Showing 188 results

Archival description
Cofnodion Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Print preview View:

Datblygiad sefydliadol

Mae’r grŵp yn cynnwys gohebiaeth a phapurau yn ymwneud â datblygiad sefydliadol y Ganolfan, [1921x1930] a 1970-1993, yn cynnwys papurau Ysgol Astudiaethau Celtaidd Coleg Prifysgol Cymru; trefnu agoriad swyddogol y Ganolfan; cynllunio adeilad y Ganolfan; staffio; a datblygiad llyfrgell y Ganolfan.

Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru

Rhestrau o gyhoeddiadau yn angen yn Llyfrgell y Ganolfan

Rhestr gwaith y Llyfrgell, [1978]; rhestrau o gyfeirlyfrau, cyfnodolion, a chyhoeddiadau Gwasg Prifysgol Cymru yn eisiau yn Llyfrgell y Ganolfan, [1978]; copïau o llyfryddiaethau (1976; 1978); rhestr o gyhoeddiadau Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion [1921x1930]; rhestr o roddion Y Foneddiges Amy Parry Williams (1978); Adroddiad y Llyfrgellydd (1978); agendâu a chofnodion cyfarfod Pwyllgor Gwaith y Ganolfan (1978-1979); a dau lythyr (1978), oddi wrth A. Kumbria ac Ieuan Gwynedd Jones.

Cynigion staffio

Gohebiaeth a phapurau yn trafod y staffio, lleoliad, a chefnogaeth ariannol arfaethedig y Ganolfan, 1970, 1974, a 1984, yn cynnwys agenda a chofnodion cyfarfod y Corff Llywodraethol (1984); cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Gwaith (1983); memoranda (1984); copi o ddatganiad gan R. Geraint Gruffydd (1970); a llythyrau (1974; 1984) oddi wrth Peter Swinnerton-Dyer; Gareth Owen; Russell Davies; Charles Thomas; R. Geraint Gruffydd; T.A. Owen; Emrys Wynn Jones; Bobi Jones; Elwyn Davies; Olwen Daniel; a J. E. Caerwyn Williams.

Datblygiad yr Ysgol Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd

Gohebiaeth a phapurau, 1971, 1973-1974, a 1976; yn ymwneud â datblygiad arfaethedig yr Ysgol Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd, Coleg Prifysgol Cymru, y rhan fwyaf yn trafod yn bennaf sefydlu ysgoloriaethau ar gyfer Astudiaethau Celtaidd, manylion yr Ysgol Astudiaethau Celtaidd arfaethedig, a’r ceisiadau i gael adeilad swyddogol yn y Brifysgol; ac yn cynnwys llythyrau oddi wrth R. Geraint Gruffydd; J. Gareth Thomas; Thomas Parry; Goronwy Daniel; T.A. Owen; David Jenkins; J.E. Caerwyn Williams; Ieuan Gwynedd Jones; ac Emrys Wynn Jones.

Pwrcasau, Rhoddion, a Thanysgrifiadau

Papurau a gohebiaeth, 1974, 1977-1981, a 1983; yn ymwneud â phwrcasau, rhoddion, a thanysgrifiadau llyfrgell y Ganolfan, yn cynnwys anfonebau (1978-1980); rhestrau o roddion (1977-1980; 1983); rhestrau cyfnodolion ([1979]); copi o ‘Bibliotheca Celtica’ (1974); a gohebiaeth gysylltiedig, (1978-1980; 1983), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Jeremy Griffiths; R. C. Snelling; Olwen Daniel; Emrys Evans; J. M. Thomas; H. N. Jack; Mary Griffiths; A. McCarthy; M. Hayes; Ann Rhydderch; Joan Mitchell; H. L. Douch; Owain Jones; Dafydd Morris Jones; Gwynedd O. Pierce; Brian Howells; Linda Watts; J. E. Caerwyn Williams; Diarmuid de Paor; Bryn R. Parry; J. Haulfryn Williams; H. D. Rees; I. M. Read; A. Roberts; a W. G .J. Hughes.

Deiseb yr Adran Astudiaethau Celtiadd, Prifysgol Lerpwl

Copi o ddeiseb, 1977, wedi llofnodi gan aelodau'r Ysgol Astudiaethau Celtiadd, Aberystwyth; a gohebiaeth cysylltiedig, 1974-1977, yn trafod gwrthwynebu cau’r Adran Astudiaethau Celtaidd yn Prifysgol Lerpwl, yn cynnwys llythyrau oddi wrth R. Geraint Gruffydd; Pat Williams; N.J.A. Williams; J.E. Caerwyn Williams & R. Geraint Gruffydd; Roger Wright; Glanville Price; F.W. Walbank; Thomas Parry; Thomas Parry, T.J. Morgan, A.O.H. Jarman, J.E. Caerwyn Williams, ac R. Geraint Gruffydd; a James Cross.

Gruffydd, R. Geraint

Rhoddion

Gohebiaeth a phapurau, 1976-1978, y rhan fwyaf gohebiaeth yn ymwneud â rhoddion i'r Apêl Syr Thomas Parry Williams, yn cynnwys llythyrau oddi wrth J. Haulfryn Williams; J. E. Caerwyn Williams; Jack Evans; Roy Stephens; R. Geraint Gruffydd; G. D. Jones; John Rhys; Brian Ó Cuív; J. A. Edwards; Trevor Morgan; Emrys Wyn Jones; Cyril Moseley; T.A. Owen; Heidemarie Poschbeck; Bobi Jones; Elan Closs Stephens; Ioan Bowen Rees; Douglas Bassett; David Jenkins; Pat Williams; R. Geraint Gruffydd, Ieuan Gwynedd Jones, a J. E. Caerwyn Williams; a Thomas Parry. Yn ogystal, ceir copi o'r cylchgrawn ‘Ninnau’ (1978).

Results 1 to 20 of 188