Showing 982 results

Archival description
Papurau W. J. Gruffydd
Print preview View:

D. Llewelyn Williams, Hen Golwyn,

Ysgrifennu i ddweud iddo fwynhau gwrando ar sgwrs W. J. Gruffydd, 'Beth a ddaeth o Lanfaches?' ar y radio y prynhawn cynt. Trafodwyd y pwnc mewn modd gonest ac amhleidiol. Canlyniad ei sgwrs fydd dwyn y pedwar enwad yn nes at ei gilydd. Gellir uno am fod yr enwadau yn cychwyn o'r un man. Mae'r clawdd terfyn rhwng yr enwadau wedi diflannu. Mae'n pwyso ar W. J. Gruffydd i gymryd ei le fel arweinydd yng Nghymru. Nid yw arweinwyr y Blaid Genedlaethol yn apelio at Ymneilltuwyr.

D. J. [Williams], Abergwaun,

Ysgrifenna yn dilyn adroddiad yn y Western Mail am araith W. J. Gruffydd yn y Senedd y diwrnod blaenorol ar y Bil Addysg newydd. Rhagorol iawn. Yn ail, ysgrif ddiweddaraf Saunders Lewis yng 'Nghwrs y Byd' (19/1/44). Mae'r ddwy erthygl yn waith gweledydd a gwladweinydd mawr sydd â thynged Cymru yn pwyso'n drwm ar ei enaid. Mae'r sbonc o egni newydd a welwyd yn ddiweddar gan y Blaid Seneddol Gymreig yn fwy dyledus i sbardun cyson W. J. Gruffydd nag i ddim arall. A oes modd i'r seneddwyr Cymreig roi ystyriaeth ddifrifol i argymhellion gwerthfawr Y Faner? Dim ond ar berygl einioes y genedl y gellir anwybyddu'r fath faterion. Un o'r pethau tristaf oll i lawer yw nad yw Saunders Lewis a W. J. Gruffydd yn yr un gwersyll. Diolch iddo am ei eiriau hael i Storïau'r Tir Coch yn Y Llenor.

D. J. [Williams], Abergwaun,

Diolch am ateb i'w lythyr. Yr oedd yn anghytuno'n llwyr â phopeth bron a ddywedodd ynddo. Mae'n dyfynnu darn o lythyr ato gan wr amlwg: 'Yr wyf innau'n gobeithio na hud-ddenir mo W. J. Gruffydd i sefyll yr etholiad. Diau y byddai ganddo gyfle gwych i fynd i mewn, ond trwy bleidlais y gwrth-Gymry a phobl ddiddrwg ddidda yr âi'. Dyna hefyd farn D. J. Williams ar y sefyllfa a phawb arall y bu'n siarad â hwy. Gellid eu galw y 'Royal Welsh Standbacks'. Byddai pawb a fu o'i blaid ar hyd ei oes yn ei erbyn, petai hynny o ryw bwys iddo. Un o bethau godidocaf W. J. Gruffydd oedd ei araith yn lle Lloyd George yn Eisteddfod Caerdydd yn 1938. Sut y gall fod yn gyson â'r hyn a ddywedodd yno. Y mae'r llythyr y dyfynnodd W. J. Gruffydd ohono yn gelwyddog wrth gyhuddo'r Blaid Genedlaethol o ladd y Gymraeg ar aelwydydd Arfon. Os yw'n credu'r fath lythyrau nid oes ryfedd ei fod yn ymgeisio yn erbyn Saunders Lewis a'r Blaid. Nid yw'n bwriadu ateb yr haeriadau eraill a wna yn erbyn y Blaid. Dangoswyd i W. J. Gruffydd fod ganddo gyfle gwych i ddinistrio'r Blaid. Y ffordd hawsaf at y gwaith yw codi'r rhagfarn wrth-Gatholig. Dywed W. J. Gruffydd mai ei gydwybod sy'n peri iddo ddod allan yn erbyn y Blaid. Rhaid angori'r gydwybod wrth egwyddor sylfaenol. Rhaid fod cydwybod W. J. Gruffydd wedi cael mwy nag un droedigaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae'n debyg y bydd iddo ennill yr etholiad ond fe wneir hynny ar gôst ddifrifol i Gymru ac ar gôst uchel i enw da a choffa W. J. Gruffydd. Syniad uchel a hoffter D. J. Williams o W. J. Gruffydd sy'n rhoi'r hawl iddo ysgrifennu fel hyn ato. Ni all fyth anghofio caredigrwydd W. J. Gruffydd i'w wraig, Siân, tra fu 'ymhell o dre'.

