Dangos 843097 canlyniad

Disgrifiad archifol
Rhagolwg argraffu Gweld:

16077 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Adroddiadau iechyd a phapurau cysylltiedig

Adroddiadau a phapurau amrywiol yn ymwneud â materion iechyd Lesotho a chysylltiadau iechyd Dolen Cymru, gan gynnwys Action Aid Lesotho, 'Measures to prevent the spread of AIDS in Lesotho: a project proposal', 1986; gohebiaeth â Chymdeithas y Byddar y Gymanwlad, yn ymwneud ag adroddiad Anne Hewitt ar fyddardod ac addysg pobl fyddar yn Lesotho, ac ymweliad Mrs Phachaka, cynghorydd anghenion arbennig yn Lesotho â Chymru, 1992; gweithdai HIV ar gyfer Cyngor Eglwysi Lesotho, 1994; Athrofa Addysg Prifysgol Genedlaethol Lesotho, 'The status of environment, HIV/AIDS, child rights, nutrition and health and related life skill in the Lesotho schools curriculum', 1998; Roger Drew, 'HIV/AIDS study pack for community development workers', 1999; 'HIV/AIDS life skills programmes in southern Africa: the case of the kingdom of Lesotho', 1999; Tine Jaeger, 'Community health developement study pack for community development workers', 1999; E. B. Mokhosi et al., 'The situation and needs analysis survey of herdboys in Lesotho', 1999; M'akholu Nthabiseng Lebaka, 'Report of a visit to Wales', 2000; N. Lebaka ac A. Lephoto, 'A report of the workshop on counselling held in Blue Mountain Inn, Berea', 2000; a thestun (yn Sesotho) 'Tseba ka lefu la AIDS', d.d.

Adroddiadau iechyd a phapurau cysylltiedig

Adroddiadau yn ymwneud â materion iechyd Lesotho a chysylltiadau iechyd Dolen Cymru, gan gynnwys taflen wybodaeth y Gymanwlad, 'Lesotho', 1980; Gweinyddiaeth Iechyd Lesotho, 'Rural hosehold survey: pilot sites three & four baseline data', 1985; Gweinidogaethau Mewnol ac Iechyd Lesotho, 'Final report on health education project, July 1984-November 1985', 1986; adroddiadau blynyddol Gwasanaeth Iechyd Ardal Quthing, 1986, 1988 a 1989; Philp Vernon, 'Care International in Lesotho: multi-year plan FY91-95, part 1', 1990; a Gweinyddiaeth Iechyd Lesotho, 'Health in Lesotho', 1993.

Adroddiadau iechyd a phapurau cysylltiedig

Adroddiadau a phapurau amrywiol yn ymwneud â materion iechyd Lesotho a chysylltiadau iechyd Dolen Cymru, gan gynnwys Beth Hookey, 'Evaluation of the Mantsonyane AIDS program, St James Mission Hospital', 2002; Judith Stammers ac Andy Scrace, 'Proposal for mental health training for village health workers in Berea district', 2003; 'Ty Health workshop report', 2004'; llyfryn (yn Sesotho) 'Kutlo o fumana thuot e bohloko' ynglyn â chlefydau a drosglwyddir yn rhywiol, c.2004; Comisiwn AIDS Cenedlaethol, 'National HIV and AIDS monitoring and evaluation plan (2006-2011)', 2007; memoranda cyd-ddealltwriaeth rhwng Dolen Cymru a'r Weinyddiaeth Iechyd a Lles Cymdeithasol, 2008, Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a'r Fro ac Ysbyty'r Frenhines Elizabeth II, Maseru, 2008, ac Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru a Chymuned Iechyd Ardal Quthing, Maseru, 2009; Andy Scrase, 'Women and mental health in Lesotho: a personal overview by a British nkono', 2010; a llyfryn (yn Sesotho) 'Rua tsebo ka seo o ka se etsang ho thusa oa heno (lefu/bokooa ba kelello)', ynglyn â salwch meddwl ac anabledd, [d.d.].

Adroddiadau Pwyllgorau Sir y mudiad: Morgannwg Ganol - (6/1) Memorandwm ynglyn â darparu addysg gynradd Gymraeg yng Nghylch Pontypridd yn ...,

Adroddiadau Pwyllgorau Sir y mudiad: Morgannwg Ganol - (6/1) Memorandwm ynglyn â darparu addysg gynradd Gymraeg yng Nghylch Pontypridd yn y dyfodol, 1981; (6/2) Memorandwm atodol i'r uchod; (6/3-8) Arolwg o ddarpariaeth addysg gynradd Gymraeg yn ardaloedd Cwm Cynon, Y Rhondda, Ogwr, Cwm Rhymni, Merthyr Tudful a Taf-Elai, 1983-4; (6/9) Dyfodol addysg gynradd Gymraeg ym Morgannwg Ganol, 1986;. Gorllewin Morgannwg - (6/10) Trydedd Ysgol Gynradd Gymraeg yn Abertawe, 1986; Gwent - (6/11) Datblygiad addysg gynradd Gymraeg yng Ngwent at y dyfodol, 1987.

Canlyniadau 1161 i 1180 o 843097