Dangos 24260 canlyniad

Disgrifiad archifol
Cyfres
Rhagolwg argraffu Gweld:

3 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Yr Eisteddfod Genedlaethol

Cyfansoddiadau buddugol ac anfuddugol, 1921-[1928], a anfonwyd gan T. Eirug Davies i'r Eisteddfod Genedlaethol, ynghyd â thystysgrifau, 1921-1930, a thorion o'r wasg, 1932-1936, yn ymwneud â'i lwyddiant fel bardd y goron a beirniad.

Y Pwyllgor Gwaith

Papurau'r Pwyllgor Gwaith, gan gynnwys papurau Dafydd Williams, Ysgrifennydd Cyffredinol Plaid Cymru.

Y Faner

Papurau, [1957]-1972, yn deillio o'i gyfnod fel golygydd Y Faner.

Waldo Williams

Deunydd gan neu'n ymwneud â Waldo Williams, gan gynnwys enghreifftiau gwreiddiol neu wedi'u llungopïo o'i farddoniaeth a'i ryddiaith (rhai ar ffurf drafft yn dangos datblygiad y broses gyfansoddi, gan gynnwys rhai enghreifftiau o'i ganu cynnar), ei nodiadau tra'n fyfyriwr yn y brifysgol ac, yn ddiweddarach, ar gyfer dysgu ysgolion haf a dosbarthiadau nos; gohebiaeth at ac oddi wrth Waldo Williams; a deunydd yn ymwneud â Waldo Williams, gan gynnwys peth o hanes ei ddyddiau ysgol, ei wrthodiad i dalu'r dreth incwm a'i ddedfryd a'i garchariad o ganlyniad i hynny, ysgrifau coffa a theyrngedau a luniwyd iddo yn dilyn ei farwolaeth a dathliadau canmlwyddiant ei eni.

Siopau preifat

Gohebiaeth; adroddiadau; torion o’r wasg; nodiadau; cofnodion cyfarfodydd; a datganiadau i’r wasg; 1984-2001; yn ymwneud â defnydd yr iaith Gymraeg mewn nifer o siopau a busnesau preifat a storfeydd cenedlaethol. Mae’r casgliad hefyd yn cynnwys nifer fach o ffotograffau.

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Canlyniadau 1 i 20 o 24260