Llyfr nodiadau yn cynnwys cerddi drafft yn llaw'r bardd, gan gynnwys cerddi a gyhoeddwyd yn Caniadau'r Allt (1927) ac O Drum i Draeth (1929). Rhestrir y cerddi isod a nodir mewn cromfachau enw'r gyfrol lle'u cyhoeddwyd, rhif y tudalen, ac unrhyw wahaniaeth teitl. Yn ogystal â'r cerddi llawysgrif ceir cerdd brintiedig Cyfarchiad i "Rhodwy" ar ei briodas, Mai 14, 1903 (allan o'r Cyfarwyddwr Anibynnol [sic]) y tu mewn i'r clawr blaen; copi o lythyr, 15 Ion. 1907, oddi wrth EW ynglyn â gwerthiant y gyfrol Telynegion Maes a Môr (ff. 1-2); a nodiadau achyddol yn llaw EW (ff. 86v-7). 89 ff. Ff. 3-4: 'Englynion Cyfarch, uwchben llun "Tudur" mab bychan Mr a Mrs Herbert Hughes, Dwyryd House, Llanrwst', Chwef. 1907 [O Drum i Draeth, t. 33; 3 o'r 4 englyn]. Ff. 4-6: 'Englynion "Cyfarchiad Nadolig"' [O Drum i Draeth, t. 44]. Ff. 7-14: 'Rhyfelgan Ryddfrydol: Etholiad Cynghor Sir, Arfon 1907 (Alaw: "Rhyfelgyrch Cadben Morgan")'. F. 15: 'Cyssegr y Briallu'; 'Gwylan'. F. 16: 'Y Canghellydd Silvan Evans'; 'Englyn' [O Drum i Draeth, t. 53]. F. 17: 'Y Goleudy (Caergybi)' [O Drum i Draeth, t. 81]. F. 18: 'Y Maes Gwenith'. F. 19: 'Englynion Coffa: Mrs Griffith, Gallt-y-[?], Tal-y-sarn' [cf. O Drum i Draeth, t. 76, 'Gwraig Dda']. F. 19v: 'Bodfeuan'. Ff. 20-1: 'Yn Erw Duw'. F. 20: 'Nefyn'. F. 20v: 'J. Jones'; 'R. Jones'. F. 21v: 'Gwilym Meirion (Ym Mynwent Eglwys Penrhyndeudraeth)', Rhag. 1915 [O Drum i Draeth, t. 66]. Ff. 22-3: 'Dygwyl Llywelyn', 1907 [Caniadau'r Allt, t. 77, 'Cainc y Delyn']. F. 24: 'Gwrid' [O Drum i Draeth, t. 50]. Ff. 25-6: 'Ar deirrhes fy nhelyn...', 1907. Ff. 26-9: 'Cenfigen Gorr', 1906 [Caniadau'r Allt, t. 102, 'Eiddilig Gorr']. Ff. 30-4: 'Melus fo cwsg fy Mam (neu Yr oreu o famau'r byd)', 1907 [Caniadau'r Allt, t. 53, 'Llys fy Mabandod']. Ff. 35-6: 'Fy Nhad' [Caniadau'r Allt, t. 47]. Ff. 36-7: 'Uwch ben bedd Cyfaill' [cf. 'Fy Nhad']. Ff. 38-9: 'Croesaw'r Wenol' [Caniadau'r Allt, t. 118, 'Cyfarch y Wennol']. Ff. 40-1: 'Telyneg "Y Gwahawdd"', Hyd. 1907 [Caniadau'r Allt, t. 43, 'Cathl y Gwahodd']. Ff. 42-4: 'Ieuan Gwynedd' [Caniadau'r Allt, t. 84]. F. 45: 'Y Rhyd', 1908. F. 45v: 'Dyma lyfr bach...'; 'Pethau Tlws' [Caniadau'r Allt, t. 111]. F. 46: 'Dowch i Chwarae' [Caniadau'r Allt, t. 110, 'Pleser Plant']. F. 46v: 'Suo'r Baban' [cf. rhif 2, f. 35]. F. 47: 'Y Briallu' [Caniadau'r Allt, t. 112]. Ff. 48-9: [Cyfarchion y Nadolig; penillion IV-VI], 1908 [cf. rhif 9, f. 19]. Ff. 50-1: 'Little Taffy and Mr Promise', 1908. F. 52: 'Goronwy Wyn (Bryntirion, Nantmor)' [O Drum i Draeth, t. 73]. F. 53: 'Cenin Pedr' [englynion gan "Meudwy'r Maes", "Cymro a'u Câr", "Mary Pant", a "Hoff o'u Hil"]. Ff. 54-5: 'Yr Alaska Yukon Pacific Exposition' [gan "Bardd y Faner Wen"]. Ff. 55-6: 'Cloch y Feisdon' [3 englyn gan "Tinc y Gloch", "Yr Ail Dinc", ac "Wrth y Llyw"]. F. 57: 'Y Breuddwydiwr'. Ff. 58-9: 'Cyfieithiad o "Bugeiles yr Wyddfa" (Eos Bradwen)'. F. 60: 'A Vow'. Ff. 60-1: 'The Choice'. F. 62: 'Dead'. F. 63v: 'Beddargraff Owain Pennant yn Llanfihangel y Pennant' ("Buddugol yn Penmorfa"). Ff. 65v-6v: 'Cadw'r Nadolig' [cf. rhifau 1, f. 19; 3, f. 38; 9, f. 13]. Ff. 67-8: 'Englynion "Y Wawr"' [O Drum i Draeth, t. 51]. F. 69: 'Yr Hedyn Mwstard' [cf. rhif 9, f. 41]. Ff. 70-1: 'Eu Hiaith a Gadwant' [Caniadau'r Allt, t. 89]. F. 71v: 'Dail yr Hydref' [O Drum i Draeth, t. 20]. F. 72r-v: 'Hoff yw gan f'Anwylyd...' [Caniadau'r Allt, t. 116, 'Gardd F'Anwylyd']. F. 72v: 'Watcyn Wyn' [O Drum i Draeth, t. 90]. F. 74r-v: 'Gwn y dydd a'r mis Men...' [Caniadau'r Allt, t. 45, 'Calendr Serch']. Ff. 75-9: 'Gallt y Widdon' [Caniadau'r Allt, t. 97, 'Allt y Widdon']. F. 79v: '"Ar wyl Crist yn dy drist dref..." (Dau englyn a anfonwyd i Iolo Caernarfon ar ôl colli ei briod, Nadolig 1910)' [cf. rhif 9, f. 6]. Ff. 80-1: 'Gwyl y Grog' [Caniadau'r Allt, t. 36]. Ff. 82v-4v: 'Bil i Bil'. F. 88v: 'A happy birthday...'.