Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 1284 canlyniad

Disgrifiad archifol
Ffeil Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

2 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Papurau pwyllgor

Agendâu, adroddiadau, cofnodion a phapurau cysylltiedig cyfarfodydd ymddiriedolwyr a phwyllgorau gweithredol a phwyllgorau iechyd, gan gynnwys cyfrifon blynyddol ar gyfer 2009/10, 2010/11, 2012/13 a 2014/15.

Papurau'r Pwyllgor 2010

Cofnodion cyfarfod, Hydref 2009, a Mai a Hydref 2010; agendâu’r Pwyllgor, Mai a Hydref 2010; adroddiad ariannol y Pwyllgor, 2009-2010 (2010); adroddiadau prosiectau ymchwil (2010); manylion o gynigion prosiect a ymgeision am ariannu brosiectau ymchwil (2010); ac adroddiadau gan olygyddion cyfnodolion (2010). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (2010), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Angharad Elias; Christine James; Paul Russell; Jenny Rowland; Patrick Sims-Williams; David Austin; Andrew Fleming; Jeffrey L. Davies; William Manning; Niall Sharples; Stephen Driscoll; Edel Bhreathnach; a Ralph Griffiths.

Nodiadau ar ffynhonnau

Adroddiadau, cyfeiriadau, darluniau a ffotograffau o amryw ffynhonnau, yn cynnwys Ffynnon Fair, p. Aberdaron, Ffynnon Beuno, p. Clynnog Fawr, ffynhonnau Llandrindod, ffynhonnau'r Gogarth, p. Llandudno, Capel Ffynnon Fair, p. Llanelwy, Ffynnon Faglan, p. Llanfaglan, Ffynnon Gathen, p. Llangathen, St Anne's Well, p. Llanmihangel, Ffynnon Ddyfnog, p. Llanrhaeadr Dyffryn Clwyd, Ffynnon Fair, p. Llanrhos, Ffynnon Fyw, p. Mynytho, Ffynnon Pilalau, p. Pilalau, Ffynnon Aelrhiw, p. Rhiw, Ffynnon Ffraid, p. Swyddffynnon, a Ffynnon Gwenfrewi, p. Treffynnon. Hefyd llungopïau o erthyglau yn ymwneud â spa Trefriw, Sir Gaernarfon, [c.1930au]; cyfeirnodau grid ffynhonnau a enwir A-G; 'Wellsprings', rhif 11 (Mawrth 2009), a chyfieithiad o 'Llygad y ffynnon', rhif 31 (Nadolig 2011) i Saesneg gan Sefydliad Wellsprings.

Papurau iechyd amrywiol

Papurau iechyd amrywiol, gan gynnwys ymweliad Pwyllgor HIV/AIDS Senedd Lesotho â Chymru, Mawrth; 'NHS appraisal: a short stay in Lesotho, 2006-2007', gan Dr D. Liesbeth Meuwissen a Dr Carl Clowes, Ebrill, ynghyd â 13 ffotograff; a drafft 'Requirements for medical students, medical, dental and professional staff working in Lesotho with the support of Dolen Cymru / Lesotho Wales Link', Rhagfyr 2008.

Papurau'r Pwyllgor 2009

Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cyhoeddiadau ac Ymchwil Gydweithredol Prifysgol Cymru, Hydref 2008 ac Ebrill 2009; agendâu’r Pwyllgor, Ebrill 2008 a Hydref 2008; adroddiad ariannol y Pwyllgor, 2008-2009 (2009); adroddiadau prosiectau ymchwil (2009); adroddiad cyhoeddiadau Prifysgol Cymru (2009); manylion o gynigion prosiect a ymgeision am ariannu prosiectau ymchwil (2009); ac adroddiadau gan olygyddion cyfnodolion (2009). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (2009), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Angharad Elias; Ralph Fevre; Richard Wyn Jones; Geraint Phillips; Alaw Mai Jones; Richard Jenkins; Graham Day; John Tribe; Adam Jaworski; Mark Sebba; Pádraig Ó Riagáin; K.S. Williams; Rod Morgan; Dan Hough; Hugh Mackay; Robert Silvester; Peter Webster; John Collis; Ian Ralston; Tadhg O’Keefe; F.A. Aberg; Jutta Leskovar; Klaus Löcker; a J. Beverley Smith.

