb Cymru Fydd, 1947-49; b. Dysgu Cymraeg i'r rhai di-Gymraeg (Atebion i gylchlythyr a anfonwyd at Gyfarwyddwr ...,

A. Pwyllgor Addysg Undeb Cymru Fydd, 1947-49; b. Dysgu Cymraeg i'r rhai di-Gymraeg (Atebion i gylchlythyr a anfonwyd at Gyfarwyddwr Addysg Cymru), 1948;. C. Undeb Cymru Fydd ac Adroddiad y Gweithgor ar Weinyddiad Addysg yng Nghymru, 1949; ch. Memorandwm Undeb Cymru Fydd ar y Colegau Sir, 1948.

(A) 'Rhamant seiliedig ar ddigwyddiadau yn ystod y gwrthryfel yn yr ail ganrif ar bymtheg' gan 'Oliver' (E. R. Evans ...,

(A) 'Rhamant seiliedig ar ddigwyddiadau yn ystod y gwrthryfel yn yr ail ganrif ar bymtheg' gan 'Oliver' (E. R. Evans, Caerdydd) [rhif 38 yn y Rhestr Testunau]. (B) 'Rhamant seiliedig ar Oes Llywelyn Fawr' gan 'Petrarch' (Lewis Davies, Port Talbot) [rhif 38 yn y Rhestr Testunau]. (C) Beirniadaethau Tom Richards ac R. Dewi Williams.

A. S. Thomas, Maesmynys,

Holi pa rai o gerddi W. J. Gruffydd, ar wahân i'r rhai yng nghyfrol A. P. Graves, sydd wedi eu cyfieithu i'r Saesneg. Mae newydd brynu Caneuon a Cherddi - ni ellir gwell. Bu'n darllen cyfrol Eifion Wyn, Telynegion Maes a Môr hefyd am y tro cyntaf. Mae'r cerddi hynny'n dda ond bod ansawdd gwaith W. J. Gruffydd gymaint gwychach. Hoffai wybod enw cyhoeddwr llyfr arall W. J. Gruffydd, sef Telynegion.

Canlyniadau 341 i 360 o 839266