Dangos 982 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau W. J. Gruffydd
Rhagolwg argraffu Gweld:

Thomas Jones, Aberystwyth,

Mae'n amgau sgwrs ar Elis Gruffydd a ddarlledwyd beth amser ynghynt i'w gynnwys yn Y Llenor. ['Elis Gruffydd, Y Milwr o Galais', Y Llenor cyfrol XVI (1937), tt. 183-9]. Mae'n gobeithio ysgrifennu'n llawnach ryw ddydd am Elis Gruffydd a'i gronicl.

Thomas Jones, Aberystwyth,

Mae'n anfon copi o The Diaries of Lady Charlotte Guest mewn pecyn ar wahân gan obeithio y caiff W. J. Gruffydd flas ar y gyfrol. Mae'n trafod y term 'pendefig' ac yn nodi enghreifftiau o lenyddiaeth yr Oesoedd Canol er mwyn ceisio dangos bod 'pendefig' yn deitl fel 'arglwydd' a 'thywysog'.

T[homas] J[acob] Thomas, 'Sarnicol', Aberystwyth,

Mae'n anfon ychydig 'Fân Ffolinebau' i'w printio neu eu llosgi. Gofyn iddo nodi y gorau ar gerdyn a'i ddychwelyd ato os mai dim ond rhai a ddefnyddir ganddo. Mae'n bwriadu edrych eto i mewn i'r gair 'Gurnos'. Mae'n nodi'r dywediadau 'topstan o wlân', 'mwys o sgadan', a 'stang o dir'. Ystyriai alw'r penillion yn 'Pupur a Smeica', ond o'r braidd bod y cynnwys yn ddigon poeth.

[Thomas Jacob Thomas] 'Sarnicol', Aber-fan,

Gofyn i W. J. Gruffydd a fyddai rhywbeth tebyg i'r ysgrif amgaeëidig ['Dan yr Allt'] yn dderbyniol i'r Llenor. A yw yn rhy lleol ei hapêl? Diolch am halen beirniadaeth W. J. Gruffydd sy'n rhoi tipyn o flas ar lên Cymru. Ai yng ngwaith ein beirdd ieuainc y mae holl rinwedd yr awen Gymreig heddiw? Beth am Elfed, Job, Crwys, 'Wil Ifan' ac eraill? Bu'n ceisio cymharu 'Eifion Wyn' â'r 'Shropshire Lad'. A yw'r bardd o Borthmadog ymhell iawn ar ôl Housman? Onid oes ambell i ddarn gwan a rhai nodau garw a dichwaeth gan Housman? Onid eco o oes farbaraidd y Rhufeiniaid sydd yn rhai o'i linellau?. 'Dan yr Allt'. Printiedig.

Thomas [I.] Ellis, Aberystwyth,

Mae'n bwriadu ysgrifennu eto at Hughes Parry. Mae'n disgwyl gair oddi wrth Clement Davies ynglyn â'r ddirprwyaeth. Mae'r counterblast bron yn barod ac fe ddaw erbyn diwedd yr wythnos. Yngl?n â'r penodiad yn Llanbedr, cafodd ar ddeall fod yr Esgob Prosser yn awyddus i sicrhau rhywun ar y staff a allai hyfforddi'r myfyrwyr ar gyfer cymryd gwasanaethau yn Gymraeg. Dyna paham y cyfyngwyd y gadair. Mae pedwar o'r athrawon urddedig presennol yn Gymry da, ac yn ôl y si, fe gynigir y gadair i'r Canon W. H. Harris. Nid oes gwir obaith i Lanbedr ond fel Coleg Diwinyddol. Gyda phenodiad Harris efallai y daw hynny i ben cyn hir er gwaethaf ymdrechion y Prifathro Archdall. Disgwylir R. T. J[enkins] i aros yna yr wythnos ganlynol.

Tho[ma]s H. Davies, Port Said,

Diolch i W. J. Gruffydd am y wledd a gafodd o ddarllen cofiant O. M. Edwards. Yr oedd nain Thomas H. Davies yn frodor o Lanuwchllyn. Yn amser ei nain defnyddid math cynnar o Welsh Not yn Ysgol y Llan, sef rhwng 1858 ac 1863. 'Y pryd hwnnw, nid am eu gyddfau y rhoesid y darn pren, ond yng nghegau'r plant. Nis gwn pa faint oedd hyd y darn pren, ond rhoesid ef yn nennol yn eu cegau am siarad Cymraeg'.

