Dangos 567 canlyniad

Disgrifiad archifol
cyfres
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Llyfrau casgliadau

Ymhlith y llyfrau ceir llyfr cyfrifon a llyfr casgliadau'n ymwneud â chodi'r addoldy cyntaf, 1841-1886; llyfrau casgliadau a thaliadau misol, 1849-1886; llyfr casglu'r Eglwys newydd, 1866-1867; a llyfrau cyfraniadau at yr adeiladau, 1977-1982.

Llythyrau

Llythyrau, 1903-1982, a anfonwyd at Iorwerth Peate. Maent yn cynnwys llythyrau personol, rhai yn ymwneud â'i fywyd proffesiynol a diwylliant gwerin, llenyddiaeth, a'i ddiddordebau eraill, megis yr iaith Gymraeg. Yn eu plith ceir ambell lythyr, neu ddrafft o lythyr, gan Iorwerth Peate.

Darlithoedd

Mae'r gyfres yn cynnwys dwy yn unig o'i ddarlithoedd Saesneg ar hanes Cymru tra ar staff y Coleg Normal.

Traddodiad llenyddol Morgannwg

Cyhoeddiadau a phapurau ymchwil G. J. Williams ar draddodiad llenyddol Morgannwg, gan gynnwys drafft llawysgrif o'r gyfrol Traddodiad Llenyddol Morgannwg (1948); ei draethawd buddugol ar feirdd Morgannwg yn Eisteddfod Genedlaethol Castell Nedd, 1918; darlithoedd ac erthyglau, [1911x1963]; a nodiadau amrywiol, [1911x1963].

Erthyglau ac ysgrifau gan eraill

Mae'r gyfres yn cynnwys drafftiau o erthyglau ac ysgrifau, [1965 x 1999], a gynigiwyd gan eraill i'r Athro J. E. Caerwyn Williams yn rhinwedd ei swydd yn olygydd Y Traethodydd, Ysgrifau Beirniadol, Studia Celtica, &c.; ynghyd ag erthyglau ac ysgrifau amrywiol gan eraill.

Llyfrau'r eisteddleoedd

Mae'r llyfrau'n cynnwys cyfrifon yr eisteddleoedd sy'n cofnodi enwau'r cymerwyr, y rhent a'r taliadau, 1852-1975. Ymhlith y cyfrolau ceir un sy'n cynnwys cofnodion Pwyllgor yr Eisteddleoedd, 1907-1917. Ceir llyfrau hefyd sy'n crynhoi'r taliadau, 1928-1971, a chynllun, 1907, o'r eisteddleoedd.

Papurau llenyddol

Llythyrau ac adolygiadau yn bennaf, ynghyd â theipysgrifau, llawysgrifau, a phapurau perthnasol, 1911-1983, yn ymwneud â gweithiau llenyddol Iorwerth Peate. Yn ogystal, mae'r gyfres yn cynnwys anerchiadau, darlithoedd a sgyrsiau radio ganddo, [1930]-1970 (gyda bylchau).

Y Bwrdd Gwybodau Celtaidd

Mae'r gyfres yn cynnwys deunydd amrywiol, [1950 x 1999], yn ymwneud yn bennaf â chyhoeddi Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 1971-1972, dan olygyddiaeth yr Athro Thomas Jones.

University of Wales. Board of Celtic Studies.

Papurau proffesiynol

Papurau, 1928-1976, yn ymwneud â gyrfa Iorwerth Peate yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Werin Cymru. Yn eu plith ceir papurau, 1948, ynglŷn â sefydlu'r Amgueddfa Werin; ceisiadau ar gyfer swydd Curadur i'w olynu, 1970; a gohebiaeth, 1942, yn ymwneud â'r gwahoddiad i Iorwerth Peate roi anerchiad yn ystod agoriad Arddangosfa Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi.

National Museum of Wales

Canlyniadau 181 i 200 o 567