Showing 3783 results

Archival description
file Welsh
Advanced search options
Print preview View:

4 results with digital objects Show results with digital objects

Aled Vaughan,

Llythyr, 1984, oddi wrth Aled Vaughan yn amgau pennod 11 o'i waith creadigol mewn teipysgrif er mwyn cael barn Tecwyn Lloyd arni.

Vaughan, Aled, 1920-1989.

Albwm 1949

Albwm a gyflwynwyd i Norah Isaac pan oedd yn gadael yr Ysgol Gymraeg i fod yn ddarlithydd yn Y Barri, 1949. Ceir cyfarchion ar lun a gair gan y disgyblion, ynghyd â ffotograffau rhydd, [1944]-1949, o'i chyfnod yno a rhai diweddarach. Ceir hefyd lungopi o lythyr byr oddi wrth Owen [Edwards], 1942

Aelodaeth

Llyfr yn cofnodi enwau'r rhai a ddaethant â thocynnau aelodaeth o eglwysi eraill i Eglwys Engedi, 1886-1894, ac yng nghefn y gyfrol ceir enwau'r rhai a dderbyniwyd yn gyflawn aelodau, 1886-1893. Ceir llyfr hefyd yn rhestru'r ymgeiswyr am aelodaeth, 1867-1886, gan gynnwys rhai a dderbyniwyd o Eglwysi eraill ac aelodau a ddiarddelwyd. Yn ogystal ceir nifer helaeth o docynnau aelodaeth, 1939-1997.

Adysgrifau o ddyddiaduron taith i'r Andes, 1889-97.

  • NLW ex 1775.
  • file

Adysgrif deipysgrif gan Marian Elias Roberts o ddyddiaduron, 1889-1897 â bylchau, William T Williams, Y Gaiman, Chubut, yn disgrifio teithiau ymchwil yng ngodre’r Andes (gweler NLW MSS 23551-8A); ynghyd ag adysgrif o ddau ddyddiadur tebyg (a ddychwelwyd at Fred Green, Chubut) am y cyfnod 8-26 Medi, 16 Hydref-21 Tachwedd 1889, a 27 Tachwedd 1889-4 Chwefror 1890. = A typescript transcript by Marian Elias Roberts of the diaries, in Welsh, 1889-97 with gaps, of William T. Williams, Gaiman, Chubut, Patagonia, describing expeditions to the Andes (now NLW MSS 23551-8A); together with a transcript of two similar diaries (returned to Fred Green, Chubut) for the period 8-26 September, 16 October-21 November 1889, and 27 November 1889-4 February 1890.

Roberts, Marian Elias.

Adysgrifau: gohebiaeth benodol

Bwndeli yn cynnwys adysgrifau o ohebiaeth Iolo Morganwg: 'W. O. Pughe at Iolo'; 'Llythyrau Taliesin at Iolo a'i frawd, E. W., Strand'; 'Llythyrau i Peggy a J. Walters, etc.'; llythyrau Iolo Morganwg at Owain Myfyr yn bennaf; 'Llythyrau IM at O. Myfyr ac ambell un i W. O. Pughe a G. Mechain. O Bygones y rhan fwyaf ohonynt'; 'Llythyrau IM at W. O. Pugh, Owain Myfyr, Gwallter Mechain, Ed. Williams, Y Strand, Rev. John Jones, Gelli Onnen, ...'; 'IM at Rev. D. Williams, George Dyer, Wm Wms Printer, Merthyr, ab Iolo a Peggy, Wm Howells, Rev. Hugh Jones, Lewisham, Tywysog Cymru, D. Davies, Llwynrhydowen ...'; 'i Lloyd Cil-y-bebyll, [a] Mr Williams, Cowbridge'; 'Spencer, Redwood, Tal[iesin]'; llythyrau at Iolo Morganwg yn nhrefn cyfenwau (A-C); a llythyrau Edward Williams, Strand, at Edward Williams, Flimston, ayyb.

Adysgrifau: cyffredinol

Bwndeli yn bennaf yn cynnwys adysgrifau o lawysgrifau Iolo Morganwg: Llanover Dosbarth C; llythyrau oddi wrth Iolo; llythyrau at Iolo; trefniant 'N'; trefniant 'Am'; 'Iolo 1 - dim llythyrau Iolo yn hwn' (PIAW 1-346); 'Iolo 2 - dim llythyrau personol' (PIAW 347-735); a chyfrol 'Ff. 1. IAW 1'.

Adysgrifau

Llyfr nodiadau yn cynnwys adysgrif o F. H. Bradley, Ethical Studies (Llundain, 1876) ac un arall yn cynnwys adysgrif o Wilhelm Bousser, What is religion? (Llundain, 1907) yn yr un llaw, [1876]-[1920]. Ymddengys nad Crwys sydd wedi gwneud y gwaith copïo.

Adroddiadau,

Adroddiad cyffredinol: 'America in retrospect', 1939, ar ei gyfnod fel myfyriwr (Commonwealth Fund Fellow), mewn teipysgrif gyda newidiadau yn ei law, ynghyd â 'An American University through the eyes of a Welshman', llythyr, 1943, oddi wrth yr Athro A. M. Witherspoon, Prifysgol Iâl a phapurau erail.

Witherspoon, Alexander Maclaren.

Results 3721 to 3740 of 3783