Dangos 3783 canlyniad

Disgrifiad archifol
ffeil
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

4 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Yn Chwech ar Hugain Oed

Drafft llawysgrif, 1958, Yn Chwech ar Hugain Oed a gyhoeddwyd yn 1959; proflenni o benodau 1-2, ynghyd â phroflen o'r atodiad 'Ar hyd a lled y Cantref Mawr' nas cyhoeddwyd; proflenni tudalen a hirion wedi'u cywiro gan D. J. Bowen ac adolygiadau, 1959-1960, gan gynnwys un Dafydd Jenkins a ddarlledwyd ar 'Newydd o'r wasg' ar y BBC, 1959.

Bowen, D. J. (David James), 1925-

Ymweliadau tramor,

Papurau'n ymwneud â'i ymweliad ag Iwgoslafia, Medi 1976, gydag Undeb y Llenorion, taith Côr Meibion Bro Glyndwr i'r Iseldiroedd, 1988, a thaith i Fflandrys i goffáu Hedd Wyn, 1992. Ceir ei basbort hefyd, 1958-1968.

Ymweliad Marion Eames â'r Unol Daleithiau,

Deunydd printiedig, 1977-1986, yn ymwneud ag ymweliad Marion Eames â'r Unol Daleithiau yn 1984. Mae'r ffeil yn cynnwys llyfrynnau gwybodaeth a pamffledi nifer o sefydliadau o bwysigrwydd hanesyddol i'r Crynwyr yn Mhennsylfania a Washington; adroddiadau chwarterol Cymdeithas Harriton, 'The Curator's Quarterly Report', 1977-1982; a chopi o erthygl a ysgrifennodd Marion Eames yn sgil yr ymweliad yn trafod Bryn Mawr, Dolgellau, a Bryn Mawr (bellach Harriton), Pennsylfania, 1986. = Printed material, 1977-1986, relating to Marion Eames's visit to the United States in 1984. The file includes information booklets and pamphlets from various institutions of historical importance to the Quakers in Pennsylvania and Washington; quarterly reports from the Harriton Association, entitled 'The Curator's Quarterly Report', 1977-1982; and a copy of an article written by Marion Eames following her visit discussing Bryn Mawr, Dolgellau, and Bryn Mawr (now Harriton), Pennsylvania, 1986.

Ymgyrch Senedd i Gymru

Papurau yn ymwneud â'r ymgyrch dros Senedd i Gymru, [c.1939]-1964, gan gynnwys torion papur newydd; llythyrau; nodiadau gan Dr Iorwerth Hughes Jones; llyfryn Home Rule for Wales (y tu fewn i'r llyfryn mae poster ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 1964); pamffled rali Plaid Cymru yng Nghaerdydd, 1953, a llyfryn gan Dr J. Gwyn Griffiths, A Parliament in Cardiff; rhaglen i ginio 'Senedd yng Nghaerdydd' a threfn y seddau.

Parliament for Wales Campaign

Ymddiswyddiad Zonia M. Bowen,

Papurau, 1965-2007, a gasglwyd ynghyd gan Zonia M. Bowen yn ymwneud â'r anghydfod ynghylch lle crefydd yng nghyfarfodydd swyddogol Merched y Wawr a arweiniodd at ymddiswyddiad Zonia M. Bowen fel Llywydd Anrhydeddus Cenedlaethol ac aelod o'r Mudiad yn 1975. Mae'r ffeil yn cynnwys crynodeb o'r hanes gan Zonia M. Bowen, 2007; teipysgrif sgwrs gyda Zonia M. Bowen yn trafod yr anghydfod ar gyfer prosiect hanes llafar, 2001; gohebiaeth rhwng Zonia M. Bowen a'r Cyngor Cenedlaethol yn trafod y mater; copi o'r llythyr ymddiswyddo, 1975; a llythyrau a datganiadau i'r wasg yn esbonio ochr Zonia M. Bowen o'r ddadl.

Yma i Aros,

Teipysgrif o'r ffilm deledu Yma i Aros, [1989], gan gynnwys nodiadau.

Yma i Aros,

Llyfrau nodiadau y ddrama deledu Yma i Aros, 1988, gan gynnwys syniadau amlinellol am gymeriadau a lleoliadau set, a drafft cynnar o'r ffilm.

Y Wladfa

Nodiadau ar ymweliad Ben Davies â De America yn 1923-1924, erthyglau yn y Drafod, 1924, a phapurau eraill, heb ddyddiad arnynt, a phenillion yn gyflwynedig i Ben Davies ar ei ymweliad â'r Wladfa gan Llewelyn Williams, Trelew, 1924.

Y Wasg Gymraeg

Darlithoedd ac erthyglau, yn cynnwys 'Y Wasg Gymraeg Ddoe a Heddiw' (a 'The Welsh Press, Yesterday and Today'); 'Cyhoeddi Llyfrau Cymraeg yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg'; 'Stephen Hughes a'i Gyfnod' (gw. Y Cofiadur, 4 (1926)); ynghyd â nodiadau ar gyhoeddiadau ddiwedd yr ail ganrif-ar-bymtheg.

Y Tŵr,

Papurau'n ymwneud â'r ddrama, Y Tŵr, [1978], gan gynnwys drafftiau llawysgrif a theipysgrif; llyfrau nodiadau, yn cynnwys drafftiau bras; crynodeb Saesneg o gynnwys y ddrama; adolygiadau o'r ddrama; a braslun o'r set.

Y Trwynau Coch,

  • NLW ex 2617.
  • ffeil
  • [1978].

Papurau, [1978], yn ymwneud a'r grŵp pop Cymraeg, Y Trwynau Coch, gan gynnwys cytundeb, 1978, rhwng Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a'r grŵp i berfformio yng nghlwb nos Tito's yng Nghaerdydd a'r amodau, ac ychydig o dorion o'r Cymro yn ymwneud â'r grŵp.

Trwynau Coch (Musical group).

Y Tir Tywyll,

Papurau'n ymwneud â'r nofel, Y Tir Tywyll, 1988, gan gynnwys drafftiau o'r gwaith, copi o'r cyfieithiad Saeseng, a dau adroddiad yn trafod a ddylid cyhoeddi'r gwaith. = Papers relating to the novel Y Tir Tywyll, 1988, including drafts, a copy of the English translation, and two reports discussing whether the text should be published.

Y Stafell Ddirgel,

Cyfrol, [1964x1969], yn cynnwys drafft, wedi ei ddiwygio'n sylweddol, o nofel Marion Eames, Y Stafell Ddirgel (Llandybïe, 1969), a nodiadau a wnaed ganddi cyn dechrau ysgrifennu (tt. 2-225); ynghyd â drafft anghyflawn o waith a ymddengys yn angyhoeddedig, Heibio i'r Lafant (tt.226-291). Yn wreiddiol defnyddiwyd y gyfrol gan Marion Eames i gofnodi'r rhaglenni radio a gynhyrchwyd ganddi i BBC Cymru yn 1964. = A volume, [1964] x [1969], containing a draft, with substantial revision, of Marion Eames's novel Y Stafell Ddirgel (Llandybïe, 1969), with notes made in preparation for writing the novel (pp. 2-225); and an incomplete draft of an apparently unpublished work, Heibio i'r Lafant (pp. 226-291). The volume was previously used by the author to record radio programmes produced by her for BBC Wales in 1964.

Canlyniadau 81 i 100 o 3783