Cyffredinol

Llythyrau amrywiol a phapurau eraill, gan gynnwys Mike German yn olynu Carl Clowes fel llywydd Dolen Cymru, Medi; ymweliad y Brenin Letsie III â Chaerdydd, Tach., gan gynnwys rhaglen ar gyfer arwerthiant addewid Dolen Cymru; nawdd Tywysog Harry i Dolen Cymru; cofnodion a phapurau'r pwyllgor; a 3edd Cynhadledd Ryngwladol Lesotho, Caerdydd.

Mesur yr Iaith Gymraeg

Papurau amrywiol ynglyn a Mesur yr Iaith Gymraeg gan gynnwys nodiadau, gohebiaeth, rhestrau cyrff o fewn cylch gorchwyl y deddf a drafftiau y Gorchymun Cymhwyso Deddfwriaeth.

Cyffredinol

Llythyrau amrywiol a phapurau eraill, gan gynnwys yn ymwneud â Chynhadledd Lesotho, Cumberland Lodge, Gorff.; nawdd Tywysog Harry i Dolen Cymru; adroddiad blynyddol y Lesotho Teacher Placement Programme 2006/07.

Papurau iechyd amrywiol

Papurau iechyd amrywiol, gan gynnwys adroddiad gwerthuso cymuned Ardal Quthing 2007; Comisiwn Cenedlaethol AIDS Lesotho, 'Coordination framework for the national response to HIV and AIDS', Mawrth 2007; ac adroddiad gan Manon Dafydd, 'Sut mae llywodraethau Cymru a Lesotho yn ôl i'r clefyd HIV yn y ddwy wlad', [c.2007].

Papurau'r Pwyllgor 2007

Agenda’r Pwyllgor Cyhoeddiadau ac Ymchwil Gydweithredol Prifysgol Cymru, Hydref 2007; adroddiad ariannol y Pwyllgor, 2006-2007 (2007); adroddiad blynyddol y Bwrdd Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Cymru, 2006-2007 (2007); adroddiad Gwasg Prifysgol Cymru i’r Ganolfan (2007); adroddiad Llên Cymru (2007); cyfarwyddiadau i ymgeiswyr grantiau Prifysgol Cymru (2007); a llythyrau cysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (2007), oddi wrth Vera Bowen; Ralph Griffiths.; a Jeffrey L. Davies.

Papurau'r Pwyllgor 2008

Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cyhoeddiadau ac Ymchwil Gydweithredol Prifysgol Cymru, Hydref 2007 ac Ebrill 2008; ac agendâu Ebrill 2008 a Hydref 2008; adroddiad ariannol y Pwyllgor, 2007-2008 (2008); adroddiad cyhoeddiadau Prifysgol Cymru (2008); a manylion o ymgeision am ariannu prosiectau ymchwil (2008). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (2007-2008), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Angharad Elias; Sarah Lewis; Geraint H. Jenkins; Richard Bullen; Jemma Bezant; Malin Stegman McCallion; J. Beverley Smith; Mark Simon; Ralph Fevre; Andrew Thompson; Geraint Phillips; Wendy Davies; Anne Ray; Ashley Drake; Ian George; P. D. A. Harvey; Elizabeth Danbury; Neil Evans; Bill Jones; D. W. Bebbington; a Stewart Brown.

Cyffredinol

Llythyrau amrywiol a phapurau eraill, gan gynnwys ymweliad Ken Tsekoa, gweinidog addysg Lesotho, â Chymru, Mawrth; ymweliad Jane Davidson, gweinidog addysg, â Lesotho, a'i datganiad ysgrifenedig dilynol, Ebrill; marwolaeth Sarah Warren ar ôl iddi ddychwelyd o Lesotho, Mai; newid baner Lesotho, Hydref; ymweliad y Tywysog Seeiso Bereng Seeiso, comisiynydd uchel, â de Cymru, Tach.-Rhag.; Lesotho Teacher Placement Programme; Dolen Cymru Three Year Plan 2007-2010; pamffledyn hanes Polytechnig Lerpoli 1905-2005; a'r Welsh International Sustainable Development Framework.

Canlyniadau 41 i 60 o 1284