- 7.
- series
- 1967-2007.
Papurau amrywiol, 1967-2007, yn cynnwys anerchiadau Zonia M. Bowen, 1967-1974; papurau'n ymwneud ag ymddiswyddiad Zonia M. Bowen o'r Mudiad, 1965-2007; a chrynodebau o hanes sefydlu'r Mudiad, 1975-2004.
Papurau amrywiol, 1967-2007, yn cynnwys anerchiadau Zonia M. Bowen, 1967-1974; papurau'n ymwneud ag ymddiswyddiad Zonia M. Bowen o'r Mudiad, 1965-2007; a chrynodebau o hanes sefydlu'r Mudiad, 1975-2004.
Llyfrau lloffion, wedi eu creu gan Zonia M. Bowen, yn cynnwys torion o'r wasg, 1967-2007, yn ymwneud â hanes Merched y Wawr o'r flwyddyn ei sefydlwyd yn 1967 hyd at ymddiswyddiad Zonia M. Bowen o'r Mudiad yn 1975. Hefyd, ceir rhai erthyglau yn sôn am ddathliadau penblwydd cangen y Parc yn 2007.
Cylchlythyrau Gŵyl Dewi a Calan Mai Merched y Wawr, 1968, gan gynnwys negeseuon gan y Llywydd ac adroddiadau yn sôn yn fras am ddigwyddiadau'r Mudiad ledled Cymru.
Papurau ariannol, 1967-1975, yn cynnwys mantolenni ariannol cenedlaethol, 1967-1974; a phapurau'n ymwneud â theithiau tramor y Mudiad, 1972-1975.
Papurau gweinyddol Merched y Wawr, 1965-1975, yn cynnwys papurau'n ymwneud â Sefydliad y Merched Y Parc a sefydlu Merched y Wawr, 1965-1967; cyfarwyddiadau ar sut i ddechrau cangen o'r Mudiad, 1967-1975; cofnodion y Cyngor Cenedlaethol, 1967-1975; cofnodion y Pwyllgor Gwaith, 1969-1975; copi o'r Cyfansoddiad, 1969; papurau'n ymwneud ag ethol swyddogion cenedlaethol, 1971-1973; a rhestri o ganghennau, 1975.
Gohebiaeth gyffredinol, 1967-1977, rhwng Zonia M. Bowen, fel Ysgrifennydd Cenedlaethol, 1967-1970, Llywydd Anrhydeddus, 1972-1975, a golygydd y Wawr, 1968-1975, a chorfforaethau, mudiadau ac unigolion amrywiol yn ymwneud â Merched y Wawr a'i sefydliad. Ceir rhestrau o gynnwys rhai o'r ffeiliau, a baratowyd gan Zonia M. Bowen, o fewn y ffeiliau perthnasol.
Llythyrau'n ymwneud â'r canghennau,
Llythyrau'n ymwneud â changhennau Merched y Wawr ledled Cymru, 1967-1975, gan gynnwys yn bennaf llythyrau at Zonia M. Bowen fel Ysgrifennydd Cenedlaethol, 1967-1970, Llywydd Anrhydeddus, 1972-1975, a golygydd y Wawr, 1968-1975, ynghylch sefydlu canghennau newydd a materion gweinyddol amrywiol; ynghyd â llythyrau gan y swyddogion cenedlaethol. Ceir llythyrau hefyd yn adrodd hanes y canghennau a'r gweithgareddau a drefnwyd ganddynt. Ceir rhestrau o gynnwys y ffeiliau, a grëwyd gan Zonia M. Bowen, o fewn y ffeiliau.
Part of Welsh Baseball Archive,
Llyfr cyfrifon yr Ysgol Sul, 1909-1927, a llyfr yr ysgrifennydd, 1941-[1943].
Llyfrau casgliad at y weinidogaeth, 1894-1999, a llyfr cyfrifon, 1931-1996.
Rhestr o enwau perchnogion y beddau,
Llyfrau casgliad y Weinidogaeth,
Llyfrau casgliad y Weinidogaeth: 1958-1964 a 1984-2002.
Cyfrolau o dderbyniadau a thaliadau,
Derbyniadau a thaliadau: 1933-1938; 1938-1965 a 1966-2002.
Cofnodion y Blaenoriaid: 1940-1951; 1948-1971 a 1965-1981.
Part of Papurau T. J. Morgan,
Llythyrau a drafftiau a anfonwyd at T. J. Morgan tra bu'n golygu'r Llenor, 1946-1955; nodyn gan Prys Morgan, 1987; llythyr at W. J. Gruffydd, 1936; cerddi gan R. Williams Parry, 1937, a phapurau yn ymwneud ag erthygl Prys Morgan arnynt, 1967, 1971-1972; drafft o 'Cymraeg Llafar Safonol', c. 1962; Copïau o Caneuon y Canor, heb ei ddyddio, a Yn Mlaen yw Arwyddair y Byd, 1893, gyda llythyr, 1962; papurau yn ymwneud â Richard Williams (Gwydderig), heb eu dyddio, a llythyr, 1975.
Part of Papurau T. J. Morgan,
Llythyrau a drafftiau a anfonwyd at W. J. Gruffydd tra bu'n golygu'r Llenor, 1925-1946.
Pregethau, areithiau a darlithiau
Part of Papurau T. J. Morgan,
Pregethau, darlithiau, ac areithiau gan Ben Davies, [19 gan., hwyr] - 1937. Mae'r rhain yn cynnwys anerchiadau a nodiadau ar Y Wladfa, Ann Griffiths a Watcyn Wyn, a darlithiau a draddodwyd yng Ngholeg Bala Bangor.
Part of Papurau T. J. Morgan,
Mae'r gyfres yn cynnwys llyfrau nodiadau o gerddi, emynau a nodiadau, 1862 - [1937], a nifer ohonynt yn cynnwys amgaeëdigion, un yn dyddio i 1964. Mae'r gyfres hefyd yn cynnwys amlen o gerddi yn cynnwys rhai cyfieithiadau o gerddi Robert Herrick, John Donne ac Andrew Marvell, heb eu dyddio, a saith pryddest eisteddfodol, [c. 1889] - [c. 1891].
Part of Papurau T. J. Morgan,
Mae'r gyfres yn cynnwys drafftiau llawysgrif a theipysgrif o'r ddrama 'Yr Hen Dŷ a'r Tŷ Newydd', drafft teipysgrif o'r ddrama 'Cartref y Gweithiwr', drafft llawysgrif o'r ddrama 'Tywyll a Golau' a phapurau rhydd o hanesion byrion, pob un heb eu dyddio.
Part of Papurau T. J. Morgan,
Mae'r gyfres yn cynnwys saith dyddiadur o fyfyrdodau ac emynau, 1900-1932.