Identity area
Reference code
Title
Date(s)
- [1940x2015] (Creation)
Level of description
Fonds
Extent and medium
150 boxes [1.35 cubic metres].
Context area
Name of creator
Name of creator
Biographical history
Archival history
Dechreuodd Meredydd Evans rhoi bras drefn ar y papurau hyn yn 1995. Rhoddwyd trefn bellach ar y ffeiliau gan Ms Eluned Evans cyn iddynt ddod i’r Llyfrgell, a hynny mewn nifer o gamau rhwng 2015 a 2018. Ymddengys mai dosbarthiad gwreiddiol yr archif oedd ffeiliau gwaith y ddau, gohebiaeth (Meredydd Evans yn bennaf), a deunydd clyweledol. Trosglwyddwyd yr archif gyfan o Gwmystwyth i’r Llyfrgell, oddieithr deunydd personol (teuluol), a dyddiaduron Meredydd Evans (1969-2015), sy’n parhau i fod y meddiant y teulu. Dosbarthwyd cynnwys llyfrgell Afallon, Cwmystwyth ymysg cyfeillion y teulu yn 2015.
Daeth y papurau i’r Llyfrgell mewn wyth grŵp: deunydd clyweledol mewn amryfal fformatiau (Mawrth 2015); papurau Meredydd Evans nad ydynt yn ymweneud â cherddoriaeth (Mehefin 2015); papurau cerddorol Phyllis Kinney (Gorffennaf 2015); papurau cerddorol Meredydd Evans (Gorffennaf 2015); ychwanegiadau i’r categorîau uchod (Ebrill 2016); gohebiaeth (Mawrth 2017); ychwanegiadau at bapurau cerddorol, copiau o lythyrau oddi wrth Meredydd Evans ar ffurf electronig i’w hargraffu a’u hymgorffori, a llythyrau oddi wrth rai unigolion (Mai 2017); dalen o lawysgrif ganol-oesol (NLW MS 24117F bellach) (Chwefror 2018).
Immediate source of acquisition or transfer
Ms Phyllis Kinney, Cwmystwyth drwy law ei merch, Ms Eluned Louise Evans.
Content and structure area
Scope and content
Mae’r archif yn cynnwys papurau ymchwil cerddorol, yn bennaf yn ymwneud â chanu gwerin; sgriptiau radio a theledu; cyfieithiadau a chyfansoddiadau cerddorol (trosglwyddwyd tapiau gweledol a sain i AGSSC); llythyrau at Meredydd Evans a Phyllis Kinney, a chopïau o lythyrau oddi wrthynt, 1956-2015; a phapurau’n ymwneud â diddordebau Meredydd Evans ym meysydd athroniaeth a llenyddiaeth Gymraeg, ynghyd â dogfennau’n ymwneud â’i ran mewn ymgyrchoedd tros yr iaith Gymraeg, yn arbennig felly ym maes darlledu.
Appraisal, destruction and scheduling
Chwynnwyd rhai eitemau dybylg o’r casgliad, a dychwelwyd ‘cof bach’ USB i’r teulu yn 2018 yn dilyn argraffu copiau papur o atebion i lythyrau, a’u hymgorffori gyda’r ohebiaeth.
Accruals
Ni ddisgwylir croniadau.
System of arrangement
Trefnwyd yn bum Is-fonds: Papurau cerddorol Phyllis Kinney; Papurau cerddorol Meredydd Evans; Cardiau mynegai Meredydd Evans a Phyllis Kinney ar gerddoriaeth draddodiadol Cymru; Gohebiaeth Meredydd Evans; Ffeiliau Meredydd Evans ym meysydd athroniaeth, llenyddiaeth, ac ymgyrchoedd dros yr iaith Gymraeg.
Conditions of access and use area
Conditions governing access
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Warchod Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol 2018 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen. = Readers consulting modern papers in the National Library of Wales are required to abide by the conditions set out in information provided when applying for their Readers' Tickets, whereby the reader shall become responsible for compliance with the Data Protection Act 2018 and the General Data Protection Regulation 2018 in relation to any processing by them of personal data obtained from modern records held at the Library.
Conditions governing reproduction
Amodau hawlfraint arferol.
Language of material
- Welsh
- English
Script of material
Language and script notes
Cymraeg a Saesneg = Welsh and English.
Physical characteristics and technical requirements
Finding aids
Catalog ar lein.
Allied materials area
Existence and location of originals
Trosglwyddwyd dalen ganol-oesol o’r casgliad i gyfres llawysgrifau’r Llyfrgell (NLW MS 24117F). Trosglwyddwyd deunydd clyweledol i AGSSC.
Existence and location of copies
Llungopiwyd chwe ffeil o nodiadau ymchwil Meredydd Evans ar bapurau'r Dr J. Lloyd Williams yn 2004 a’u gosod yn NLW Facs 973. Mae’r ffeiliau gwreiddiol bellach yn y casgliad.
Related units of description
Publication note
“Archif Merêd a Phyllis yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru”, awdur Maredudd ap Huw. Canu gwerin, Cyf. 39 (2016), p. 84-88.
Publication note
Merêd - dyn ar dân, gol. Eluned Evans a Rocet Arwel Jones (Talybont, 2016).
Publication note
Blog 'Hela’r Hen Ganeuon', Nia Mai Daniel. https://www.llgc.org.uk/blog?p=16920&lang=cy
Notes area
Alternative identifier(s)
Alma system control number
Access points
Subject access points
Place access points
Name access points
Genre access points
Description control area
Description identifier
Institution identifier
Rules and/or conventions used
Mae'r disgrifiad yn dilyn canllawiau LlGC yn seiliedig ar ISAD (G) 2nd ed.; AACR2; a LCSH
Status
Level of detail
Dates of creation revision deletion
Language(s)
Script(s)
Sources
Archivist's note
Lluniwyd y disgrifiad gan R. Evans, Mawrth 2018.