Dangos 3783 canlyniad

Disgrifiad archifol
ffeil
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

4 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Ysgoldy newydd, 1906

Llythyrau a chynlluniau, 1901-1905, yn ymwneud â chodi ysgoldy newydd yn 1906 a phrynu adeiladau er mwyn cael y tir, mewn amlen yn dwyn enw Owen Roberts, un o ysgrifenyddion yr Eglwys, ynghyd ag adroddiad, 1929, ar yr adeilad gan arolygwr y sir.

Ysgol Sul (amrywiol),

Cyfrol, c. 1940, a thaflenni rhydd, [1938], [1942] a [1945], yn cofnodi cyfraniadau aelodau'r Ysgol Sul tuag at y Genhadaeth, y Ddyled a'r Ysgol; ynghyd â deuddeg o Lyfrau'r Athro, [1940x1950].

Ysgol Gymraeg, Lluest

Papurau, [1944]-[1963], yn ymwneud â chyfnod Norah Isaac fel prifathrawes Ysgol Lluest yn bennaf, gan gynnwys rhestr o aelodau pwyllgor yr ysgol, 1948-1951; llyfr cofnodion sy'n cynnwys rhestr o aelodau'r dosbarth hŷn, 1945-1947, a'r maes llafur. Ceir copïau o'r darnau a ddysgwyd, rhaglen cyngerdd Nadolig yr ysgol, 1948, a sgript cyngerdd Nadolig 1949; taflenni 'Mynnaf loywi fy Nghymraeg', 1944; ynghyd â ffotograffau o'r ysgol a'r disgyblion, [1949] a thaflen gwasanaeth angladd Syr Ifan ab Owen Edwards, 1970, pan dalwyd teyrnged iddo gan Norah Isaac.

'Yr Ysgol Sul a'r Beibl'

Mae'r ffeil yn cynnwys copi llawysgrif o adroddiad yn dwyn y teitl 'Yr Ysgol Sul a'r Beibl' a oedd, cyn hynny, yn 'Adroddiad Pwyllgor y Gogledd am yr Ysgol Sul'. Ysgrifennwyd hwn yn yr un cyfnod â'i lyfryn Yr Ysgol Sul, a gyhoeddwyd yn Llandybïe yn 1944, er ei fod yn gwbl wahanol.

Yr Ysgol Gymraeg

Papurau, [1936]-[1949], yn ymwneud â gweithgareddau'r Ysgol Gymraeg, gan gynnwys torion o'r wasg am addysg Gymraeg gan gynnwys 'The value of choral speaking in speech training', Teachers world and schoolmistress, 1936; enghreifftiau o bapurau arholiad, 1943, hanes, daearyddiaeth a gwybodaeth gyffredinol, Cymraeg iaith, a Saesneg, a osodwyd gan yr ysgol; rhaglen Gŵyl Ysgol a gynhaliwyd yn 1944 a chyngherddau Nadolig 1948 a 1949. Ym mhlith rhain mae llythyrau oddi wrth Cassie Davies, 1941, Mary [Vaughan Jones], [1949], Alun Llywelyn Williams, 1946, a Chyfarwyddwr Addysg Sir Forgannwg, 1949, yn cadarnhau ei bod wedi'i dewis yn ddarlithydd yng Ngholeg Y Barri. Ceir llythyrau hefyd oddi wrth edmygwyr ac ymholiadau am ddysgu Cymraeg. Yn ogystal ceir adroddiad Norah Isaac, 1945, i'r Pwyllgor Ymgynghorol ar Addysg yng Nghaerdydd, yn ymwneud â sut yr ymgorfforir diwylliant y gymuned i'r Ysgol Gymraeg; a ffotograffau ac enghreifftiau o waith ysgol y disgyblion.

Davies, Cassie, 1898-1988

Yr Orsedd

Cyfarwyddiadau seremonïau Gorsedd y Beirdd gan y Cofiadur Cynan mewn teipysgrif, [1935], ynghyd â chynllun Cylch yr Orsedd, 1960, a chopi printiedig o drefniadau'r Orsedd at Eisteddfod Genedlaethol Y Drenewydd 1965.

Cynan, 1895-1970

['Yr ogof']

Sgript ['Yr ogof' cyfieithiad Alwena Owen o ddrama Jean Anouilh 'La grotte' a berfformiwyd gan Gwmni Coleg y Drindod yn 1968].

Yr oes oleu hon,

  • NLW ex 2739.
  • ffeil
  • 1938.

Sgript drama a anfonwyd at Sarah E[len] Griffiths, mam y rhoddwyr, gan y BBC yn Abertawe i'w darlledu o Stiwdio Aberystwyth, 28ain Mawrth 1938, gyda Judith Jones, Sarah E[len] Griffiths, Thomas Evans a David Phillips yn actio ynddi. Roedd y pedwar actor yn byw yn ardal Tynygraig, [Ystrad Meurig, Ceredigion].

'Yr Iaith Lafar'

Darlithoedd ac erthyglau amrywiol ar Gymraeg llafar yn bennaf, gan gynnwys 'Yr Iaith Lafar', 'Yr Iaith Lafar a'r Iaith Lenyddol', 'Y Gymraeg ym Mhontypridd a'r Cylch', 'Y Gymraeg yng Nghaerdydd a'r Cylch', 'Yr Iaith Gymraeg ym Morgannwg', 'Y Gymraeg yn Sir Fynwy', 'Traddodiad Cymraeg Gwent', 'A Phonological conspectus of the Welsh dialect of Nantgarw', a 'Cymraeg Byw'.

'Yr Iaith Gymraeg'

Nodiadau darlithoedd amrywiol yn olrhain hanes a datblygiad yr iaith Gymraeg, gan gynnwys 'Yr Iaith Gymraeg', 'Yr Elfen Ladin yn y Gymraeg', a 'Y Gymraeg ym Morgannwg'.

Yr iaith

Mae'r ffeil yn cynnwys datganiad i'r wasg gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg, pedwar datganiad i'r wasg gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ac un cylchlythyr gan Gymdeithas Madog o Unol Daleithiau'r Amerig.

Canlyniadau 41 i 60 o 3783