Dangos 839539 canlyniad

Disgrifiad archifol
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

9559 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Robert Williams,

Porthmadog. Anfon copi o lyfryn Hanes Porthmadog gan obeithio y soniai amdano yn y 'Manion'.

Robert Williams Talycafn,

Mae'n ysgrifennu iddo fwynhau darllen llyfr W. J. Gruffydd ar gywyddau Goronwy Owen [Cywyddau Goronwy Owen (Casnewydd, 1907)]. Gormod fyddai disgwyl i bawb gytuno ag ef ar bob pen. Dadleuodd W. J. Gruffydd mewn ffordd deg a boneddigaidd. Mae Cymru yn gallu magu rhai sy'n medru esbonio cyfrinion ei llenyddiaeth. Mae'n llawlyfr a all gystadlu â goreuon llawlyfrau y clasuron Lladin a Groeg a gyhoeddir gan weisg y prifysgolion Seisnig.

Robert Williams.

Ychydig o gyfrifon, 1893-4, yn ymwneud â'r brig 'Palestine' (Robert Williams, Master), gyda chopi o lythyrau cydymdeimlad, 1888-9, at Miss [Catherine] Williams a'i thad a'i brawd, John, ar farwolaeth ei mam [Mrs Capt. R. Williams, Porthmadog]. Ymhlith yr ysgrifenwyr y mae'r Parch. Robert Owen, Pennal, a'r Parch. J. J. Roberts, ['Iolo Caernarfon'], Porthmadog.

Canlyniadau 9661 i 9680 o 839539