Dangos 309 canlyniad

Disgrifiad archifol
Is-fonds Cymraeg
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Rhoddion Awst a Rhagfyr 1961

Y rhan o gasgliad Thomas Gwynn Jones (1871-1949), bardd ac ysgolhaig, a dderbyniwyd yn rhodd gan ei weddw yn Awst a Rhagfyr 1961. Ceir disgrifiad bras o'r grwp hwn yn Adroddiad Blynyddol 1961-2, tt. 29-30. Trefn: Cerddi mewn llawysgrif (C 1-16); Cyfieithiadau (C 17-24); Deunydd academaidd, dramâu, cyfieithiadau ac ysgrifau etc. (C 25-37); Rhagymadroddion, gweithiau Gwyddelig ac adysgrifau (C 38-54); Amrywiol, darlithoedd ac anerchiadau (C 55-98); Adolygiadau o lyfrau (C 99-105); Barn ar draethodau MA a phapurau yn ymwneud â'i waith yn Adran y Gymraeg (C 106-120); Beirniadaethau eisteddfodol (C 121-133); Esperanto (C 134-140); Personalia ac amrywiol (C 141-161); Adysgrifau o weithiau mewn Gwyddeleg (C 162-170); Eitemau wedi'u trosglwyddo o Adran y Llyfrau. Printiedig (C 171-177).

Rhodd Medi 2021

Papurau ychwanegol Mathonwy Hughes, [1850]-2019 (gyda bylchau), yn cynnwys gohebiaeth, barddoniaeth, ysgrifau, papurau'n ymwneud â'r Faner, ffotograffau a phapurau pobl eraill.

Canlyniadau 21 i 40 o 309