- PL1.
- cyfres
- 1958-[1992].
Rhan oPapurau D. Tecwyn Lloyd,
Cyfrolau ac eitemau rhydd, 1958-[1992], yn dangos ei hiwmor, a'i ddawn gyda chaligraffi.
Rhan oPapurau D. Tecwyn Lloyd,
Cyfrolau ac eitemau rhydd, 1958-[1992], yn dangos ei hiwmor, a'i ddawn gyda chaligraffi.
Rhan oPapurau D. Tecwyn Lloyd,
Papurau, [1926]-1989, yn ymwneud â Saunders Lewis gan gynnwys traethawd beirniadol buddugol Tecwyn Lloyd ar waith Saunders Lewis, Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi 1942; llythyrau’n trafod enwebu Saunders Lewis ar gyfer gwobr Nobel yn 1970; a'i draethawd PhD arfaethedig ar y llenor.
Rhan oPapurau Norah Isaac,
Llythyrau at Norah Isaac oddi wrth Saunders Lewis, 1953-[1979], llythyrau oddi wrth hoelion wyth yr Eisteddfod Genedlaethol, a llythyrau pan y'i gwnaed yn Gymrawd o'r sefydliad hwnnw yn 1988.
Rhan oPapurau Norah Isaac,
Papurau amrywiol, 1886-2003, yn ymwneud â gyrfa a diddordebau Norah Isaac. Ceir enghreifftiau o gerddi a ysgrifennwyd ganddi ac amdani; papurau a grynhowyd ganddi; a phapurau yn ymwneud â'i chyfnod fel darlithydd yn Y Barri; ynghyd â thaflen ei hangladd.
Llythyrau, 1914-1962, at G.J. Williams oddi wrth ysgolheigion, llenorion, cyhoeddwyr a chyfeillion. Mae'r mwyafrif yn ymwneud â'i arbenigedd yn yr iaith Gymraeg a'i llenyddiaeth, ac ysgolheictod Cymraeg, gan gynnwys ei gyhoeddiadau, ei waith ymchwil, a'i aelodaeth o fwrdd golygyddol Geiriadur Prifysgol Cymru. Mae nifer yn ymwneud â'i weithgareddau fel siaradwr gwadd, darlithydd, athro, a beirniad eisteddfodol, a rhai'n ymwneud â materion gwleidyddol, yn arbennig sefydlu Plaid Cymru a helynt yr Ysgol Fomio. Ceir cyffyrddiadau mwy personol yn rhai o'r llythryau.
Papurau personol G. J. Williams, yn cynnwys ei basport a phapurau'n ymwneud â'i ymweliad â Rhufain, 1938, a Milan, 1947; tocynnau a rhaglenni ciniawau a darlithoedd, 1916-1962; ceisiadau am swyddi, 1914-1958; a phapurau ariannol ac amrywiol, 1918-1963.
Traddodiad llenyddol Morgannwg
Cyhoeddiadau a phapurau ymchwil G. J. Williams ar draddodiad llenyddol Morgannwg, gan gynnwys drafft llawysgrif o'r gyfrol Traddodiad Llenyddol Morgannwg (1948); ei draethawd buddugol ar feirdd Morgannwg yn Eisteddfod Genedlaethol Castell Nedd, 1918; darlithoedd ac erthyglau, [1911x1963]; a nodiadau amrywiol, [1911x1963].
Drafftiau darlithoedd ac erthyglau gan G. J. Williams, ynghyd â nodiadau amrwyiol, yn ymwneud yn bennaf â'r Eisteddfod a'r Orsedd.
Adroddiadau, tystysgrifau ac anrhydeddau,
Rhan oPapurau Pennar Davies,
Adroddiadau ysgol, tystysgrifau academaidd a thystlythyrau, [1919]-1987.
Rhan oPapurau Pennar Davies,
Dyddiadur, papurau amrywiol a'i draethawd BLitt, [1933]-1938.
Papurau gwleidyddol, 1954-1985, gan gynnwys ei anerchiadau etholiadol fel ymgeisydd i Blaid Cymru.
Torion o'r wasg, [1936]-[1999].
Papurau, 1948-1999, yn ymwneud ag ysgrifau ac erthyglau ganddo.
Mae'r gyfres yn cynnwys cofrestri eglwysig a rhestri aelodau Eglwys Seilo, ynghyd â chofnodion a chyfrifon ar gyfer Capel Ebenezer (gweler disgrifiad lefel ffeil). Cofnodir enwau a chyfeiriadau aelodau'r eglwys, cymunwyr newydd a phlant yr eglwys. Ceir nodyn hefyd os ydynt wedi ymadael i eglwysi eraill neu os bu farw aelodau. Mae rhai cyfrolau yn cynnwys ystadegau am aelodaeth yr eglwys a chyfrifon ariannol.
Mae'r gyfres yn cynnwys llyfrau ariannol amrywiol, 1878-1952, yn eu plith cyfrolau sy'n cofnodi derbyniadau a thaliadau, 1878-1947; a chyfriflyfrau sy'n cofnodi holl weithgarwch ariannol yr eglwys, 1878-1952.
Mae'r gyfres yn rhestru cymerwyr seddau, y nifer o leoedd, y pris chwarterol, ôl-ddyled a'r symiau a dderbyniwyd, 1898-1956 (gyda bylchau).
Llyfrau casgliad y Weinidogaeth,
Mae'r gyfres yn cynnwys enwau aelodau, eu cyfeiriad a'u cyfraniadau at y Weinidogaeth.
Mae'r gyfres yn cynnwys cyfrifon Ysgrifennydd yr Ysgol Sul, sef rhestri aelodau'r dosbarthiadau a'r arolygwyr, ac ystadegau yn cofnodi presenoldeb, nifer yr adnodau, a chyfraniadau yn bennaf.
Gohebiaeth Harri ac Eirwen Gwynn,
Rhan oPapurau Harri Gwynn,
Llythyrau rhwng Harri ac Eirwen Gwynn, [1936]-1944, a ysgrifennwyd yn y cyfnod cyn iddynt briodi yn bennaf, ac wedi hynny, yn trafod materion personol a phroffesiynol.
Gwynn, Eirwen
Rhan oPapurau Harri Gwynn,
Papurau, 1924-1992, yn deillio o gyfnod Harri Gwynn yn yr ysgol ac yn y Brifysgol, papurau'n ymwneud â'r mudiad Gwerin, a thorion o'r wasg yn cynnwys teyrngedau iddo.