Monolog un act gan Luned Emyr, buddugol yng nghystadleuaeth y fedal ddrama yn Eisteddfod yr Urdd 2003 a gynhaliwyd yng Nghaerdydd, ynghyd â llythyr oddi wrth yr awdur, 2005.
Papurau amrywiol gan gynnwys nodyn o gyfarfod arweinwyr y pleidiau yn y Cynulliad ym Mis Ionawr 2004, cwyn am raglen Dragon's Eye, darlith y Pedwar Brawd, araith i Gynhadledd Wanwyn Plaid Cymru, trafodaethau rhwng Ieuan Wyn Jones a Nick Bourne a phenodiad cwnsler cyffredinol i'r Cynulliad
Llyfr nodiadau Ieuan Wyn Jones gan gynnwys nodiadau ar bynciau megis iechyd, digartrefedd, cyllideb y llywodraeth, cwestiynau i weinidogion a gwaith arferol y Cynulliad.
Papurau ynglyn ag ymgyrch etholiad y Cynulliad yn 2003 gan gynnwys canlyniadau canfasio, dogfennau cyfarfodydd ymgyrchu a deunydd ar Iraq a chyllid llywodraeth leol.