Showing 45762 results

Archival description
File Welsh
Advanced search options
Print preview View:

36 results with digital objects Show results with digital objects

Tensiynau o fewn y clymblaid a dewis aelodau i Ty'r Arglwyddi

Papurau yn ywmendu a chlymblaid Cymru'n Un rhwng Plaid Cymru a Llafur Cymru gan gynnwys nodiadau, gohebiaeth a phapurau yn trafod problemau o fewn y clymblaid, agwedd aelodau Plaid Cymru, asesiad o gyflawniad y llywodraeth ac opsiynau i barhau gyda'r clymbalid neu edrych ar drefniadau amgen a thrafodaethau o gwmpas aelodau Plaid Cymru o Dy'r Arglwyddi.

Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Ymgynghorol a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Ymgynghorol y Ganolfan, Hydref 2007, ac Ionawr, Chwefror, a Hydref 2008; agendâu, Chwefror, Mai, a Hydref 2008; adroddiad blynyddol y Ganolfan, 2007-2008 (2008); adroddiad a datganiadau ariannol y Ganolfan, 2007-2008 (2008); a gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (2008), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Angharad Elias a Geraint H. Jenkins. Yn ogystal, ceir cofnodion cyfarfodydd y Penaethiaid Prosiectau, Tachwedd a Rhagfyr 2007, ac Ionawr, Chwefror, Ebrill, Mai, a Gorffennaf 2008; a chopi o gylchlythyr y Ganolfan, rhif 11 (Haf 2008).

Llythyrau o Ganada

Llythyrau, 1982-1993, oddi wrth ei frawd William/Bill [Gwilym Eirwyn Eirug Davies] yng Nghanada a phapurau'n ymwneud â’i stad, 2006-2008.

Awduron anhysbys

Sgriptiau gan gynnwys 'Dringo yn yr Andes', comedi un act, buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 2004; 'Dim parcio dros nos'deialog ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Y Bala [1997]; 'Apocalyps', comedi ddu un act, buddugol yng nghystadleuaeth y ddrama fer yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008; a 'Last tango yn Capel Iwan' .

Gwaith llywodraeth

Papurau amrywiol am waith Llywodraeth Cymru'n Un gan gynnwys deunydd am sefydlu y Coleg Ffederal Cymraeg/Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Trafodaethau clymbleidio

Papurau amrywiol am clymblaid "Cymru'n Un" rhwng Plaid Cymru a Llafur Cymru yn dilyn etholiad i'r Cynulliad Cenedlaethol yn 2007 gan gynnwys copi o'r cytundeb, nodiadau ar gyfer areithiau, manylion y cytundeb, amnylion y cytundeb amgen rhwng Plaid Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig a Democratiaid Rhyddfrydol Cymu, gohebiaeth, torrion o'r wasg ac amserlen hyrwyddo'r cytundeb.

Trafodaethau clymbleidio

Papurau yn ymwneud a chlymblaid "Cymru'n Un" rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru yn 2007 gan gynnwys copiau drafft o'r cytundeb clymblaid gyda nodiadau, gohebiaeth, papurau cyfarfodydd, nodiadau, nodiadau ar gyfer y wasg, trefniadau monitro ac yn y blaen.

Materion staffio a gwaith pob dydd y llywodraeth

Deunydd ym ymwued a llywodraeth Cymru'n Un gan gynnwys copi o ddogfen yn son am amodau'r clymblaid, trefniadau monitor'r glymblaid, cyd-weithio gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol ar Gyngor Caerdydd, areithiau, rhai papurau am waith Ieuan Wyn Jones fel Gweinidog yr Economi.

Erthyglau i'r Cymro

Llungopïau o bedair erthygl a luniodd i'r Cymro o Ceylon ar T. Gwynn Jones, W. J. Gruffydd, R. Williams Parry a Saunders Lewis yn 1937; ynghyd â llungopïau o erthyglau i'r Cymro a ysgrifennodd gan ddefnyddio'r ffugenw 'Robin Bwrgwyn' yn 1939, ac erthygl, 2007, yn dathlu cyfraniad John Eilian i'r papur fel y golygydd cyntaf yn 1932.

Llyfrau sgrap Nans Jones

Tri llyfr sgrap Nans Jones: (i) papurau cymysg, 1982-2005, yn cynnwys englyn 'i Nans Jones ar ymddeol o'i swydd, Plaid Cymru', gan Ithel Davies, d.d.; (ii) papurau cymysg, 2000-2001; (iii) etholiad cyffredinol San Steffan, 2001; a (iv) torion rhydd, 1955-2007. (Grŵp Nans Jones, 2014).

Llyfr nodiadau 19

Llyfr nodiadau Ieuan Wyn Jones yn cynnwys nodiadau ar bynciau megis datbygu wleidig, Anglesey Aluminum, yr iaith Gymraeg a materion lleol Ynys Mon.

Results 81 to 100 of 45762