[W. J.GRUFFYDD, Penarth, at D. J. Williams, Abergwaun],

Mae'n ymddiheuro am anfon llythyr Saesneg, nid yw ei ysgrifenyddes yn deall Cymraeg. Nid yw'n gallu deall safbwynt D. J. Williams yngl?n â'r rhyfel. Rhaid iddo dderbyn mai dyna yw ei safbwynt fel y wraig a fethai gredu bod y fath anifail i gael â jiraff. Bwriedir ei sylwadau yn Y Llenor ar gyfer rhai â dipyn llai o grebwyll na D. J. Williams. Yr unig beth sydd yn ei boeni ar hyn o bryd yw sut i achub Cymru, gweddill Prydain, a gweddill y byd oddi wrth bwerau y credid iddynt gael eu concro ddwy fil o flynyddoedd ynghynt. Mae ei holl fryd ar ffoi oddi wrth y sefyllfa, ond ni fydd hynny ond osgoi cyflafan fawr. Cofio at Mr D. J. Williams. Hoffai ymweld â hwy yn fuan i fod ymhlith pobl a all fod yn ddifrifol ac yn llawen. Copi teipysgrif.

D. J. [Williams], Abergwaun,

Dymuno'n dda i W. J. Gruffydd yn y gynhadledd bwysig iawn yn Amwythig y dydd Gwener canlynol. Hoffai D. J. Williams fod yno ond nid yw hynny i fod. 'Y mae'r Quislingiaid yng Nghymru yn ddigon i dorri calon y diawl ei hunan ambell dro, yn enwedig y rhyw Galfinaidd ohonynt'. Mae'n anghytuno'n llwyr â W. J. Gruffydd ar fater y rhyfel gan gredu mai ef, D. J. Williams sy'n iawn, wrth gwrs. Nid yw ei edmygedd o ddewrder a didwylledd W. J. Gruffydd fymryn yn llai. Bydd y cyfarfod ddydd Gwener yn un o'r rhai mwyaf tyngedfennol yn hanes Cymru. Os gellir llwyddo i sicrhau ymddiriedaeth Cymru yn y gynhadledd er gwaethaf pob dallineb a llyfrdra, yna fe fydd gobaith i Gymru.

D. J. [Williams], Abergwaun,

Mae'n falch fod cerdd George [M. LL.] Davies i ymddangos yn Y Llenor. Diolch i W. J. Gruffydd hefyd am ei lythyr caredig yn esbonio ei safbwynt yn fanylach. Mae'n ceisio cymod er mwyn osgoi dadl agored rhwng W. J. Gruffydd a Saunders [Lewis]. Byddai anghytundeb cyhoeddus yn drasiedi, er yn wledd wrth fodd calon gwyr Philistia. Anghytuno am ddamcaniaethau crefydd a gwleidyddiaeth y maent. Nid dadlau dros Gatholigiaeth y mae D. J. Williams ond ceisio rhoi ei lle i athrylith anghyffredin o rymus sy'n ceisio achub einioes y genedl. Nid oes gan D. J. Williams ragfarn gref yn erbyn Pabyddiaeth. Ni all y grefydd a gadwodd wareiddiad Ewrop yn fyw am bymtheg canrif fod yn ddrwg i gyd. Cred ei fod yn deall tipyn ar W. J. Gruffydd ac ar Saunders Lewis. Onid oes modd iddynt gyfarfod i anghytuno'n breifat er mwyn medru cytuno i gyd-arwain Cymru yn yr argyfwng presennol. Ni fedrai Saunders Lewis fyw hanner awr yn y Gymru sy'n annwyl iddo ef ac W. J. Gruffydd. Mewn theori y mae Saunders Lewis yn werinwr, nid mewn calon ac ysbryd. Yn hynny o beth y mae'n debyg iawn i Parnell. Nid yw'n credu fod W. J. Gruffydd yn gywir wrth honni bod Saunders Lewis yn ddilynwr yr Action Française. Mae'n ei atgoffa o adolygiad Saunders Lewis ar ddyddlyfr pythefnos [W. Ambrose] Bebb, lle dywedodd ei fod yn synnu fod Cymro fel Bebb yn gallu llyncu'r Action Française yn gwbl ddihalen. Mae gwraig D. J. Williams yn cytuno â W. J. Gruffydd yngl?n â Chatholigiaeth. Mae D. J. Williams yn mentro anghytuno ag W. J. Gruffydd yngl?n ag ysgrifau 'Cwrs y Byd'. Cred mai hwy yw 'y pethau gorau a chywiraf o ddim a gyhoeddir ym Mhrydain'. Hoffai petai W. J. Gruffydd a Saunders Lewis yn setlo'u hanawsterau yng nghegin gefn y Red Lion yn hytrach nag ar y sgwâr o'i flaen.

