Dangos 839647 canlyniad

Disgrifiad archifol
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

9561 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Canmlwyddiant geni THP-W, 1987,

R25: Llythyr, 5 Rhagfyr 1986, oddi wrth Derec [Llwyd Morgan]. R26: Llythyr, 9 Chwefror 1987, oddi wrth Elfed [Roberts], Eisteddfod Genedlaethol Bro Madog, yn ymwneud â phlât y dathlu. R27: Llungopi o lythyr, 10 Rhagfyr 1986, oddi wrth Dyfnallt Morgan, Bangor, at R. Geraint Gruffydd, yn derbyn gwahoddiad i draddodi Darlith Goffa THP-W yn Aberystwyth, 12 Tachwedd 1987. R28: Llythyr, 20 Chwefror 1987, oddi wrth J. Clifford Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyngor Celfyddydau Cymru, yn ymwneud â chyhoeddi poster o 'Y Ferch ar y Cei yn Rio'; ynghyd â drafft inc, 23 Chwefror 1987, o ateb AP-W. R29: Llythyr, 13 Ionawr 1987, oddi wrth Catrin Anne Jones, Yr Academi Gymreig. R30: Llythyr, 27 Gorffennaf 1987, oddi wrth Dafydd Ifans, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn amgáu llungopi o'i erthygl, 'Genedigaeth "Hon" ', a ymddangosodd yn Barddas. R31: Barddas, Gorffennaf/Awst 1987. 'Genedigaeth "Hon" ', gan Dafydd Ifans, tt. 9-11; a 'Sylwadau', gan Bryan Martin Davies, tt. 24-5. R32: Barn, Mai 1987. 'Barddoniaeth T. H. Parry-Williams (1887-1975)', gan Siôn Aled, tt. 164-7. R33: News and Views (The University College of Wales, Aberystwyth), Mehefin 1987. 'Yr Academi Gymreig: Gwyl Syr T. H. Parry-Williams', gan Siân Ithel, t. 7. R34: Y Faner, 22 Mai 1987. 'Yr Agnostic crediniol', gan Llion Jones, t. 2. R35: Y Cymro, 27 Mai 1987. 'Gwych a chelfydd', gan Catrin Puw Davies. Llungopi o dudalen 7 yn unig. R36: Cambrian News, 24 Gorffennaf 1987. 'Prysurdeb y Babell Lên' a 'Plât i ddathlu'; ynghyd â ffotograff o'r plât. R37: Tocyn mynediad i ddarlith gan John Rowlands, 'Cipolwg ar waith T. H. Parry-Williams', dan nawdd Cymdeithas y Cymmrodorion a Chymmrodorion Caerdydd, 26 Medi 1987.

Canmlwyddiant geni Waldo Williams

Gohebiaeth oddi wrth Anna Williams at Albert ac Isobel Lewis yn ymwneud â threfniadau canmlwyddiant geni Waldo Williams yn 2004, sy'n cynnwys manylion am ddigwyddiadau yn Llandysilio, Sir Benfro a chyfeiriadau at aelodau o deulu Waldo. Magwyd Albert Lewis ar aelwyd Rhosaeron, cartref teuluol Waldo, a bu'n was priodas i Waldo.

Gohebiaeth at Dafydd (David/Dai) Williams, nai Waldo Williams (gweler dan bennawd Aelodau eraill teulu Waldo Williams - David Williams), yn amgau manylion ynghylch y digwyddiadau canmlwyddiant yn Llandysilio, sy'n cynnwys rhestr o aelodau o deulu Waldo ac eraill a fyddai'n bresennol a/neu'n cymeryd rhan.

Atgofion am Waldo Williams gan Wynn Vittle, sy'n cynnwys cyfeiriad at Dilys Williams, chwaer Waldo, a fu'n lletya yn nhŷ Benni ac Elsie Lewis, ewythr a modryb Wynn Vittle.

Atgofion am Waldo Williams yn llaw Teifryn Williams, nai Waldo (a brawd i David Williams).

Amserlen digwyddiadau canmlwyddiant geni Waldo Williams.

Canol Stryd Fawr (Centre of High Street),

Siop y fferyllydd (Michael Roberts a fu farw yn 1869) oedd yr enwog Siop Meic. Defnyddiodd yr arlunydd drwydded i osod meindwr Capel y Bedyddwyr y tu ôl i Siop Goch. Ar yr ochr chwith i'r llun, gyferbyn a Siop Roberts fe welir Queen's Vaults. Y drws nesaf ond un i'r dafarn, tua'r dwyrain, oedd hen neuadd y dref a ddisodlwyd yn 1820. // The chemist's shop (Michael Roberts, who died in 1869) was the renowned Siop Meic. The artist used licence incorrectly to locate the tower of Tabernacle Chapel behind Siop Goch, 58 High Street. On the left of the picture, opposite Roberts's Shop, Queen's Vaults can be seen. Next door but one to the tavern, on the eastern side, was the site of the old town hall that was replaced in 1820. (Nid oes sicrwydd pwy oedd yr arlunydd, ond gweler y sylw ar P/9 a P/10 / Artist unknown for certain, but see note on P/9 & 10).

Canolfan dechnolegol

Mae'r ffeil yn cynnwys adroddiadau a llythyrau yn bennaf yn ymwneud â sefydlu canolfan dechnolegol yng Nghymru, 1986-1989.

Canlyniadau 6221 i 6240 o 839647