Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1954-2018 (Creation)
Lefel y disgrifiad
Fonds
Maint a chyfrwng
0.0045 metrau ciwbig (5 bocs bach, 1 'bespoke' )
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Ganwyd Elinor Bennett ar 17 Ebrill 1943 yn Ysbyty Llanidloes i Emrys Bennett Owen a’i wraig Hannah. Symudodd y teulu i Lanuwchllyn pan oedd hi’n chwech mlwydd oed. Dechreuodd gael gwersi telyn gan Alwena Roberts pan oedd yn ddeg mlwydd oed. Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth gan raddio yn 1963 a symud i Lundain. Enillodd ysgoloriaeth i astudio gydag Osian Ellis yn yr Academi Frenhinol. Priododd Dafydd Wigley ar 26 Awst yn 1967.
Mae Elinor Bennett wedi cynnal cyrsiau telyn er 1978 ac wedi arwain Gŵyl Delynau Rhyngwladol Caernarfon er 2008. Bu’n ganolog i’r gwaith o sefydlu Canolfan Gerdd William Mathias yng Nghaernarfon yn 1999 lle bu’n Gyfarwyddwraig Artistig, 2003-2008.
Bu hefyd yn perfformio gyda cherddorfeydd a grwpiau siambr blaenllaw ac mewn cyngherddau i glybiau cerdd. Bu’n Gyfarwyddwraig artistig i Ŵyl Cricieth ganol y nawdegau. Bu’n perfformio deuawdau gyda’r delynores Meinir Heulyn a gyda’r ffliwtydd Judith Hall.
Cafodd ei gwahodd i fod yn aelod o’r panel a fyddai’n dewis cynllun i adeilad y Cynulliad yn 1998.
Cyhoeddwyd ei hunangofiant Tannau tynion yn 2011.
Hanes archifol
Ffynhonnell
Elinor Bennett Wigley; Caernarfon; Rhodd; Hydref 2021; e 992521502802419
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Papurau Elinor Bennett, 1954-2018, yn cynnwys sgorau cerddoriaeth; papurau’n ymwneud ag ymweliad Côr Madrigal Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth â’r Unol Daleithiau; rhaglenni gwyliau telyn, gwyliau cerdd; rhaglenni cyngherddau; ffotograffau; a phapurau’n ymwneud â dewis cynllun ar gyfer adeilad newydd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. = Papers of Elinor Bennett, 1954-2018, comprising music scores; papers relating to the visit of The University College of Wales, Aberystwyth’s Madrigal Choir to America; programmes for harp festivals and music festivals; concert programmes; photographs; and papers relating to selecting both the architect and the design concept for the new Welsh National Assembly building.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Croniadau
Disgwylir ychwanegiadau.
System o drefniant
Trefnwyd yn LlGC yn saith cyfres gyda chymorth rhestr a ddarparwyd gan Elinor Bennett ei hunan.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Gwarchod Data 1998 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
- Almaeneg
- Cymraeg
- Ffrangeg
- Hwngareg
- Pwyleg
- Saesneg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg a Saesneg yn bennaf; gyda pheth Almaeneg, Ffrangeg, Hwngareg, Pwyleg ac eraill.
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Gorffennaf 2022
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r catalog: Elinor Bennett Wigley, Tannau tynion (Pwllheli, 2011) a phapurau yn yr archif.
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd gan Ann Francis Evans