Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1912-1932 (Creation)
Lefel y disgrifiad
Ffeil
Maint a chyfrwng
1 bocs bach
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes archifol
Ffynhonnell
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Copïau o gyfnodolion fu ym meddiant John Edwal Williams, sef The Welsh Outlook, 1912, 1915, 1917, 1927, 1928, 1931, 1932, Y Geninen, 1912, 1917, a rhifyn olaf papur newydd Y Deyrnas, Tachwedd 1919. Ar frig tri o'r Welsh Outlook ceir yr arysgrifau 'JEW', 'J Edwal Williams' a 'Mr Williams Brynconin Sch[ool] Clynderwen'. Ar frig hysbyseb di-ddyddiad, o bosib wedi'i dynnu allan o ffynhonell brintiedig, ceir nodyn [yn llaw John Edwal Williams] sy'n crybwyll enwau'r bardd a'r llenor [Walt] Whitman a'r bardd a'r athronydd Edward Carpenter, dau o arwyr John Edwal.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Croniadau
System o drefniant
Y cyfnodolion yn eu trefn gronolegol.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Amodau rheoli atgynhyrchu
Iaith y deunydd
- Cymraeg
- Saesneg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cyflwr ac anghenion technegol
Cloriau rhai o'r cyfnodolion wedi dod yn rhydd neu yn eisiau.
Cymhorthion chwilio
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Cyhoeddwyd The Welsh Outlook yn fisol rhwng 1914 a 1933. Ei golygydd cyntaf oedd y gwas sifil a'r addysgwr Thomas Jones (1870-1955). Fe'i hystyrid yn bapur arloesol gan ei bod yn trafod materion o safbwynt wleidyddol ryddfrydol flaengar. Gwelir ei phwysigrwydd yn natblygiad cenedlaetholdeb Cymreig gan y symudai i ffwrdd oddi wrth hunaniaeth grefyddol neu ieithyddol tuag at weledigaeth o Gymru'n sefydlu ei hunan o fewn cyd-destun ryngwladol ac o fewn y gymdeithas fodern oedd ohoni ar y pryd.
Cylchgrawn chwarterol Cymraeg oedd Y Geninen, a gynhwysai erthyglau'n trafod llenyddiaeth, crefydd, gwleidyddiaeth a materion cymdeithasol, ynghyd â barddoniaeth a bywgraffiadau. Fe'i golygwyd yn gyntaf oll gan ei sefydlydd, John Thomas ('Eifionydd') (1848-1922), ac yna gan y gohebydd, llenor, bardd, darlithydd a phregethwr Robert John Rowlands ('Meuryn') (1880-1967).
Misolyn a gyhoeddwyd gan garfan o heddychwyr rhwng Hydref 1916 a Thachwedd 1919 oedd Y Deyrnas, dan olygyddiaeth Thomas Rees, prifathro Coleg Bala-Bangor (gweler Llythyr at John Edwal Williams oddi wrth Thomas Rees dan bennawd John Edwal Williams).