Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 2 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau David Bowen a Ben Bowen, ffeil South Africa
Rhagolwg argraffu Gweld:

Papurau amrywiol

Mae'r ffeil yn cynnwys tysteb, a gasglwyd gan E. K. Jones, i hyrwyddo taith Ben Bowen i Dde Affrica; papurau'n ymwneud â'i siwrne a'i arhosiad yn Kimberley, 1902, a cherdyn angladdol Ben Bowen, 20 Awst 1903; ynghyd â cherddi teyrnged iddo, 1903-38, yn cynnwys un yn llaw Dyfnallt.

Jones, E. K. (Evan Kenffig), 1863-1950

Llythyrau at Ben Bowen

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau at Ben Bowen, gan gynnwys llythyrau oddi wrth O. M. Edwards, John Gwili Jenkins, Lizzie Bowen, Dyfnallt, E. K. Jones, Elfed, Eluned Morgan, David Bowen, David Richards a Dafydd Morganwg. Ceir llythyrau yn cydymdeimlo ar farwolaeth ei dad, a llythyrau'n sôn am farddoniaeth, am Dde Affrica ac am gyflwr iechyd Ben Bowen.

Edwards, Owen M. (Owen Morgan), 1858-1920