Identity area
Reference code
Title
Date(s)
- 1877-1917 (Creation)
Level of description
Fonds
Extent and medium
0.029 metrau ciwbig (1 bocs)
Context area
Name of creator
Biographical history
Ganwyd Richard Williams (Gwydderig, 1842-1917), bardd, ym Mrynaman, sir Gaerfyrddin. Aeth i weithio fel glöwr yn ifanc, yn dilyn marwolaeth ei dad, a chyflwynodd farddoniaeth i Y Gwladgarwr yn y cyfnod pan oedd William Williams (Caledfryn, 1801-1869) yn olygydd y golofn farddol. Ar ôl gweithio ym Mhennsylvania, UDA, am gyfnod, dychwelodd Gwydderig i Frynaman, a dechreuodd ei gerddi ennill gwobrau mewn eisteddfodau. Ei arbenigedd oedd yr englyn, a daeth yn adnabyddus yn y cylchoedd barddol fel 'Bardd yr englyn'. Cyhoeddwyd rhai o'i gerddi yn J.Lloyd Thomas (gol.), Detholion o waith Gwydderig (Llandybïe,1959). Yr oedd ei frawd Benjamin hefyd yn fardd.
Archival history
Ni wyddys sut y daeth yr archif i feddiant Mrs Phyllis Murphy a Mrs Susan Margaret Leah.
Immediate source of acquisition or transfer
Mrs Phyllis Murphy a Mrs Susan Margaret Leah, trwy law Mr Lewis Murphy; Llanelli; Adnau; Tachwedd 1985
Content and structure area
Scope and content
Papurau Gwydderig, yn cynnwys ei farddoniaeth a deunydd perthynol yn cynnwys beirniadaethau eisteddfodol, torion o'r wasg, adysgrifau o'i waith a gohebiaeth, 1877-1917; ynghyd â barddoniaeth gan feirdd eraill yn cynnwys William Williams (Myfyr Wyn, 1849-1900), a llyfr nodiadau ei frawd Benjamin Williams. = Papers of Gwydderig, comprising his poetry and related material including eisteddfod adjudications, press cuttings, transcripts of his works and correspondence, 1877-1917; together with poetry by other poets including William Williams (Myfyr Wyn, 1849-1900), and a notebook of his brother Benjamin Williams.
Appraisal, destruction and scheduling
Cadwyd yr holl gofnodion a adneuwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Accruals
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
System of arrangement
Trefnwyd yn y grwpiau canlynol: barddoniaeth; adysgrifiadau; llythyrau; amrywiol.
Conditions of access and use area
Conditions governing access
Conditions governing reproduction
Amodau hawlfraint arferol.
Language of material
- Welsh
- English
Script of material
Language and script notes
Cymraeg, Saesneg.
Physical characteristics and technical requirements
Finding aids
Mae copi caled o'r catalog ar gael ym Mân Restri a Chrynodebau 1986, tt. 38-41, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Allied materials area
Existence and location of originals
Existence and location of copies
Related units of description
Notes area
Note
Teitl yn seiliedig ar gynnwys yr archif.
Alternative identifier(s)
Virtua system control number
Project identifier
Access points
Subject access points
Place access points
Name access points
- Gwydderig, 1842-1917 -- Archives (Subject)
- Myfyr Wyn, 1849-1900. (Subject)
Genre access points
Description control area
Description identifier
Institution identifier
Rules and/or conventions used
Wrth lunio y disgrifiad hwn defnyddiwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH
Status
Level of detail
Dates of creation revision deletion
Mehefin 2003.
Language(s)
- Welsh
Script(s)
Sources
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Rhestr Mân Restri a Chrynodebau 1986; Dictionary of Welsh Biography down to 1940 (Llundain, 1959); Walters, Huw, Gweithgarwch llenyddol Dyffryn Aman yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif (Traethawd PhD Prifysgol Cymru Aberystwyth, 1985).
Archivist's note
Lluniwyd gan David Moore i brosiect ANW.