Identity area
Reference code
Title
Date(s)
- [1880x1895], 1941, 1943 (Creation)
Level of description
File
Extent and medium
1 ffolder
Context area
Name of creator
Archival history
Immediate source of acquisition or transfer
Content and structure area
Scope and content
Pamffledi a llyfrynnau ym meddiant John Edwal Williams yn ymwneud yn bennaf â sosialaeth a Theosoffiaeth, gan gynnwys deunydd a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas Ffabiaidd gan yr athronydd a'r llenor Thomas Carlyle a'r dramodydd, adolygydd a'r dadleuydd George Bernard Shaw ac eraill; yn ogystal â deunydd sy'n dyddio o'r 1940au, wedi marwolaeth John Edwal Williams. Arysgrifir llofnod John Edwal ar ambell ddalen. Cyhoeddwyd y deunydd ym Mhrydain a'r Unol Daleithiau.
Appraisal, destruction and scheduling
Accruals
System of arrangement
Conditions of access and use area
Conditions governing access
Conditions governing reproduction
Language of material
- English
Script of material
Language and script notes
Physical characteristics and technical requirements
Rhai tudalennau wedi'u rhwygo a/neu'n fregus; un llyfryn â'i dudalennau wedi dod yn rhydd oddi wrth y feingefn ac wedi'i ddiogelu mewn amlen.
Finding aids
Allied materials area
Existence and location of originals
Existence and location of copies
Related units of description
Notes area
Note
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cyhoeddodd y dramodydd, adolygydd a'r dadleuydd Gwyddelig George Bernard Shaw ddeunydd ar ran Gymdeithas y Ffabiaid (y Fabian Society), cymdeithas a sefydlwyd ym 1884 a ymgyrchai dros hyrwyddo sosialaeth ddemocrataidd trwy ymdrech raddoledig ddiwygiadol yn hytrach na thrwy gyfrwng gwrthryfel.
Ganed yr athronydd, llenor, hanesydd a'r mathemategydd Thomas Carlyle yn Ecclesfechan, Swydd Dumfries a'i addysgu yn Academi Annan a Phrifysgol Caeredin. Dylanwadwyd yn drwm ar Carlyle gan Ddelfrydiaeth Almaenig. Tra ym Mhrifysgol Caeredin yn ystod y blynyddoedd 1819-1821, profodd argyfwng ffydd a arweiniodd at gyhoeddiad ei waith Sartor Resartus (Y Teiliwr Wedi'i Ail-deilwra) (1836). Ymysg ei gyfeillion 'roedd y llenor, bardd a'r athronydd Trosgynolaidd Ralph Waldo Emerson (1803-1882) a'r cyfrinydd Edward Irving (1792-1834).
Mae sosialaeth yn cynnwys ystod o systemau economaidd a chymdeithasol wedi'u hamlygu gan gyd-berchnogaeth o unrhyw fodd cynhyrchu a hunan-reolaeth ar ran y gweithwyr, yn ogystal â'r damcaniaethau a'r mudiadau sydd ynghlwm wrth y systemau hynny.
Alternative identifier(s)
Access points
Subject access points
Place access points
Name access points
- Shaw, George Bernard, 1856-1950 (Subject)
- Carlyle, Thomas, 1795-1881. (Subject)