Dangos 92 canlyniad

Disgrifiad archifol
is-fonds
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Y Llenor

Mae'r grŵp yn cynnwys llythyrau a drafftiau rhyddiaith a barddoniaeth a anfonwyd at W. J. Gruffydd a T. J. Morgan ar gyfer eu cyhoeddi yn Y Llenor, 1925-1955, cyfraniadau i'r ddau rifyn coffa ar T. Gwynn Jones, 1949, a W. J. Gruffydd, 1955. Mae'n cynnwys, hefyd, bapurau a llythyrau yn ymwneud ag erthygl Prys Morgan ar R. Williams Parry yn Y Genhinen 22, 1972, a chopïau o lawysgrif gan Richard D. Williams (Gwydderig), heb eu dyddio, a llythyr yn ymwneud â'r copïau, 1975.

Gruffydd, W. J. (William John), 1881-1954

Papurau Llewellyn Llewellyn

Mae'r grŵp yn cynnwys llythyrau, gan mwyaf at Llewellyn Llewellyn a'i wraig Priscilla, oddi wrth eu teulu, ac hefyd, oddi wrth ffrindiau a chydnabod, 1880-1926. Mae'r ohebiaeth, gan mwyaf, yn ymwneud â Llewellyn Llewellyn a'i deulu. Ceir hefyd rai dogfennau personol ac amrywiol, cardiau post a phrisiadau tir, 1892-1921.

Llewellyn, Llewellyn, 1843-1927

Papurau Ben Davies

Mae'r grŵp yn cynnwys dyddiaduron o fyfyrdodau ac emynau, 1900-1932; cerddi, pregethau, nodiadau darlithiau, areithiau, ac eitemau a gasglwyd gan Ben Davies 1862 - [1937]; casgliad o erthyglau a cherddi a gyhoeddwyd mewn cylchgronau, 1896-1931; papurau a nodiadau yn ymwneud â'r Wladfa, 1923 - [1937]; ychydig nodiadau ar Ddiwygiad 1904, pryddestau eisteddfodol, 1889-1891; a drafftiau o ddramâu, heb eu dyddio. Mae'r grŵp hefyd yn cynnwys dwy eitem nad ydynt yn ymwneud â Ben Davies, 1945, 1964.

Davies, Ben, 1864-1937

Rhodd 2000,

Gohebiaeth yn bennaf, 1926-1989. Mae nifer helaeth o'r llythyrau'n deillio o'i gyfnod yn olygydd y cylchgrawn Taliesin, 1965-1987. Ceir hefyd lythyrau, 1951-1952, a dderbyniodd tra'n Gymrawd Ymchwil yn Rhufain; papurau'n deillio o'i gyfnod yn ddisgybl yn Ysgol Tŷ Tan Domen, Y Bala, 1927-1934; copi o'i draethawd 'Golwg ar hanes ardal Llawrybetws neu Nantffreuer: o Bethel i lawr i Gaefaes', 1988-1990; a phapurau amrywiol, 1930-1989.

Pryniad 2005-2006,

Papurau personol, papurau proffesiynol a phapurau llenyddol D. Tecwyn Lloyd, ynghyd â rhai'n ymwneud â hanes lleol a phapurau pobl eraill, [1870]-1998, gan gynnwys nifer helaeth o lythyrau a phapurau'n ymwneud â'i weithiau llenyddol megis ei astudiaeth o Saunders Lewis. Ceir deunydd yn gysylltiedig â'i waith fel golygydd i'r cylchgrawn Taliesin ac fel tiwtor addysg i oedolion.

Rhodd 1975,

Llythyrau at Hughes a'i Fab, 1909-1949, cyfansoddiadau llenyddol Eisteddfod Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, 1942, a chyfansoddiadau eisteddfod Chwilog, 1946.

Papurau proffesiynol

Ceir yn y grŵp hwn bapurau'n ymwneud â bywyd proffesiynol yr Athro Stephen J. Williams fel ysgolhaig, gan gynnwys papurau'n ymwneud â'i fywyd cyhoeddus, ei waith golygyddol, ei ddiddordeb ieithyddol, ei waith llenyddol ei hun ac adolygiadau o weithiau eraill, yn ogystal â llythyrau gan nifer o ohebwyr ar amrywiol bynciau.

Papurau personol

Mae'r grŵp hwn yn cynnwys papurau personol yr Athro Stephen J. Williams, megis ei bapurau ysgol; papurau yn ymwneud â chapel Henrietta, Abertawe, a llyfrau cyfrifon eraill.

Cofnodion gweinyddol y capel,

Mae'r grŵp yn cynnwys llyfrau gweinyddol ynghyd â deunydd ariannol yr eglwys, 1854-2000, yn eu plith cofrestri eglwysig, cyfrifon, manylion am gyfraniadau aelodau ynghyd â chofnodion cyfarfodydd swyddogion yr Eglwys a phapurau yn ymwneud â chymdeithasau.

Rhodd 1983,

Teipysgrifau chwech o'i gyfrolau cyhoeddedig a ymddangosodd rhwng 1957 a 1979 gyda rhai ychwanegiadau a newidiadau llawysgrif.

Rhodd 2003,

Gohebiaeth, sgriptiau llwyfan, sgriptiau radio a theledu, cyfansoddiadau, beirniadaethau, darlithiau ac anerchiadau, a dyddiaduron, [1874], 1927-2003, ynghyd â phapurau personol a theuluol a phapurau'n ymwneud â'r Ysgol Gymraeg yn Aberystwyth.

Rhodd 1998,

Gohebiaeth, dyddiaduron, sgriptiau a phapurau amrywiol, 1900-1991.

Rhoddion 1996,

Papurau, 1907-1996, gan gynnwys gohebiaeth, sgriptiau, llawysgrifau gweithiau, beirniadaethau, darlithiau ac anerchiadadu, a phapurau'n ymwneud â'i chyfnod yn darlithio yng Ngholegau'r Barri a'r Drindod ac fel athrawes yn Ysgol Gymraeg Aberystwyrh.

Papurau a llawysgrifau Marion Eames,

Papurau a llawysgrifau Marion Eames, 1928-2007, yn cynnwys drafftiau o'i nofelau, [1964]-1981; gweithiau llenyddol eraill, 1933-[2007]; addasiadau o waith Marion Eames, 1981-[2007]; erthyglau, anerchiadau a darlithiau, [1970]-[2007]; llyfrau nodiadau a phapurau ymchwil, 1934-[2000]; deunydd printiedig, 1929-2007; gohebiaeth, 1967-2005; a phapurau personol, 1928-2002. = Papers and manuscripts of Marion Eames, 1928-2007, comprising drafts of her novels, [1964]-1981; various other literary works, 1933-[2007]; adaptations of her work, 1981-[2007]; articles, speeches and lectures, [1970]-[2007]; notebooks and research papers, 1934-[2000]; printed material, 1929-2007; correspondence, 1967-2005; and personal papers, 1928-2002.

Canlyniadau 1 i 20 o 92