- 809.
- File
- 1920, Gorff. 14.
Part of Papurau W. J. Gruffydd
Clywodd ei fod wedi cael y Gadair Ffrangeg [yng Nghaerdydd] ac y mae'n diolch i W. J. Gruffydd am y diddordeb a gymerodd ef yn ei achos. O'r saith a fu'n dewis, W. J. Gruffydd oedd yr unig un a iawn ddeallai gwerth ymchwiliadau Morgan Watkin. Mae'n diolch i W. J. Gruffydd hefyd am gywiro proflenni erthygl o'i eiddo. Trafodir beth sy'n debygol o ddigwydd yn Abertawe - sibrwd fod Ernest Hughes wedi cael cynnig y Gadair Hanes. Pwy gaiff y Gadair Ffrangeg a phwy y Gadair Gymraeg? Clywodd si mai Ifor Williams fydd olynydd Anwyl, os felly nid yw'n debyg y caiff Tim[othy] Lewis yn Abertawe yr hyn y methodd ei chipio yn Aberystwyth. Nid yw'n debyg, am resymau cyffelyb, y caiff Parry-Williams Gadair Abertawe. Nid oes neb â chystal mantais na 'Gwili' a Henry Lewis. Nid oes digon o brofiad gan Griffith [John] Williams. Cred y dylai 'Gwili' guro Henry Lewis. Daw Henry Lewis a Morgan Watkin o'r un pentref ac y mae 'Gwili' yn perthyn iddo drwy briodas. Hwn fydd cyfle olaf 'Gwili' i gael ei benodi.