Showing 188 results

Archival description
Cofnodion Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Print preview View:

Papurau'r Pwyllgor 2007

Agenda’r Pwyllgor Cyhoeddiadau ac Ymchwil Gydweithredol Prifysgol Cymru, Hydref 2007; adroddiad ariannol y Pwyllgor, 2006-2007 (2007); adroddiad blynyddol y Bwrdd Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Cymru, 2006-2007 (2007); adroddiad Gwasg Prifysgol Cymru i’r Ganolfan (2007); adroddiad Llên Cymru (2007); cyfarwyddiadau i ymgeiswyr grantiau Prifysgol Cymru (2007); a llythyrau cysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (2007), oddi wrth Vera Bowen; Ralph Griffiths.; a Jeffrey L. Davies.

Papurau'r Pwyllgor 2008

Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cyhoeddiadau ac Ymchwil Gydweithredol Prifysgol Cymru, Hydref 2007 ac Ebrill 2008; ac agendâu Ebrill 2008 a Hydref 2008; adroddiad ariannol y Pwyllgor, 2007-2008 (2008); adroddiad cyhoeddiadau Prifysgol Cymru (2008); a manylion o ymgeision am ariannu prosiectau ymchwil (2008). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (2007-2008), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Angharad Elias; Sarah Lewis; Geraint H. Jenkins; Richard Bullen; Jemma Bezant; Malin Stegman McCallion; J. Beverley Smith; Mark Simon; Ralph Fevre; Andrew Thompson; Geraint Phillips; Wendy Davies; Anne Ray; Ashley Drake; Ian George; P. D. A. Harvey; Elizabeth Danbury; Neil Evans; Bill Jones; D. W. Bebbington; a Stewart Brown.

Papurau'r Pwyllgor 2010

Cofnodion cyfarfod, Hydref 2009, a Mai a Hydref 2010; agendâu’r Pwyllgor, Mai a Hydref 2010; adroddiad ariannol y Pwyllgor, 2009-2010 (2010); adroddiadau prosiectau ymchwil (2010); manylion o gynigion prosiect a ymgeision am ariannu brosiectau ymchwil (2010); ac adroddiadau gan olygyddion cyfnodolion (2010). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (2010), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Angharad Elias; Christine James; Paul Russell; Jenny Rowland; Patrick Sims-Williams; David Austin; Andrew Fleming; Jeffrey L. Davies; William Manning; Niall Sharples; Stephen Driscoll; Edel Bhreathnach; a Ralph Griffiths.

Cofnodion cyfarfod y Grŵp Ymgynghorol a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod Grŵp Ymgynghorol (yn flaenorol y Pwyllgor Ymgynghorol) y Ganolfan, Hydref 2014, a Chwefror a Mehefin 2015; agendâu, Chwefror, Mehefin, a Hydref 2015; adroddiad blynyddol y Ganolfan, 2014-2015 (2015); a llythyrau (2015) oddi wrth Angharad Elias. Yn ogystal, ceir cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Rheoli (yn flaenorol y Penaethiaid Prosiectau), Tachwedd a Rhagfyr 2014, ac Ionawr, Mawrth, Ebrill, Gorffennaf, a Medi 2015; a chofnodion cyfarfod y Pwyllgor Graddau Ymchwil, Tachwedd 2014.

Cofnodion cyfarfod y Grŵp Ymgynghorol a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod Grŵp Ymgynghorol y Ganolfan (yn flaenorol y Pwyllgor Ymgynghorol), Hydref 2015, a Mawrth a Mehefin 2016; agendâu, Mehefin a Thachwedd 2016; adroddiad blynyddol y Ganolfan, 2015-2016 (2016); a llythyrau (2016) oddi wrth Angharad Elias. Yn ogystal, ceir cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Rheoli (yn flaenorol y Penaethiaid Prosiectau), Tachwedd a Rhagfyr 2015, ac Ionawr, Mawrth, Ebrill, Gorffennaf, Medi, a Hydref 2016.

'Tafodieithoedd'

Papurau a gohebiaeth, 1989, yn ymwneud â nawfed Fforwm y Ganolfan, ‘Tafodieithoedd’, yn cynnwys rhaglen; rhestr o fynychwyr; slipiau ateb; rhestr o aelodaeth Cylch Astudiaethau Tafodieithol Urdd y Graddedigion; a llythyrau, yn trafod trefnu'r Fforwm, oddi wrth Morfydd E. Owen; R. Geraint Gruffydd; Llinos Young; Richard Crowe; a Peter Wynn Thomas.

Parti'r Ganolfan

Gohebiaeth a phapurau yn trafod trefnu Parti’r Ganolfan, 1989, yn cynnwys slipiau ateb; rhestr o fynychwyr; a llythyrau oddi wrth Janem Jones; L. J. Williams; B.G. Charles; Beti a Tegwyn Jones; Telfryn Pritchard; Dafydd Bowen; John Rowlands; Ian Salmon; Geraint a Zonia Bowen; John Fitzgerald; Richard Crowe; Rachel Bromwich; Rhidian Griffiths; Derec Llwyd Morgan; a Peter Smith.

Results 1 to 20 of 188