D. J. [Williams], Abergwaun,

Mae'n amgau cân oddi wrth George M. Ll. Davies, cân sy'n gwbl nodweddiadol ohono. ['Heddwch', Y Llenor, cyf. XIX (1940), tt. 172-3]. Mae'n methu â chytuno â rhai o sylwadau diweddar W. J. Gruffydd yngl?n â'r rhyfel. Mae hefyd yn methu cytuno â Saunders [Lewis] weithiau er cymaint ei edmygedd ohono. Dim ond gwahaniaeth graddau sydd yna rhwng totalitariaeth Hitler a thotalitariaeth Seisnig. Os oes rhaid i D. J. Williams ufuddhau i Churchill a'i debyg, yna y mae popeth y credodd ynddo erioed ac y ceisiodd fod yn ffyddlon iddo wedi bod yn gyfeiliornus. Mae'n eironig fod W. J. Gruffydd yn gofyn gan Gymru gyflwyno ei holl ynni i gynorthwyo Prydain i gyflawni ei gwyrth. Mae gwraig D. J. Williams wedi ailgopïo cerdd George M. Ll. Davies gan fod yr ysgrifen yn anodd a'r papur yn wael yn y gwreiddiol.

D. J. [Williams], Abergwaun,

Dymuno blwyddyn newydd dda iddo, yn enwedig gyda'r Llenor. Amgau stori fer. ['Y Cwpwrdd Tridarn', Y Llenor, cyf. XVIII (1939), tt. 9-18]. Bu ar ei lasog tra yn y carchar ond nad oedd cyfle yno iddo ei chofnodi. Os nad yw hi'n dderbyniol mae'n gofyn am ei chael yn ôl gan nad oes ganddo gopi arall ohoni. Mae'n gofyn hefyd am i W. J. Gruffydd ddychwelyd hanes y cwrcyn a gafodd ddwy flynedd ynghynt. Fe gaiff hwnnw ymddangos mewn casgliad o storïau yng nghyflawnder yr amser. 'Dyn bach fel Methusalah wyf i, a wnâi lawer o waith mewn llawer o amser'.

Sian Williams, [gwraig D.J. Williams], Y Borth,

Diolch iddo am ei hateb ac am gydsynio â'i chais. Fe'i chamarweiniwyd yngl?n â'r mater neu ni fuasai wedi ysgrifennu ato. Diolch iddo am eiriol dros D. J. yn y Bwrdd Addysg. Mae'r llywodraethwyr yn debyg o roi dyfarniad cyn i'r Bwrdd Addysg ymateb. Cywilydd o beth fod lle Saunders Lewis wedi ei lanw mor ddiseremoni. Mae'n teimlo'n flin iawn dros ei wraig, y siom ofnadwy o weld Cymry yn ei drin fel hyn. Cafodd ei anfon i ysbyty'r carchar, 'wedi rhedeg lawr dipyn'. Cafodd yr hanes gan A. Gray Jones, ysgrifennydd yr A.M.A. a oedd wedi bod yn ymweld â D. J. Williams. Mae [Lewis] Valentine a D. J. Williams yn iach ac mor gysurus ag sydd bosibl.

