Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 3783 canlyniad

Disgrifiad archifol
ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

4 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

'Trysorfa'r tlodion',

Llyfr yn cofnodi cyfraniadau tuag at y drysorfa, a'r arian a dalwyd allan i unigolion ac achosion amrywiol, 1922-1932; ynghyd â chyfrif yn nodi derbyniadau a thaliadau cyffredinol yr Eglwys, 1945-1949.

'Trwy'r gwynt a'r glaw',

Rhannau gwrthodedig o Meirion Lloyd Jones, ''Trwy'r gwynt a'r glaw', ynghyd â llythyr oddi wrth T. Gwynn Jones yn amgau ei adroddiad am y gwaith i Hughes a'i Fab.

Jones, Meirion Lloyd.

Trwyddedu sianel 3

Mae'r ffeil yn cynnwys datganiadau i'r wasg, taflenni, llythyrau, adroddiadau a thorion papur newydd yn ymwneud â thrwyddedu sianel tri yn 1991.

Trosiadau Hywel Berwyn Evans (sol-ffa),

  • NLW ex 2534.
  • ffeil
  • [1935]-[2006] /

Chwe chyfrol yn cynnwys darnau clasurol wedi'u trosi i nodiant sol-ffa gan Hywel Berwyn Evans (1915-2006), llyfrgellydd ym Mhrifysgol Birmingham ac organydd yn Eglwys Bresbyteraidd Bethel yn y ddinas. Maent yn cynnwys gweithiau gan Handel, Sibelius, Mendelssohn a Bach.

Evans, Hywel Berwyn.

Trosiad o ddyddiadur llaw-fer TGJ,

Trosiad, mewn teipysgrif, o ddyddiadur llaw-fer T. Gwynn Jones am y flwyddyn 1898 (D291), [?gan Miss Beatrice Davies, Ysgrifenyddes y Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru].

Davies, Beatrice, 1904-2006.

Tri Munud,

Teipysgrif o'r ddrama Tri Munud, [1970x1990], yn cynnwys nodiadau.

'Tri Chryfion Byd'

Sgript camera 'Anterliwt Tri Chryfion Byd', 1962, ar gyfer TWW; copi o Norah Isaac (golygydd), Tri Chryfion Byd (Llandysul, 1975) gyda nodiadau wedi'u hychwanegu ganddi'n ddiweddarach ar gyfer anerchiadau am anterliwtiau, ynghyd â dau ffotograff o gast Aelwyd y Barri yn 1953 a Pharti Tri Chryfion Byd yn 1994. Ceir hefyd sgript rhaglen drama ddogfen 'Profi pob peth neu Twm o'r Nant mae Cant yn y'ngalw', [?1975x1976], ynghyd â chopi o Gwaith Thomas Edwards (Twm o'r Nant) (Lerpwl, 1874) gyda'r tudalen deitl a thudalennau eraill yn eisiau ac yn cynnwys llythyr oddi wrth Joseph W. Hughes, 1963, yn cyflwyno'r gyfrol iddi fel gwerthfawrogiad wedi iddo weld perfformiad o'r anterliwtiau yn Llandudno y flwyddyn honno. Mae'r llyfr yn dwyn enw Edward Peate, Glanrhyd, Llanbrynmair, 1874.

Tresarn,

Sgript llawysgrif o bennod 20 o'r gyfres ddrama Tresarn, 1972, gan Huw Lloyd Edwards.

Edwards, Huw Lloyd, 1916-1975.

Trefniadau cyhoeddi

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr nodiadau David Bowen yn rhestru enwau, cyfeiriadau a'r nifer o gopïau a ofynnwyd amdanynt gan danysgrifwyr i'r llyfrau Ben Bowen yn Neheudir Affrica a Ben Bowen i'r Ieuanc, 1928-47; llythyrau gan wahanol gyhoeddwyr ynglŷn â chost tebygol cyhoeddi'r cyfrolau, 1927; llythyrau gan danysgrifwyr yn gofyn am neu'n diolch am lyfrau, 1942-8, ac anfonebau a derbyniadau, 1901-54, yn cynnwys anfoneb at David Bowen am dwy fil o gopïau o bryddest Pantycelyn, Ebrill 1901.

Tranc Y Faner

Mae'r ffeil yn cynnwys erthyglau, llythyrau, torion papur newydd, a datganiad pwysig gan gwmni'r Faner, 1992.

Canlyniadau 221 i 240 o 3783