Showing 188 results

Archival description
Cofnodion Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Print preview View:

Datblygiad yr Ysgol Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd

Gohebiaeth a phapurau, 1971, 1973-1974, a 1976; yn ymwneud â datblygiad arfaethedig yr Ysgol Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd, Coleg Prifysgol Cymru, y rhan fwyaf yn trafod yn bennaf sefydlu ysgoloriaethau ar gyfer Astudiaethau Celtaidd, manylion yr Ysgol Astudiaethau Celtaidd arfaethedig, a’r ceisiadau i gael adeilad swyddogol yn y Brifysgol; ac yn cynnwys llythyrau oddi wrth R. Geraint Gruffydd; J. Gareth Thomas; Thomas Parry; Goronwy Daniel; T.A. Owen; David Jenkins; J.E. Caerwyn Williams; Ieuan Gwynedd Jones; ac Emrys Wynn Jones.

Deiseb yr Adran Astudiaethau Celtiadd, Prifysgol Lerpwl

Copi o ddeiseb, 1977, wedi llofnodi gan aelodau'r Ysgol Astudiaethau Celtiadd, Aberystwyth; a gohebiaeth cysylltiedig, 1974-1977, yn trafod gwrthwynebu cau’r Adran Astudiaethau Celtaidd yn Prifysgol Lerpwl, yn cynnwys llythyrau oddi wrth R. Geraint Gruffydd; Pat Williams; N.J.A. Williams; J.E. Caerwyn Williams & R. Geraint Gruffydd; Roger Wright; Glanville Price; F.W. Walbank; Thomas Parry; Thomas Parry, T.J. Morgan, A.O.H. Jarman, J.E. Caerwyn Williams, ac R. Geraint Gruffydd; a James Cross.

Gruffydd, R. Geraint

Rhoddion

Gohebiaeth a phapurau, 1976-1978, y rhan fwyaf gohebiaeth yn ymwneud â rhoddion i'r Apêl Syr Thomas Parry Williams, yn cynnwys llythyrau oddi wrth J. Haulfryn Williams; J. E. Caerwyn Williams; Jack Evans; Roy Stephens; R. Geraint Gruffydd; G. D. Jones; John Rhys; Brian Ó Cuív; J. A. Edwards; Trevor Morgan; Emrys Wyn Jones; Cyril Moseley; T.A. Owen; Heidemarie Poschbeck; Bobi Jones; Elan Closs Stephens; Ioan Bowen Rees; Douglas Bassett; David Jenkins; Pat Williams; R. Geraint Gruffydd, Ieuan Gwynedd Jones, a J. E. Caerwyn Williams; a Thomas Parry. Yn ogystal, ceir copi o'r cylchgrawn ‘Ninnau’ (1978).

Rhoddion cyffredinol

Gohebiaeth a phapurau, 1978-1979, yn ymwneud â rhoddion i Lyfrgell y Ganolfan, rhai fel rhan o Apêl Syr Thomas Parry-Williams; a sefydlu'r Llyfrgell; gyda’r papurau yn cynnwys datganiad i’r wasg, [1979]; cofnodion cyfarfod yr Ysgol Astudiaethau Celtaidd, Aberystwyth (1978); rhestrau o roddion (1978) o gasgliadau Gwasg Gee, Syr Ben Bowen Thomas, a’r Foneddiges Amy Parry-Williams; a llythyrau (1978-1979), oddi wrth J. E. Caerwyn Williams; A. T. Griffiths; R. Geraint Gruffydd; Herbert Pilch; Rachel Bromwich; Ann Morgan; Gwyneth Vaughan Jones; Ieuan Gwynedd Jones; W. W. Dieneman; a Charles Charman.

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod ac agendâu Corff Llywodraethol y Ganolfan, 1978-1979; Adroddiad y Llyfrgellydd 1978-1979 (1979); adroddiad ariannol (1979); Adroddiad Blynyddol y Ganolfan 1978-1979 (1979); memoranda; copi o gyfansoddiad drafft y ganolfan (1977); a llythyrau cysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (1978-1979) oddi wrth J. E. Caerwyn Williams; Ieuan Gwynedd Jones; Glanville Price; Graham L. Rees; R. R. Davies; Dafydd Jenkins; Harold Carter; a W. W. Dieneman.

Rhestrau o gyhoeddiadau yn angen yn Llyfrgell y Ganolfan

Rhestr gwaith y Llyfrgell, [1978]; rhestrau o gyfeirlyfrau, cyfnodolion, a chyhoeddiadau Gwasg Prifysgol Cymru yn eisiau yn Llyfrgell y Ganolfan, [1978]; copïau o llyfryddiaethau (1976; 1978); rhestr o gyhoeddiadau Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion [1921x1930]; rhestr o roddion Y Foneddiges Amy Parry Williams (1978); Adroddiad y Llyfrgellydd (1978); agendâu a chofnodion cyfarfod Pwyllgor Gwaith y Ganolfan (1978-1979); a dau lythyr (1978), oddi wrth A. Kumbria ac Ieuan Gwynedd Jones.

Results 1 to 20 of 188