Sian Williams, [gwraig D. J. Williams], Y Borth,

Mae'n gofyn i W. J. Gruffydd tybed a oes modd iddo gael ail gynnig i feirniadu yn Eisteddfod Machynlleth. Tybed a fyddai'n fodlon gweithredu er mwyn y Blaid? Mae'n byw yn awyrgylch yr Eisteddfod ac y mae'n ddolur calon ganddi glywed pa mor chwerw y mae pobl yn erbyn y Blaid, yn dweud mai unig amcan y Blaid yw lladd yr Eisteddfod. Hoffai petai'n ystyried ei chais a cheisio dylanwadu ar y lleill i wneud yr un peth. Mae'r wlad yn colli golwg ar y brotest yn erbyn yr Ysgol Fomio yn Llyn ac yn erbyn dewis yr Arglwydd Londonderry - amddiffynnydd y bomio, yn llywydd un o gyfarfodydd yr Eisteddfod. Rhaid cyfaddef ei fod wedi tynnu'n ôl yn foneddigaidd er lles yr Eisteddfod. Dyna gyfle'r Blaid i wneud popeth i sicrhau llwyddiant yr Eisteddfod yn awr. 'Eiddigedd santaidd' dros y Blaid sy'n peri iddi ysgrifennu fel hyn.

Sian Williams, [gwraig D. J Williams], Brongest,

Bu D. J. a hithau yn trafod y stori 'Yr Eunuch' ychydig cyn ei ddedfrydu. Ofnent fod enllib yn y cyfeiriad at 'y Ffarier' a'r sôn amdano'n 'codi ei fys bach' ac 'afradlonedd ei fywyd cynnar fel efrydydd meddygol'. Mae gwraidd y stori yn wybyddus yn yr ardal - gwyr pawb pwy yw'r ffarier. A fyddai'n well gohirio cyhoeddi'r stori hyd nes y daw D. J. allan [o'r carchar]? Dyna yw ei dymuniad hi beth bynnag. Gobeithia na fydd hyn yr golygu llawer o drafferth iddo. Diolch am lythyr cryf W. J. Gruffydd i'r papurau. Ofna y gellir camddeall un frawddeg ynddo. Mae ganddynt lawer o ffrindiau o Saeson sy'n cydymdeimlo â hwy yn yr helynt presennol.

D. J. [Williams], Abergwaun,

Diolch am lythyr W. J. Gruffydd fe'i cafodd ef yn nhy Wil Ifan ym Mhen-y-bont [ar Ogwr]. Mae'n gweld yr anhawster o ysgrifennu llythyr i'r Wasg ar ran Saunders [Lewis] ac yntau. Byddai absenoldeb enwau gwyr amlwg yn adrannau Cymraeg y Brifysgol yn tynnu cryn dipyn oddi wrth rym y neges. Synnodd weld enw Dr Parry-Williams ymhlith y gwyr gochelgar - nid cachgi mohono ef. Mae mor gadarn â neb yng Nghymru dros yr hyn y cred ynddo. Y mae hefyd yn aelod o'r Blaid. Clywodd Cassie Davies yn dweud ei fod yn gwbl gefnogol i losgi'r Ysgol Fomio. Ond ni chafodd D. J. Williams air ganddo ar y mater er hynny. Bu'n gyfaill gwerthfawr bob amser. Mae Mr Tim Lewis o'u plaid hefyd er na chafodd air ganddo yntau. Yn yr Old Bailey y dydd o'r blaen yr oedd y cyfan wedi ei drefnu gan y tri barnwr ymlaen llaw. Gwnaeth Norman Birkett araith wych drostynt yn erbyn symud lle'r prawf. Ond hynny a benderfynwyd. Bwriad D. J. Williams yw peidio â dadlau ei achos a thrwy hynny wrthod cydnabod hawl rheithwyr estron i eistedd mewn barn arno. Am y cwrcyn y mae croeso i W. J. Gruffydd gadw'r stori ar gyfer rhifyn y Pasg o'r Llenor, os na fydd ei sawr yn rhy gryf!.