Thomas Artemus Jones, Llanrwst,

Amgau cyfraniad i'r Llenor gan ddweud ei fod yn darllen y cyfnodolyn yn gyson. [T. Artemus Jones, 'Deddf Harri VIII yng ngolau'r Gwreiddiol', Y Llenor, cyfrol XV (1936), tt. 232-7]. Cafodd sgwrs ag W. J. Gruffydd yng nghwmni Ellis Gruffudd yn smoke-room y National Liberal Club flynyddoedd yn ôl.

Thomas Artemus Jones, Llanrwst,

Anfon cyfraniad i'r Llenor. Rhannodd yr erthygl yn ddwy ran oherwydd ei hyd. ['Dienyddiad John Jones Maesygarnedd' Y Llenor, cyf . XVIII (1939), tt. 233-8].

Thomas Artemus Jones, Bangor,

Ysgrifenna yn dilyn sylwadau W. J. Gruffydd yn Y Llenor ynglyn â Chatholigion mewn swyddi allweddol. Cyfieithodd yr erthygl ac anfonodd gopi at yr Arglwydd Davies gan awgrymu y dylai dderbyn cyhoeddusrwydd ehangach. Mae'r erthygl wedi cynhyrfu tipyn ar y dyfroedd ymysg y bobl sy'n cyfrif yng Ngogledd Cymru. Awgrymodd y dylai'r Arglwydd Davies drefnu i gyhoeddi'r erthygl ar ffurf pamffledyn dwyieithog. Gofyn i W. J. Gruffydd os yw'n cefnogi'r syniad. Mae'n ofid i T. Artemus Jones weld Y Faner, o bob papur, yn cefnogi'r Action Française a chriw Vichy. Y mae teyrngarwch S[aunders] L[ewis] i Gatholiciaeth wedi ei ddallu i ddrygioni y rhai hyn.

Thomas Artemus Jones, Bangor,

Amgau llythyr oddi wrth D[avid] D[avies]. Nid yw'n ei chael hi'n hawdd derbyn mai cyfartaledd isel o staff y Swyddfa Dramor sy'n Gatholigion. Hwyrach mai Catholigion pybyr yn unig a gyfrifwyd.

The Cardigan & Tivy-side Advertiser, Aberteifi,

Mae'r papur wedi derbyn llythyr oddi wrth gyfreithwyr Selfridge, Llundain, yn dilyn adroddiad araith gan W. J. Gruffydd yn Aberteifi pan ddywedodd fod hysbyseb yn ffenestr y siop honno yn dweud 'no Welsh girls need apply'. Ymddengys bod yr haeriad yn anghywir a bod Y Ddraig Goch eisoes wedi ymddiheuro am ddweud yr un peth. Mae'r papur yn gresynu cael ei dynnu i'r fath helynt annymunol. Bydd yn dda gan y perchennog dderbyn sylwadau W. J. Gruffydd ar yr helynt.

T.H. Parry-williams, Aberystwyth,

Awgrymodd W. J. Gruffydd yr hoffai gael cyfraniad arall i'r Llenor. Mae'n amgau ysgrif fer. Os yw'n ddigon buan ar gyfer rhifyn Ebrill yna caiff ei chyhoeddi, os nad yw yna hoffai ei chael yn ôl gan ei fod wedi addo cyfraniad i'r Drysorfa. Mae'n addo ysgrifennu rhywbeth arall i'r Llenor. Hoffai dderbyn proflen.

T.G. James, Casnewydd,

Mae'n crybwyll swydd wag ac yn rhyfeddu sut y gall rhai pobl ymddwyn yn y fath fodd isel a chwerw. Gall Dr Wade sicrhau W. J. Gruffydd sut y bu i T. G. James [Cyfarwyddwr Addysg Mynwy] ymdrechu i lywio'r Cyngor. Rhaid bod Dr Hughes wedi esbonio wrth W. J. Gruffydd sut y digwyddodd pethau. Nid oedd wedi dychmygu y gallai llai na thri ymddangos gerbron.

Canlyniadau 121 i 140 o 982