Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 89 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau David Bowen a Ben Bowen, ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

1 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Llythyrau at David Bowen, A-H

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau gan Euros Bowen, Hannah Bowen (gwraig gyntaf David Bowen), Lizzie Bowen (ail wraig David Bowen), Rhiannon Bowen (merch David Bowen), Thomas Orchwy Bowen (brawd David Bowen), Ifan ab Owen Edwards, O. M. Edwards, T. I. Ellis, D. Emrys Evans, Wil Ifan, W.R.P. George, R. E. Griffiths, J. Gwyn Griffiths a D. Hopkin.

Edwards, Owen M. (Owen Morgan), 1858-1920

Timothy Richard

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau (heb eu trefnu'n gronolegol) oddi wrth Timothy Richard, a dau oddi wrth ei wraig Mary (ff. 1 a 6), wedi eu hysgrifennu yn bennaf at ei fam. Sonnir ynddynt am ei waith cenhadol a'r Eglwys yn China.

Richard, Timothy, 1845-1919

Barddoniaeth 1895

Mae'r ffeil yn cynnwys cerddi megis 'Marwnad i Sarah Jane Davies, Greenfield Hotel' ar gyfer Eisteddfod Nebo, Ystrad; 'Marwnad i Edward Meredith (groser), Llwynypia' ar gyfer Eisteddfod Tonypandy; a cherdd yn dwyn y teitl 'Cleddyf yr Arglwydd a Gideon'.

Barddoniaeth 1897

Mae'r ffeil yn cynnwys drafft o 'Durtur y Deffro' a gyhoeddwyd yn 1897 a llyfrau nodiadau yn cynnwys 'Y Ffurfafen'. 'Gardd Gethsemane', 'Yr Iesu a wylodd' a marwnadau.

Ben Bowen

Mae'r ffeil yn cynnwys toriadau papur newydd am Ben Bowen; llythyrau at David Bowen yn cynnwys un gan Vincent Evans, 1905; llyfryn 'Gŵyl Llyfrau Cymru 1934' ynghyd â llythyrau yn ymwneud â'r ŵyl a rhaglen cwrdd dadorchuddio cofeb Ben Bowen.

Evans, Vincent, Sir, 1851-1934

Cerddi a rhyddiaith amrywiol

Mae'r ffeil yn cynnwys cerddi a rhyddiaith gan awduron amrywiol, nifer ohonynt wedi eu hysgrifennu ar gyfer Seren yr Ysgol Sul a chyhoeddiadau eraill ar bynciau crefyddol neu ddiwylliannol.

Trefniadau cyhoeddi

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr nodiadau David Bowen yn rhestru enwau, cyfeiriadau a'r nifer o gopïau a ofynnwyd amdanynt gan danysgrifwyr i'r llyfrau Ben Bowen yn Neheudir Affrica a Ben Bowen i'r Ieuanc, 1928-47; llythyrau gan wahanol gyhoeddwyr ynglŷn â chost tebygol cyhoeddi'r cyfrolau, 1927; llythyrau gan danysgrifwyr yn gofyn am neu'n diolch am lyfrau, 1942-8, ac anfonebau a derbyniadau, 1901-54, yn cynnwys anfoneb at David Bowen am dwy fil o gopïau o bryddest Pantycelyn, Ebrill 1901.

Gwaith David Bowen am Ben Bowen

Mae'r ffeil yn cynnwys nodiadau manwl a luniwyd gan David Bowen am ei frawd, Ben Bowen, ei deulu a'i gyfoedion. Ysgrifennwyd hwy ar gyfer yr erthyglau a'r llyfrau a gyhoeddodd David Bowen ac fe gynhwysir copi teipysgrif o ragarweiniad Dr. Thomas Jones i'r llyfr Ben Bowen yn Neheudir Affrica, gol. Myfyr Hefin (Llanelli, 1928).

Gwaith anghyhoeddedig Ben Bowen

Mae'r ffeil yn cynnwys toriadau o gyfres o erthyglau, 'Gwaith Anghyhoeddedig Ben Bowen', a ymddangosodd yn Seren yr Ysgol Sul; a dau rifyn o Seren yr Ysgol Sul yn cynnwys erthyglau ar Ben Bowen gan ei frawd.

Amrywiol

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfrau nodiadau a phapurau a luniwyd gan David Bowen ar gyfer erthyglau a darlithoedd ar 'Feirdd y Bedyddwyr', 'Cymeriadau'r Fro' [Sir Gaerfyrddin], a nifer o weinidogion y Bedyddwyr. Ceir hefyd lythyr gan Ben Bowen Thomas at ei ewythyr, Ionawr 1943, yn beirniadu un o'r erthyglau.

Thomas, Ben Bowen, 1899-1977

John Jones (Mathetes)

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr nodiadau a phapurau a grewyd gan David Bowen wrth ysgrifennu llyfr ar hanes y Parch. John Jones (Mathetes), sef Parch. J. Jones (Mathetes): ynghyd â hanes ei gyfarfod can-mlwyddiant gan gwrdd chwarter rhan uchaf Sir Gaerfyrddin, detholion o'i waith, gyda darluniau, Cyfres Cedyrn Canrif (Llanelli, c. 1921).

Parch. David Hopkin

Mae'r ffeil yn cynnwys erthyglau, pregethau a nodiadau llawysgrif gan David Hopkin ar bynciau megis 'Pabyddiaeth', 'Dirwest' a 'Y Bedyddwyr a'r gwaith cenhadol'. Yr oedd David Hopkin a David Bowen yn gyd-olygyddion 'Cyfres cedyrn canrif' a 'Chyfres y Bedyddwyr Ieuanc'.

Hopkin, David, d. 1948

T. G. Thomas

Mae'r ffeil yn cynnwys drafftiau llawysgrif a chopïau gorffenedig o gerddi gan T. G. Thomas, Treboeth, gan gynnwys 'Yr Afradlon, 'Y Fordaith' ac 'O Arwain Di'.

Ioan Emlyn

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr nodiadau ar Ioan Emlyn a John Jones (Mathetes) o'r enw 'I ddau John Jones o Lannau Teifi'; llythyrau, cardiau post a thoriadau papur newydd yn ymwneud â chofgolofn Ioan Emlyn, a gohebiaeth â ŵyr Ioan Emlyn, Aneurin Gomer Emlyn Jones Fudge.

'Brynfab'

Mae'r ffeil yn cynnwys cerdd llawysgrif gan Brynfab ar achlysur dadlennu cofgolofn Ben Bowen, llythyr oddi wrth E. Williams, mab Brynfab, nodiadau ar waith Brynfab o dan y teitl 'Oriel y Beirdd' a thoriadau papur newydd.

Brynfab, 1848-1927

Darlithiau

Mae'r ffeil yn cynnwys nodiadau ar gyfer dwy ddarlith a draddodwyd gan David Bowen : 'Cyfle'r Ieuanc' ac 'Urdd y Seren Fore'.

Welsh Baptist Union. Welsh Baptist Young People's Union. Urdd y Seren Fore

Canlyniadau 1 i 20 o 89