D. J. [Williams], Abergwaun,

Mae'n cynnig stori fer i'r Llenor, mae tua 4,500 o eiriau. Caiff ei dychwelyd os yw hi'n rhy hir neu yn annerbyniol am ryw reswm arall. Fe'i hysgrifennodd yn ystod yr wythnosau diwethaf. Gallai fod wedi treulio'r amser wrth amgenach gwaith na 'sbaddu cwrcyn'. Mae Gwasg Aberystwyth yn cyhoeddi nifer o'i storïau ddiwedd y flwyddyn dan y teitl Storïau'r Tir Glas. Mae'n bwriadu ysgrifennu cyfres arall o dan y teitl Storïau'r Tir Coch - storïau coch o'r tir. Heblaw stori'r cwrcyn y mae wedi llunio un arall am hen lanc yn dod yn arwr i'w frodyr drwy ddod yn dad i blentyn gordderch. Mae'r Athro John Hughes, Montreal, wedi addo £5 at Gronfa Gwyl Ddewi'r Blaid os cyhoeddir 'Yr eunuch' mewn unrhyw gylchgrawn Cymraeg.

D. J. [Williams], Abergwaun,

Y noson cynt fe wrthodwyd ei gais i ddychwelyd fel athro gan y llywodraethwyr am yr ail dro. Dywedid y telid ei gyflog hyd y Frawdlys yng Nghaernarfon. Cydsyniodd y Pwyllgor Addysg ond gwrthodwyd hynny gan y Bwrdd Addysg hyd oni cheir dedfryd y Brawdlys. Dilynwyd hyn gan y Pwyllgor Addysg a dilynodd y llywodraethwyr yn yr un modd. Mae ei gydathrawon wedi bod yn gefnogol iawn. Mae ei hen ddisgyblion wedi anfon deiseb gref at y llywodraethwyr ar ei ran. Yr oedd y ddau weinidog ymneilltuol, y Parch. H. T. Jacob a'r Parch. Owen Young yn absennol o'r cyfarfod. Torraeth wrth-Gymreig oedd yn gyrru'r offeiriad a'r cyfreithiwr ('Ab Domen') ymlaen. Tybed a ellid gwneud rhywbeth i symud y rhwystr o du'r Bwrdd Addysg? Fel arall, tybed a wyr W. J. Gruffydd am swydd wag yng Nghaerdydd neu Forgannwg. Clywodd fod Gwasg y Brifysgol yn chwilio am drafaeliwr i werthu llyfrau. Nid oes ganddynt lawer o arian wrth gefn. Nid ydynt am bwyso ar berthnasau er bod ganddynt rai gweddol gefnog. Mae ei wraig yn athrawes drwyddedig, hwyrach y medrai hi gael gwaith. Hyd yn oed os ceir dedfryd ranedig eto fe fydd gwrthwynebwyr yn sicr o geisio profi ei fod yn anghymwys i ddysgu plant.

D. J. Williams, Abergwaun,

Diolch am lythyr gwerthfawr W. J. Gruffydd o gefnogaeth [yn dilyn llosgi'r Ysgol Fomio]. Mae brenin Lloegr, am y tro cyntaf ers canrifoedd, wedi cael trwyn coch gan Gymru, y barchusaf, y boneddigeiddiaf, a'r llyfraf o'r cenhedloedd. Dywedodd W. J. Gruffydd beth gwir iawn am Saunders Lewis yn y Western Mail, sef ei fod ef yn tragic figure. Dyma'r unig ddyn sydd â gweledigaeth gwleidydd mawr ganddo yng Nghymru heddiw. Mae rhagfarn gibddall, ddiystyr Ymneilltuaeth Cymru yn erbyn Pabyddiaeth yn golygu bod Cymru yn gwrthod derbyn arweiniad Saunders Lewis. Byddai'n edrych ymlaen at garchar y Sais gyda gorfoledd pe gwyddai y byddai'r brotest yn gorfodi Cymru i ddechrau teimlo drosti ei hunan. Mae ei wraig yn ddewr iawn yn wyneb y dyfodol. Bu llythyr W. J. Gruffydd yn wir ysbrydiaeth iddynt eu dau. Y mae Mr Watcyn Evans, Ysgrifennydd Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun a Chastell Nedd yn cynnig am swydd Ysgrifennydd Eisteddfod Caerdydd ac y mae W. J. Gruffydd ar y Pwyllgor Dewis. Y mae yn ysgrifennydd tan gamp. Bu Eisteddfod Abergwaun yn llwyddiant gwirioneddol. Mae'n meddu doniau'r gwir drefnydd.

