Dangos 567 canlyniad

Disgrifiad archifol
cyfres
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Llyfrau cyfraniadau misol,

Mae'r gyfres yn cynnwys cyfraniadau aelodau a phlant yr eglwys, 1954-1956 a 1964-1978, at y genhadaeth, diolchgarwch a'r eisteddleoedd. Cofnodir cyfraniadau Hyfrydle yn ogystal â Seilo yn y mwyafrif o'r cyfrolau.

Llyfrau cofnodion,

Llyfrau cofnodion Pwyllgor Gweinyddol Cymdeithas Gyfeillgar y Meibion Llanuwchllyn, 1837-1916, yn cofnodi penderfyniadau'r Pwyllgor ar faterion gweinyddol ac ariannol, gan gynnwys codi dirwyon a chanlyniadau etholiadau blynyddol y Gymdeithas i benodi aelodau'r Pwyllgor. Yn ogystal, ceir rhestrau o enwau aelodau o fewn rhai cyfrolau.

Llyfrau cofnodion y Gymdeithas Lenyddol

Mae'r gyfres yn cynnwys cofnodion Cymdeithas Lenyddol y Capel (Cymdeithas Lenyddol Eglwysi Dinorwig a'r Fachwen yn ddiweddarach). Yn eu plith ceir rhestri swyddogion ac aelodau'r pwyllgor, rhestri aelodau'r Gymdeithas, rhaglenni cyfarfodydd a chyfrifon.

Cymdeithas Lenyddol Eglwysi MC Dinorwig a'r Fachwen

Canlyniadau 241 i 260 o 567