Showing 42 results

Archival description
With digital objects Welsh
Advanced search options
Print preview View:

Mari Lwyd (xii)

Mae’r ffeil yn cynnwys un bocs mynegai gwyrdd (ff. 1-320) a ddefnyddiwyd gan Phyllis Kinney o bosibl ar gyfer ei chyhoeddiad Welsh Traditional Music (2011) yn trafod arferion Mari Lwyd, Hela'r Dryw, a chalennig. Mae’r penawdau wedi eu trefnu yn ôl gwlad (Irish, Manx, Shetland, Orkneys, Scotland, England, Wales) ac yn cynnwys y penawdau Cyfri’r geifr, Gŵyl Fair, Hela’r Dryw / Hunting the Wren, Shrove Tuesday, Tri thrawiad, Un o fy mrodyr i, Calennig, Mari Lwyd, a Compass of 3/4/5/6/7.

Llythyrau Rhyfel Byd Cyntaf

Llythyrau, 1916-1918, yn ymwneud â phrofiadau F. Wynn Jones yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac fel carcharor rhyfel yn Yr Almaen yn 1918 ac o'r Iseldiroedd wedi iddo gael ei ryddhau, gan gynnwys llythyr, 1918, a anfonwyd at ei rieni yn eu hysbysebu ei fod ar goll a llythyr, 1918, a gylchredwyd oddi wrth y Brenin George VI, yn estyn croeso nôl iddo; a llythyrau, 1918, oddi wrth aelodau'r teulu a chyfeillion yn cydymdeimlo gyda hwy pan ofnwyd ei fod wedi colli'i fywyd, ynghyd â thri llythyr, [1918]-1919, oddi wrth Thomas Jones, brawd F. Wynn Jones, at y teulu.

George VI, King of Great Britain, 1895-1952

Llythyr oddi wrth David [Gwenallt Jones], ym Mhontardawe,

Cydymdeimlad ar farwolaeth David, brawd Kate Roberts. Penillion o waith ei dad ar yr achlysur hwnnw. Mae'n ddrwg ganddo fod KR yn gadael Ystalyfera. Mae'n nodi ei ddyled iddi ynglyn ag astudio'r Gymraeg. Dymuno'n dda iddi yn ei swydd newydd. Gofyn iddi ysgrifennu hen amser gorberffaith "myned" gan nad yw'n cael ei gynnwys yn y llyfr gramadeg. Cyhoeddwyd llun o'r llythyr hwn yn y gyfrol Bro a Bywyd - Kate Roberts (gol Derec Llwyd Morgan ([Caerdydd], 1981), t 24.

Llythyr oddi wrth Evan [Roberts] [brawd Kate Roberts], yn Rhosgadfan,

Newyddion am Cae'r Gors a'r ardal. Cyrhaeddodd hanner dwsin o luniau o fedd David ym Malta. Adroddir hanes sut y bu i fachgen dynnu'r lluniau a llunio llythyr ym Mai 1918. Gyda'r lluniau daeth llythyr oddi wrth fam y bachgen [gweler rhif 48 uchod] yn dweud iddi golli dau fab yn y rhyfel - un ym Malta pan oedd ar gychwyn adre a'r llall yng Nghairo. Dim ond wythnos yn ôl y cafodd yr eiddo personol yn ôl oddi wrth y Swyddfa Ryfel. Bu farw'r bachgen cyn anfon y lluniau. Mae'n amgau y ddau lythyr gan bod ei fam yn gofyn i KR i ateb y wraig a'u hanfonodd.

Llyfr Tonau Iago ap Ieuan

Llyfr Tonau Iago ap Ieuan. Ceir disgrifiad o gynnwys y gyfrol hon yn Percy A. Scholes, 'Hen Wlad Fy Nhadau', yng Nghylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 3.1-2 (1943), 1-10 (tt. 1-3). Ceir sgôr gwreiddiol Hen Wlad fy Nhadau ar f. 41 verso.

Timothy Richard

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau (heb eu trefnu'n gronolegol) oddi wrth Timothy Richard, a dau oddi wrth ei wraig Mary (ff. 1 a 6), wedi eu hysgrifennu yn bennaf at ei fam. Sonnir ynddynt am ei waith cenhadol a'r Eglwys yn China.

Richard, Timothy, 1845-1919

Results 1 to 20 of 42