D. J. Williams, Abergwaun,

Gofynnodd ysgrifennydd Cymrodorion Abergwaun iddo wahodd W. J. Gruffydd i roi darlith iddynt yn ystod y gaeaf dilynol. Bydd Eisteddfod Abergwaun wedi mynd heibio erbyn hynny a hoffent fanteisio ar olion y llanw cenedlaethol a adewir ar ei hôl. Mae wedi gwerthfawrogi sylwadau W. J. Gruffydd ar fywyd Cymru bob amser. Mae rhyw ddawn wyrthiol gan W. J. Gruffydd i dreiddio i mewn at graidd cydwybod y genedl. Awgrymir dyddiadau pwrpasol ar gyfer y ddarlith.

Alun [Llywelyn-williams], Llundain W.C.1,

Mae'n gyrru ysgrif i'r Llenor ar iaith lafar y radio. ['Y Gymraeg ar y Radio', Y Llenor, cyf. XIX (1940), tt. 143-54]. Ei syniadau personol ef sydd ynddi nid datganiad swyddogol o bolisi'r BBC. Addasiad o femorandwm ydyw, mewn gwirionedd, a anfonwyd ganddo at Mr Hopkin Morris. Derbyniodd ganiatâd Mr Morris i anfon yr ysgrif at W. J. Gruffydd. Mae'n bosibl y bydd yn cynnig rhyw fath o arweiniad i'r pwnc. Mi fydd yn profi, beth bynnag, fod rhai o aelodau staff y BBC yn dymuno'n dda i'r heniaith ac yn awyddus i wneud eu gorau drosti. Mae De Cymru yn ei chael hi'n ddrwg gan gyrchoedd awyr yr Almaenwyr. Mae'n anodd derbyn bod pobl yn cael eu lladd yng Nghaerdydd ac Abertawe a mannau eraill yng Nghymru. Gobeithio y caiff y Gogledd lonydd.

Alun [Llywelyn-williams], Llundain W.1,

Mae'n amgau darn o farddoniaeth ar gyfer Y Llenor. ['Yma'n y Meysydd Tawel', Y Llenor, cyf. XIX (1940), t. 69]. Mae arno ofn fod ei awen wedi rhydu. Dyma'r gerdd gyntaf iddo ef lwyddo i'w hysgrifennu ers oes mul. Efallai y daw rhyw ddaioni o'r rhyfel os gall ei brofocio i ddychwelyd at yr hen lwybrau.

Alun [Llywelyn-williams], Caerdydd,

Mae am drefnu 'Rhifyn Rhyddid' i'r Tir Newydd ym mis Tachwedd. Y syniad yw cael gwahanol ysgrifenwyr i fwrw golwg yn eu priod faes ar yr ymosod ar ryddid sydd eisoes ar gerdded drwy'r wlad. Gan fod pethau'n debyg o waethygu, yn enwedig os daw rhyfel, dylid ceisio rhyw foddion o wrthwynebu'r tueddiadau hyn yng Nghymru. Mae'r perygl yn waeth i Gymru am fod yr holl baratoadau ar gyfer rhyfel yn gwbl groes i'r hen draddodiadau ymneilltuol a radicalaidd ac yn bygwth dinistrio'r genedl yn derfynol. W. J. Gruffydd yw'r unig Gymro addas i drafod dylanwad hyn oll ar y celfyddydau cain. Pwysodd Mr Hopkin Morris arno i wahodd W.J. Gruffydd i ymgymryd â'r dasg. Awgrym y Parch. Gwilym Davies yw'r rhifyn ac y mae'n amgau llythyr ganddo sy'n egluro'r amcan ymhellach. Mae angen ysgrif o ryw ddwy fil o eiriau.

Results 121 to 140 of 982