Print preview Close

Showing 1284 results

Archival description
File Welsh
Advanced search options
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

Darlithiau ac anerchiadau

Darlithiau ac anerchiadau, gan gynnwys ‘Eifion Wyn’, Tachwedd 1926, ‘Llenyddiaeth a bywyd yng Nghymru’, Gŵyl Ddewi, 1928, a ‘John Roberts, Llanbrynmair (1767-1834)’, 1934.

Y Cymro

Papurau, 1930-1934, gan gynnwys gohebiaeth rhwng Rowland Thomas, perchennog Hughes a'i Fab, a John Eilian.

Llyfr lloffion Angharad Williams

Llyfr lloffion o eiddo Angharad Williams (née Jones) yn adlewyrchu ei diddordeb mewn gwleidyddiaeth, llenyddiaeth a hanes cyfoes trwy gyfrwng barddoniaeth, portreadau o unigolion nodedig (gan gynnwys Syr Henry Jones, ewythr Angharad), a thorion papur newydd, yn eu plith eitemau'n olrhain hanes digwyddiadau'r Rhyfel Byd Cyntaf; ynghyd â ryseitiau coginiol a meddyginiaethol a manylion cyfrif Angharad gyda John Morris, siopwr yn Llandysilio.

'Canu Cynnar Waldo'

Llyfr nodiadau yn dwyn yr arysgrif 'Cerddi Cynnar Waldo' a dau nodyn arall (un dyddiedig 10 Mai 1979) yn llaw Dilys Williams, chwaer Waldo, y gyfrol yn cynnwys copïau teg a drafft o Hiraeth (cyfres o dair soned), Yr Hen Le, Efe, Ei Hiraeth Ef ac Er Ei Fwyn (pedair cerdd ar yr un mesur sy'n rhan o un cyfanwaith) a Y Duw Unig (oedd ar un adeg yn rhan o bryddest neu gerdd hir o'r enw Unigrwydd (ceir y teitl hwn ar dudalen ar ei ben ei hun o fewn y gyfrol)) pob un o'r cerddi gan ac yn llaw Waldo Williams.

Derbynneb

Derbynneb dyddiedig 15 Mawrth 1935 wedi'i chyfeirio at Waldo Williams gan Gyngor Dosbarth Gwledig Arberth.

Tri chryfion byd

Tri chryfion byd gan Twm o'r Nant (wedi ei gwtogi ar gyfer cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Dinbych yn 1939) yn cynnwys llythyr oddi wrth Kate Roberts a nodiadau ar Twm o’r Nant.

Cyrraedd yn Ôl

Toriad o rifyn 16 Ebrill 1941 o'r Faner, sy'n cynnwys cerdd gan Waldo Williams yn dwyn y teitl Cyrraedd yn Ôl (dan bennawd 'Led-Led Cymru'). Tros y ddalen (dan bennawd Y Golofn Farddol), ceir brawddeg o ganmoliaeth i'r gerdd.

'Aelwyd y teulu'

Cyflwynwyd y gyfrol er cof am ei rieni ac yn anrheg 'I Tydfor fy nai ar ei seithfed penblwydd, Medi 2 1941, Wncwl John'. Mae'n cynnwys 'Englynion bore'; 'Englynion yr alltud' i'w frodyr a'i chwiorydd a 'Tydfor, fy nai'; 'Yn yr iaith fain' ac 'Englynion eraill', ynghyd â chyfieithiad i'r Saesneg o 'Hen wlad fy nhadau'.

Llythyr oddi wrth Waldo Williams at Dilys Williams

Llungopi o lythyr, [1942], oddi wrth Waldo Williams at ei chwaer Dilys Williams. Crybwyllir yn y llythyr fod Waldo newydd gwblhau ei ddatganiad o wrthwynebiaeth cydwybodol i'r rhyfel ar gyfer ei achos yn y tribiwnlys ar 12 Chwefror 1942, a sonnir hefyd am bryderon Waldo ar ran ei wraig Linda (née Llewellyn), oedd yn poeni y byddai Waldo'n colli ei swydd (fel prifathro Ysgol Casmael, Sir Benfro) o ganlyniad i'w ddaliadau heddychol.

Linda

Copi o gywydd byr gan Waldo Williams er cof am ei wraig Linda (ganed Llewellyn). Ychydig wythnosau wedi ei marwolaeth anhymig ar y cyntaf o Fehefin 1943, anfonodd Waldo gopïau o'r gerdd wedi'i hargraffu ar gerdyn fechan at deulu a chyfeillion.

Torion

Cyfrol yn cynnwys torion o’r wasg, 1932-1943, gan gynnwys rhai am ‘Pryddest Dafydd Huws’, pryddest ddigrif a anfonwyd i Eisteddfod Genedlaethol Aberafan 1932 ac a gyhoeddwyd yn Y Ford Gron.

Dramâu radio

Sgriptiau gan gynnwys ‘Yr argae’ (cystadleuaeth drama radio y BBC), 'Y fflam' a ‘Ffarwel haf’.

[Llyfr nodiadau Linda a Waldo]

Llyfr nodiadau yn rhannol yn llaw Linda (née Llewellyn), gwraig Waldo Williams, yn cynnwys mesuriadau a phrisiau carpedi a llenni ar gyfer y cartref (gan nodi fod angen llenni 'black-out' i ambell ffenest) a rhestr siopa ('What Linda wants'); ynghyd â nodiadau bras yn llaw Waldo Williams yng nghefn y gyfrol. Nodir yr enwau 'Waldo' a 'Linda' ar glawr y gyfrol.

Pamffledi sosialaidd

Pamffledi a llyfrynnau ym meddiant John Edwal Williams yn ymwneud yn bennaf â sosialaeth a Theosoffiaeth, gan gynnwys deunydd a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas Ffabiaidd gan yr athronydd a'r llenor Thomas Carlyle a'r dramodydd, adolygydd a'r dadleuydd George Bernard Shaw ac eraill; yn ogystal â deunydd sy'n dyddio o'r 1940au, wedi marwolaeth John Edwal Williams. Arysgrifir llofnod John Edwal ar ambell ddalen. Cyhoeddwyd y deunydd ym Mhrydain a'r Unol Daleithiau.

Gwahoddiad i ddrama'r geni Ysgol Botwnnog

Cerdyn gwahoddiad (di-ddyddiad) i ddrama'r geni Ysgol Ramadeg Botwnnog, lle bu Waldo Williams yn dysgu o 1942 hyd 1944. Ar gefn y cerdyn ceir enw 'Gruff [Gruffudd] Parry', cyd-athro i Waldo ym Motwnnog, ynghyd ag enwau rhai o gast y ddrama ac enw'r gyfeilyddes.

Results 121 to 140 of 1284