Dangos 3783 canlyniad

Disgrifiad archifol
ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

4 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Y Stafell Ddirgel,

Papurau'n ymwneud ag addasiad teledu Manon Eames o nofel wreiddiol Marion Eames, Y Stafell Ddirgel, gan gynnwys sgriptiau penodau 1-6, rhestrau o fewnosodiadau a newidiadau i'r sgript, amserlen ffilmio a datganiad i'r wasg gan S4C yn lawnsio'r ddrama. = Papers relating to the television adaptation by Manon Eames of Marion Eames's original novel, Y Stafell Ddirgel, including scripts of episodes 1-6, lists of additions and changes to the script, a filming schedule and a press statement by S4C launching the drama.

Y Rhyfel Cartref,

Drafftiau o'r ddrama Y Rhyfel Cartref, 1992, a ysgrifennwyd gan Marion Eames fel rhan o gyfres i ysgolion uwchradd yng Nghymru yn canolbwyntio ar hanes Cymru a Phrydain yn ystod y cyfnod modern cynnar. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys cyfieithiad Saesneg o'r gwaith a pheth gohebiaeth rhwng Marion Eames a Gwasanaeth Darlledu Addysgol y BBC yn trafod gofynion y ddrama. = Drafts of Y Rhyfel Cartref, 1992, a drama by Marion Eames written as part of a series for secondary schools in Wales on the history of Wales and Britain during the early modern period. The file also includes an English translation of the text and correspondence between Marion Eames and the BBC's Educational Broadcasting Service discussing the drama's requirements.

Y Rhandir Mwyn,

Drafft, 1970, o nofel Marion Eames, Y Rhandir Mwyn (Llandybïe, 1972), wedi ei ddiwygio'n sylweddol ac yn gwahaniaethu mewn mannau i'r gwaith cyhoeddedig. Gweler hefyd NLW MS 22496D. = A draft, 1970, of Y Rhandir Mwyn (Llandybïe, 1972) by Marion Eames, bearing substantial revision and differing in parts from the published text. With NLW MS 22496D.

Y Rhandir Mwyn,

Drafft, 1970, o nofel Marion Eames, Y Rhandir Mwyn (Llandybïe, 1972), wedi ei ddiwygio'n sylweddol ac yn gwahaniaethu mewn mannau i'r gwaith cyhoeddedig. Gweler hefyd NLW MS 22497D. = A draft, 1970, of Y Rhandir Mwyn (Llandybïe, 1972) by Marion Eames, bearing substantial revision and differing in parts from the published text. With NLW MS 22497D.

Y Rhandir Mwyn,

Papurau, [1972]-1976, yn ymwneud â'r nofel, Y Rhandir Mwyn (1972), a'r cyfieithiad, The Fair Wilderness (1976), gan gynnwys amlinelliad o gefndir hanesyddol y nofel a disgrifiadau o'r cymeriadau yn y Gymraeg a'r Saesneg; ynghyd â chopi o siaced lwch The Fair Wilderness. Mae rhai papurau o fewn y ffeil yn dwyn teitl gwreiddiol y cyfieithiad, The Fair Country. = Papers, [1972]-1976, relating to the novel Y Rhandir Mwyn (1972), and its translation, The Fair Wilderness (1976), including an outline of the novel's historical background and character biographies in Welsh and English; and a copy of the dust jacket of The Fair Wilderness. Some papers within the file bear the translation's original title, The Fair Country.

Y Pryf yn y Pren

Copi terfynol o gyfrol o farddoniaeth gan Mathonwy Hughes, sef Y Prif yn y Pren (Dinbych : Gwasg Gee, 1991), ynghyd â drafft teipysgrif.

'Y Pris'

Mae'r ffeil yn cynnwys drafftiau o'i nofel anghyhoeddedig, 'Y Pris', [?1982]-[1984].

'Y Penadur'

Sgript 'Y Penadur' a berfformiwyd gan Gwmni Buchedd Dewi yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi mewn llyfr nodiadau gyda chyfarwyddiadau goleuo, manylion gwisgoedd ac yn y blaen wedi'u hychwanegu ganddi a cherddoriaeth a gyfansoddwyd gan Terry James. Ceir llythyrau oddi wrth yr Archesgob George Noakes, 1989 a 1990, ac oddi wrth Paul Peter Piech, 1990. Mae emyn 'Crist yr Athro mawr, a'n dysgodd ...' gan Norah Isaac ar gefn y rhaglen.

Noakes, George, 1924-2008

'Y Llwybrau Gynt',

Ei atgofion 'Y Llwybrau Gynt' mewn teipysgrif o'r cyfnod cynnar nes iddo symud i Dyddyn Rhuddallt, [1972], ar gyfer rhaglen radio mewn cyfres o'r un enw. Cafodd rhain eu cynnwys gan Eirwen Gwynn yn ei hunangofiant Ni'n dau. Hanes dau gariad (Llandysul, 1999).

Y Llewod,

Llythyrau gan rai o'r plant a gafodd fynd ar Fordaith y Llewod i Bremen ar yr MS Prins Oberon a'r daith i Hamburg, a llythyrau oddi wrth Dafydd Parri yn trafod y llyfrau, y teithiau a dulliau hysbysebu'r gyfres.

Parri, Dafydd.

Y Llenor

Deunydd amrywiol, 1921-1923, yn cynnwys gohebiaeth yn bennaf, yn ymwneud â chyhoeddi cylchgrawn Cymraeg newydd, yn dwyn y teitl Y Llenor, i lenwi'r bwlch a adawyd gan dranc Y Beirniad. Ymhlith y gohebwyr mae W. J. Gruffydd, Henry Lewis ac Ifor Williams.

Y Gyngres Geltaidd,

Llyfr nodiadau'n cynnwys 'Adroddiad swyddogol a chywir' ganddo o'r Gyngres a gynhaliwyd yn Nulyn yn 1947, torion o'r wasg a llythyr oddi wrth Euros Bowen, ynghyd â thaflenni'r Gyngres a gynhaliwyd yn Quimper, Llydaw, 1951.

Bowen, Euros.

Canlyniadau 101 i 120 o 3783