Showing 567 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales series
Advanced search options
Print preview View:

Llythyrau,

Llythyrau personol oddi wrth gyfeillion yn llongyfarch D. Tecwyn Lloyd ar ei lwyddiant academaidd ac ar dderbyn swyddi newydd, gwahoddiadau i ddarlithio oddi wrth gymdeithasau a llythyrau'n ymwneud â chyfraniadadu ar gyfer y cylchgrawn Taliesin y bu'n ei olygu.

Llythyrau a dderbyniodd tra'n Gymrawd Ymchwil yn Rhufain,

Llythyrau a chardiau Nadolig, 1951-1952, a anfonwyd at D. Tecwyn Lloyd tra'n gwenud gwaith ymchwil ar archifau'r unfed ganrif ar bymtheg yn Llyfrgell y Fatican yn Rhufain. Yn eu plith mae llythyrau oddi wrth ei deulu, cyfeillion, a chydweithwyr yng Ngholeg Harlech, ac ysgolheigion fel Griffith John Williams, 1952.

Williams, G. J. (Griffith John).

Gohebiaeth gyffredinol,

Llythyrau, 1924-1992, gan gynnwys llythyrau oddi wrth aelodau'r teulu, cyfeillion, ysgolheigion a llenorion yn ymwneud â'i swyddi amrywiol, ei ddiddordebau llenyddol, ei waith ymchwil a'i gyhoeddiadau, ac yn ei longyfarch ar ei anrhydeddu gyda gradd Doethur mewn Llenyddiaeth gan Brifysgol Cymru yn 1990.

Papurau academaidd,

Papurau'n ymwneud â'r cyfnod a dreuliodd yn y brifysgol ym Mangor, gan gynnwys ai atgofion am y blynyddoedd 1934-1938, ynghyd â'i draethawd MA, 1961.

Addysg i oedolion,

Papurau, [1938]-1992, yn ymwneud â'r cyfnod y bu'n cynnal dosbarthiadau i oedolion dan nawdd Prifysgolion Bangor ac Aberystwyth.

Deunydd amrywiol

Mae'r gyfres yn cynnwys papurau'n ymwneud â Chapel Bethel, Aberhonddu, 1854-[c.1945], a Chapel Horeb, Pum-hewl, Llanelli, [1910]-[1939], ynghyd â phapurau amrywiol yn ymwneud ag Undeb y Bedyddwyr, Undeb Bedyddwyr Ieuanc Cymru, Seren y Plant a Seren yr Ysgol Sul, 1922-1954.

Llythyrau at David Bowen

Mae'r gyfres yn cynnwys llythyrau at David Bowen, 1890-1955, sy'n ymwneud yn bennaf â'i waith fel awdur colofn papur newydd, a golygydd cylchgronau amrywiol a chyhoeddiadau o waith Ben Bowen.

Llythyrau gohebwyr cyson,

Llythyrau, [1940]-1989, oddi wrth ohebwyr cyson sef Gwynfor Evans, R. Tudur Jones, Clem C. Linnenberg a Geoffrey Nuttall. Ceir nifer fawr o lythyrau oddi wrth y pedwar hyn hefyd o fewn cyfres PD1.

Colegau Coffa,

Papurau'n ymwneud â'r cyfnod y bu'n Athro a Phrifathro yng Ngholeg Coffa Aberhonddu, 1950-1959, ac yn Brifathro yng Ngholeg Coffa Abertawe, 1959-1981.

Results 1 to 20 of 567