Llythyrau, 1933-79, at WRN, yn ymwneud yn bennaf â'r Genhinen a chyhoeddi Beirdd Penfro (Aberystwyth, 1961) gan gynnwys rhai oddi wrth Euros [Bowen], 1972-5 (1/101, 107); Aneirin Talfan Davies, 1970-2 (1/90, 96-7); Cassie Davies, 1972 (1/102-5); y Parch. [D.] Jacob [Davies], 1962 a heb ddyddiad (1/56, 119); y Parch. [E.] Tegla [Davies], 1964 (1/59); y Parch. J. Eirian Davies, 1970 (1/89); yr Athro Pennar Davies, heb ddyddiad ( 1/131); Islwyn [Ffowc Elis], 1968 (1/81); [William Evans] 'Wil Ifan', 1950- 68 (1/12-13, 34, 67-9, 83-4); J. Gwyn Griffiths, 1962 (1/55); y Parch. H. T. Jacob, 1952 a heb ddyddiad (1/27, 122); Geraint Jarman, heb ddyddiad ( 1/120); [David Jones] ('Isfoel'), 1960-7 (1/46, 61, 65, 70, 75-6, 80); Gwilym R. [Jones], 1979 (1/109); John Legonna, 1972 (1/98-9); y Parch. Elvet Lewis [Elfed], 1948-53 a heb ddyddiad (1/2, 4-6, 8, 10-11, 14-15, 17- 20, 22, 26, 28-30, 33, 110-14); yr Athro Henry Lewis, 1953 (1/31); Saunders Lewis, 1966 (1/71); D. Tecwyn Lloyd, 1971 (1/92); Derec Llwyd Morgan, heb ddyddiad (1/115); yr Athro T. J. Morgan, 1967 (1/79); y Parch. T. E. Nicholas, heb ddyddiad (1/125); y Parch. J. Dyfnallt Owen, 1949-51 ( 1/7, 16, 23, 132); Iorwerth Peate, 1965-75 (1/64, 72, 87, 93, 106); [Edgar Phillips] 'Trefin', 1959-61 (1/42, 47, 53); Eigra [Lewis Roberts], 1972 ( 1/100); Kate Roberts, 1967-8 (1/73-4); David Thomas (Lleufer), 1963 (1/57); yr Athro Gwyn Thomas, 1965 (1/63); Alun Llywelyn-Williams, 1979 (1/88); D. J. [Williams], Abergwaun, 1968 (1/82); John Ellis Williams, 1972 (1/94); y Parch. J. J. Williams, heb ddyddiad (1/126); T. H. Parry-Williams, 1965 ( 1/62); a Waldo Williams, 1959-65 a heb ddyddiad (1/43, 45, 48-9, 52, 66, 123).