Dangos 567 canlyniad

Disgrifiad archifol
cyfres
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Gohebwyr eraill,

Llythyrau, [1938]-[1985], 1993, oddi wrth gyfeillion a rhai'n ymateb i'w adolygiadau o'u gweithiau a ymddangosodd yn Y Cymro. Ceir llythyrau hefyd yn ymwneud â'r Cyfarfod Teyrnged i Harri Gwynn yn 1986.

Golygu Ben Bowen

Mae'r gyfres yn cynnwys copïau o lythyrau gan Ben Bowen, gwaith 'anghyhoeddiedig' Ben Bowen yn Seren yr Ysgol Sul, nodiadau bywgraffyddol a luniwyd gan David Bowen a deunydd gweinyddol yn ymwneud â chyhoeddi a gwerthu llyfrau gan Ben Bowen ac amdano.

Bowen, Ben, 1878-1903

Gwaith anorffenedig - ysgoloriaeth 1989-1990

Mae'r gyfres yn cynnwys dau ddarn o waith anorffenedig, ynghyd â pheth gohebiaeth a rhai nodiadau perthynol, a luniodd Angharad Tomos ar ôl ennill Ysgoloriaeth Awdur, Cyngor Celfyddydau Cymru, i'w galluogi i gymryd chwe mis i ysgrifennu yn ystod 1989-1990.

Gweithiau anghyhoeddedig

Ysgrifau ac erthyglau nas cyhoeddwyd a sgriptiau o'i waith a ddarlledwyd ar y radio, [1921]-[1954]. Cyhoeddwyd rhai o'r storïau hyn a ddarlledwyd, fodd bynnag, yn ddiweddarach, yn ei gyfrolau o storïau byrion.

Gweithiau llenyddol

Mae'r gyfres yn cynnwys papurau llenyddol Carys Bell, 1957-2001, yn cynnwys drafftiau o'i nofelau, sef teipysgrifau a llyfrau nodiadau; cyfraniadau i weithiau eraill; erthyglau Cymraeg a Saesneg ar gyfer y wasg, a sgriptiau radio; ynghyd â gohebiaeth berthnasol.

Gweithiau llenyddol,

Papurau amrywiol yn ymwneud â gweithiau llenyddol Marion Eames, 1933-[2007], gan gynnwys drafftiau nofelau, storïau i blant, sgriptiau a cherddi. Mae'r gyfres hefyd yn cynnwys ffeil o sgriptiau gan awduron eraill. = Various papers relating to literary works by Marion Eames, 1933-[2007], including drafts of her novels, children's stories, scripts and poetry. The series also includes a file containing scripts by other writers.

Hanes

Papurau yn ymwneud â gwahanol feysydd hanesyddol yr oedd y Dr Iorwerth Hughes Jones yn ymddiddori ynddynt, 1823, [1919]-[1972], sef hanes lleol, enwau lleoedd, hanes gwrthrychau, hanes Lady Barham a hanes meddygon a meddyginiaeth. Mae yma gymysgedd o ddeunydd megis llythyrau, nodiadau ymchwil, torion papur newydd, llawysgrifau, llyfrynnau a lluniau.

Hanes yr Achos ym Melinbyrhedyn.

Mae'r gyfres yn cynnwys deunydd wedi ei grynhoi gan Ambrose Bebb ar gyfer 'Hanes yr Achos' ym Melinbyrhedyn ynghyd â chopi llawysgrif o'r gwaith. Er i Ambrose Bebb ysgrifennu hanes y Methodistiaid ym Melinbyrhedyn a Darowen ar achlysur canmlwyddiant yr achos yno yn 1954, oherwydd amgylchiadau ar y pryd ni chyhoeddwyd mo'r gwaith. Ymddangosodd detholiad ohono yn Y Drysorfa ym 1965-1966 wedi ei olygu gan y Parchedig Ieuan Lloyd, Rhosllannerchrugog, dan y teitl 'Beerseba (Hanes yr Achos ym Melinbyrhedyn)'.

Canlyniadau 221 i 240 o 567