Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 713014 canlyniad

Disgrifiad archifol
Ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

4581 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Tractiau eglwysig

Cyfrol, [16 gan.], yn cynnwys 'Estoria yr ysbryd gwido vwrdais' a thractiau eglwysig eraill, yr Elucidarium, Efengyl Nicodemus, arawd Gwgan, barddoniaeth, ayyb. = A volume, [16 cent.], containing the Story of Guido and other ecclesiastical tracts, the Elucidarium, the Gospel of Nicodemus, Gwgan’s oration, poetry, etc.
Ysgrifennwyd y gyfrol gan sawl awdur, gan gynnwys Rhydderch Lewis ap Owen (gw. t. 143). = The volume is written in several hands including that of Rhydderch Lewis ap Owen (see p. 143).

Torri record,

Dogfennau, toriadau papur ac yn y blaen sy'n adrodd hanes torri'r record 'Ganwyd Crist i'r Byd' yn 1975. Yn ogystal â rhaglen y '26th St David's National Festival', Royal Albert Hall, Llundain yn 1977 gyda manylion a threfniadau i'r disgyblion.

Torion yn ymwneud â'i benodiad i'r wasg

Torion o erthyglau yn ymwneud â'r rheolwr newydd, 'Emlyn Evans: Gwerthfawrogiad' a gyhoeddwyd yn Y Ddinas, Awst 1957, a'r rheswm am ei ymddiswyddiad yn 1964, ynghyd â chopi o 'Memorandwm ac Erthyglau Cwmni Christopher Davies (Cyhoeddwyr) Cyf.', 1949.

Torion papur newydd

Amrywiol dorion papur newydd, yn bennaf o ddiddordeb gwleidyddol, llenyddol, lleol neu genedlaethol, gan gynnwys deunydd o'r papurau newydd sosialaidd y Labour Leader a'r British Weekly.

Torion

Torion yn ymwneud â’i lwyddiannau llenyddol, yn arbennig ennill y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst yn 1951; adolygiadau o’i nofel Marged; ei erthyglau i’r Western Mail; a theyrngedau iddo.

Torion

Torion o gylchgronau fel Y Winllan, Yr Eurgrawn, Y Genhinen a’r Traethodydd, 1937-1965, yn cynnwys ysgrifau ganddo neu amdano.

Torion

Cyfrol yn cynnwys torion o’r wasg, 1932-1943, gan gynnwys rhai am ‘Pryddest Dafydd Huws’, pryddest ddigrif a anfonwyd i Eisteddfod Genedlaethol Aberafan 1932 ac a gyhoeddwyd yn Y Ford Gron.

Toriadau o'r wasg

Toriadau o bapurau newydd, papurau bro, cylchgronau ac ati am weithgareddau Dolen Cymru a Lesotho yn gyffredinol.

Timothy Lewis

Erthyglau Cymraeg a Saesneg, wedi’u cyflwyno i John Eilian, 1929-1947, a llythyrau oddi wrtho, 1937-1947.

Lewis, Timothy, 1877-1958

Thomas Jones o Ddinbych

Sgript 'Plas Penucha', 1969, y bu'n cymryd rhan yn y darllediad ac yn annerch yn seremoni cyflwyno plac i goffau Thomas Jones ym Mhlas Penucha, Caerwys.

The Welsh Outlook / Y Geninen / Y Deyrnas

Copïau o gyfnodolion fu ym meddiant John Edwal Williams, sef The Welsh Outlook, 1912, 1915, 1917, 1927, 1928, 1931, 1932, Y Geninen, 1912, 1917, a rhifyn olaf papur newydd Y Deyrnas, Tachwedd 1919. Ar frig tri o'r Welsh Outlook ceir yr arysgrifau 'JEW', 'J Edwal Williams' a 'Mr Williams Brynconin Sch[ool] Clynderwen'. Ar frig hysbyseb di-ddyddiad, o bosib wedi'i dynnu allan o ffynhonell brintiedig, ceir nodyn [yn llaw John Edwal Williams] sy'n crybwyll enwau'r bardd a'r llenor [Walt] Whitman a'r bardd a'r athronydd Edward Carpenter, dau o arwyr John Edwal.

The vale of peace

Cyfieithiad o’r gerdd ‘Cwm tawelwch’ gan Kenneth Lloyd Jones, disgybl chweched dosbarth o Ysgol Quarry bank, Lerpwl, ynghyd â llythyr oddi wrth y cyfieithydd at Gwilym R. Jones. Fe’i cyhoeddwyd yn 'The Quarry', cylchgrawn yr ysgol yn 1955,

The thought of you (Dy gofio di),

Dau sgôr llawysgrif wreiddiol, ddyddiedig Mawrth 1943, gyda chopïau gwaith diweddarach o'r alaw 'Dy gofio di' gan Gilmor Griffiths, geiriau gan Saesneg gan Patience Strong. Dewis o gyfieithiad i'r Gymraeg gan I. D. Hooson, Glyndŵr Richards (Y Rhyl) neu E. Wilson Jones (Rhewl), 1984. Ysgrifennwyd 'Rhywle ar y môr'. Tudalen rhydd o sylwadau gan eraill.

The Pedler,

Trefniant o'r alaw draddodiadol Rwsieg, 'The Pedler', ar gyfer Gwledda Canoloesol, yng Nghastell Rhuthun. Llawysgrif o sgôr gyda geiriau Saesneg.

The Old Farmhouse

Eitem o bapur newydd y Western Mail yn cynnwys rhan o gyfieithiad Waldo Williams o Hen Dŷ Ffarm (1953), cyfrol hunangofiannol y bardd a'r llenor D. J. Williams. Cyhoeddwyd y cyfieithiad dan y teitl The Old Farmhouse ym 1961.

Canlyniadau 121 i 140 o 713014